Dim egwyddorion gan Aelod o'r Senedd newydd Reform, meddai'r Torïaid

Laura Anne JonesFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Laura Anne Jones, ar ôl 31 mlynedd o fod yn aelod o'r Ceidwadwyr, ei bod hi prin yn adnabod y blaid erbyn hyn

  • Cyhoeddwyd

Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu cyn-aelod Torïaidd o'r Senedd sydd wedi gadael y blaid er mwyn ymuno â Reform UK.

Dywedodd un AS Ceidwadol nad oes gan Laura Anne Jones unrhyw egwyddorion, a dywedodd un arall ei bod "wastad yn y newyddion am y rhesymau anghywir".

Mewn cyhoeddiad annisgwyl ar faes y Sioe Frenhinol ddydd Mawrth, dywedodd Ms Jones ei bod yn gadael y Torïaid ar ôl 31 mlynedd i ymuno â phlaid Nigel Farage.

Fe ddywedodd Reform ei bod hi wedi gwneud penderfyniad "egwyddorol" drwy ymuno â nhw.

Yn y cyfamser, mae cadarnhad bod dau gynghorydd yng Nghonwy wedi gadael y Ceidwadwyr Cymreig i ymuno â Reform.

'Croeso i Reform gael y penawdau'

Dywedodd Tom Giffard, AS Gorllewin De Cymru, wrth raglen Dros Frecwast BBC Radio Cymru bod y Ceidwadwyr wedi rhoi "llawer o gefnogaeth i Laura dros y blynyddoedd diwethaf".

"Ond i ddweud y gwir [dydy hi] braidd byth yn troi fyny i gwaith a ni yn gwybod bo Nigel Farage braidd troi lan i San Steffan i bleidleisio a chymryd rhan mewn dadleuon a Laura wneud yr un peth - felly dwi'n siŵr fydd y ddau yn ffitio mewn yn berffaith.

"Y peth pwysig nawr ydy ein bod wedi cael gwared ar berson sydd wastad yn y newyddion am y rhesymau anghywir a chroeso i Reform gael y penawdau yna."

Wrth siarad ar raglen BBC Radio Wales Breakfast fore Mercher, dywedodd James Evans, AS Ceidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed, bod Ms Jones "yn ffrind agos".

Ond daeth i wybod am ei hymddiswyddiad yn y gynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth.

"Fi a Laura wedi siarad, ac rydw i wedi gwneud fy marn yn glir iawn. Dydw i ddim yn meddwl ei bod hi wedi gwneud y penderfyniad cywir," meddai.

"Rydw i'n gredwr pendant, os ydych chi'n ethol aelod Ceidwadol o'r Senedd, mae dyletswydd arno chi i wasanaethu fel aelod Ceidwadol hyd ddiwedd y tymor hwnnw er lles eich etholwyr a'ch plaid."

ochr yn ochr â Mr Farage.Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe ymddangosodd Laura Anne Jones ochr yn ochr â Nigel Farage mewn cynhadledd i'r wasg ar faes y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd

Yn y cyfamser, mae Reform wedi cadarnhau wrth raglen deledu Newyddion S4C bod dau gynghorydd Ceidwadol ar Gyngor Sir Conwy wedi ymuno â nhw.

Dywedodd y Cynghorydd Thomas Montgomery a'r Cynghorydd Louise Emery eu bod yn teimlo'n "drist" dros eu penderfyniad ond na allen nhw "eistedd 'nôl dim mwy".

Ychwanegodd bod "y ddwy brif blaid [Llafur a'r Ceidwadwyr] wedi methu".

Mae Thomas Montgomery wedi cynrychioli ward Tudno ers 2022, ac ef hefyd yw dirprwy faer Llandudno.

Mae Louise Emery wedi gwasanaethu fel cynghorydd sir ar gyfer ward Gogarth Mostyn ers 2017, ac mae hi wedi bod yn Ddirprwy Arweinydd ac wedi dal swyddi cabinet.

Mae hi hefyd yn gynghorydd tref yn Llandudno.

"Heddiw, mae Louise a minnau wedi ymuno â'r degau o filoedd o bobl ledled ein gwlad sy'n sylweddoli nad yw'r ddwy blaid fawr wedi llwyddo i ddarparu'r newid sydd ei angen arnom," meddai'r Cynghorydd Montgomery.

Mae Aelod o'r Senedd Ceidwadol dros Aberconwy, Janet Finch-Saunders, wedi galw ar y ddau i ymddiswyddo, gan ddweud y dylai is-etholiadau gael eu cynnal.

Mae hefyd yn cyhuddo'r ddau o fod yn "glory hunters" gan ychwanegu y byddan nhw "ddigon buan yn dod i sylweddoli eu bod wedi eu camarwain gan Reform".

Dywedodd Reform eu bod mewn "sgyrsiau cyson gydag aelodau eraill o bob plaid" ond nad ydyn nhw'n "gwneud sylwadau am sgyrsiau preifat".

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.