Newid ffawd y Torïaid am gymryd amser - Kemi Badenoch

Kemi BadenochFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Cymerodd Kemi Badenoch yr awenau fel arweinydd y Ceidwadwyr 11 mis yn ôl

  • Cyhoeddwyd

Mae arweinydd y Blaid Geidwadol wedi dweud na all hi newid ffawd ei phlaid "dros nos".

Fe wnaeth plaid Kemi Badenoch ddioddef colled fawr yn yr etholiad cyffredinol y llynedd.

Fe gollon nhw eu holl seddi yng Nghymru, ac mae arolygon barn yn awgrymu bod y blaid yn y pedwerydd safle ar gyfer etholiad nesaf Senedd Cymru.

Dywedodd y bydd yn cymryd "amser i adennill ymddiriedaeth y cyhoedd".

'Set gredadwy o bolisïau'

Wrth siarad â BBC Cymru cyn cynhadledd ei phlaid, dywedodd Ms Badenoch fod y Torïaid yn "sicrhau bod gennym set gredadwy o bolisïau".

Dywedodd Ms Badenoch fod y Ceidwadwyr yn "dîm cryf".

"Ni hefyd yw'r rhai sy'n deall sut mae llawer o'r pethau hyn yn gweithio.

"Mae gennym y gallu i feddwl am gynlluniau fel nad ydyn nhw'n chwalu, fel mae cynlluniau Reform yn ei wneud unwaith y bydd unrhyw un yn dechrau gofyn cwestiynau."

Dywedodd Ms Badenoch: "Nid yw hyn yn rhywbeth rydyn ni'n mynd i'w wneud dros nos. Bydd rhwystrau ar hyd y ffordd.

"Ond os byddwch chi'n rhoi'r gorau iddi, oherwydd bod rhwystrau, yna dydych chi ddim yn haeddu bod mewn llywodraeth."

Pan holwyd hi a allai hi wella'r sefyllfa erbyn etholiad mis Mai yng Nghymru, ychwanegodd: "Rydyn ni wedi bod mewn sefyllfaoedd anodd o'r blaen ac rydyn ni wedi dod yn ôl ohonyn nhw, a byddwn ni'n ei wneud eto."

Mae'r blaid wedi wynebu cwestiynau ynghylch a fyddai'n cefnogi Llywodraeth Cymru o dan arweiniad Reform neu Blaid Cymru.

Nid yw Ms Badenoch ac arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, Darren Millar, wedi diystyru hynny.

'Gwybod beth rydyn ni'n ei gynrychioli'

Dywedodd Ms Badenoch wrth BBC Cymru ei bod wedi cael "sgwrs hir" gyda Mr Millar am yr hyn a allai ddigwydd ar ôl yr etholiad ym mis Mai.

Unwaith eto, nid oedd yn fodlon dweud a fyddai ei phlaid yn gweithio gyda Reform.

"Nid nawr yw'r amser i siarad am weithio gyda phleidiau eraill," meddai.

"Nawr yw'r amser i bobl wybod beth rydyn ni'n ei gynrychioli. Os nad yw pobl yn gwybod beth rydyn ni'n ei gynrychioli, yna dydyn ni ddim am gael y pleidleisiau.

"Rydyn ni wedi siarad am sut rydyn ni'n mynd i wrthdroi'r camgymeriadau sydd wedi'u gwneud o amgylch mewnfudo, rydyn ni wedi siarad am sut rydyn ni'n mynd i roi'r gorau i fethdalu'r wlad gydag agenda sero net sy'n gwneud biliau mor ddrud, ond nad yw'n gwella'r amgylchedd.

"Rydyn ni'n siarad am sut rydyn ni'n mynd i wneud yr economi'n llawer gwell, a bydd mwy yng nghynhadledd yr wythnos nesaf."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.