Y Ceidwadwyr yn 'hyderus' o'u gallu i adennill ymddiriedaeth

Awgrymodd Paul Davies y byddai'r Ceidwadwyr yn cydweithio ag unrhyw un "er mwyn cael gwared â'r Blaid Lafur"
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i'r Ceidwadwyr geisio adennill ymddiriedaeth pobl yng Nghymru a thu hwnt os am brofi llwyddiant yn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf, yn ôl aelod blaenllaw o'r blaid.
Dywedodd Paul Davies y gallai hynny "gymryd amser" wedi'r golled yn Etholiad Cyffredinol y llynedd, pan gollodd y Torïaid bob un o'u seddi yng Nghymru.
Ond ychwanegodd Aelod o'r Senedd etholaeth Preseli Sir Benfro ei fod yn "hyderus" y gallai'r blaid wneud hynny.
Nododd hefyd nad oedd yn deall pam fod cyn-aelodau'r blaid yn troi at "blaid brotest" fel Reform, a'i bod yn bwysig fod eu polisïau yn dychwelyd i fod yn rhai "sy'n adlewyrchu ein ceidwadaeth".
- Cyhoeddwyd11 Awst
- Cyhoeddwyd7 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Ar drothwy blwyddyn hollbwysig, bu Paul Davies yn siarad ag Elliw Gwawr ar raglen Newyddion S4C yn y pedwerydd mewn cyfres o gyfweliadau gydag aelodau blaenllaw y prif bleidiau gwleidyddol.
Wrth asesu gobeithion y Ceidwadwyr ar gyfer yr etholiad ym mis Mai, dywedodd Mr Davies ei fod yn credu gallai'r blaid lwyddo os ydyn nhw'n gallu trosglwyddo eu neges yn effeithiol.
"Wrth gwrs mae lot o waith gyda ni i 'neud fel plaid, ni'n ymwybodol iawn o hynny - ond 'wi'n credu bo' ni'n cynnig cynllun go iawn i drwsio Cymru," meddai.
"Ry' ni'n credu bod Cymru wedi torri, mae'r gwasanaeth iechyd wedi torri o dan lywodraethau Llafur sydd wedi cael eu cefnogi gan Blaid Cymru...
"Ry' ni'n gweld bod y system addysg yn gwaethygu dan lywodraethau llafur... a ry' ni'n gweld y cyflogau isaf ym Mhrydain.
"Mae'n rhaid i ni weld dewis arall nawr, a dyna be y' ni'n ei gynnig fel Ceidwadwyr Cymreig."
'Wedi colli' ein ceidwadaeth
Mae arolygon barn diweddar ar gyfer etholiad y Senedd yn awgrymu fod y Ceidwadwyr yn bedwerydd - y tu ôl i Blaid Cymru, Reform a Llafur.
Ond mae Mr Davies yn dweud ei fod yn hyderus o allu'r blaid i frwydro 'nôl.
"Arolygon barn yw'r rhain, a'r pôl sy'n bwysig yw'r un ar 7 Mai y flwyddyn nesaf, mae llawer o waith 'da ni i neud ond 'wy'n hyderus y gallwn ni gael ein negeseuon ni drosodd i bobl Cymru," meddai.
"Rhaid cofio ein bod ni wedi colli etholiad cyffredinol y flwyddyn ddiwethaf, ac wrth gwrs mae'r pethau yma yn mynd i gymryd amser - ond mae'n rhaid i ni trial cael ymddiriedaeth pobl Cymru, a phobl Prydain yn ôl dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf.
"Mae Darren Millar wedi ei gwneud hi'n glir bod pob polisi ry' ni'n ei gyflwyno yn gorfod bod yn geidwadol.
"Wi'n credu, yn anffodus, ein bod ni efallai wedi colli hynny dros y blynyddoedd diwethaf, a dyna pam efallai ein bod ni wedi colli rhai cyn-aelodau."

Fe gyhoeddodd Laura Anne Jones ei bod hi wedi gadael y blaid Geidwadol i ymuno â Reform nôl ym mis Gorffennaf
Dros y misoedd diwethaf mae aelodau blaenllaw o'r blaid Geidwadol yng Nghymru wedi dewis ymuno â Reform.
Ym mis Gorffennaf fe gyhoeddodd y cyn-AS Ceidwadol a chyn-ysgrifennydd Cymru, David Jones, a'r Aelod presennol o Senedd Cymru, Laura Anne Jones eu bod yn symud at blaid Nigel Farage.
Ond dywedodd Mr Davies nad oedd yn deall penderfyniadau'r aelodau hyn.
"Plaid brotest yw Reform," meddai.
"Does dim arweinydd ganddyn nhw yng Nghymru, wrth gwrs maen nhw'n dda am gydnabod y problemau, ond dy' nhw ddim yn dda am gydnabod yr atebion i'r problemau hynny.
"Maen nhw eisiau gwladoli rhai o'n diwydiannau ni, gwario yn uchel, a dy' nhw ddim eisiau byw o fewn ein modd - ry' ni'n gweld hynny achos maen nhw moyn codi'r cap ar fudd-daliadau dau blentyn, er enghraifft.
"Dim plaid geidwadol yw Reform, maen nhw'n dilyn polisïau sosialaidd i fod yn onest, a dwi'n synnu fod rhai o'n cyn-aelodau yn cefnogi ac yn ymuno gyda Reform."
'Barod i weithio gydag unrhyw un'
Er hynny, awgrymodd fod ei blaid yn barod i gydweithio gyda Reform pe bai'r angen yn codi wedi'r etholiad y flwyddyn nesaf.
"Mae'n arweinydd ni wedi ei gwneud hi'n eithaf clir ein bod ni'n barod i weithio gydag unrhyw un er mwyn cael gwared â'r Blaid Lafur," esboniodd.
Ychwanegodd eu bod wedi siarad â nifer o bobl a sefydliadau i sicrhau bod eu polisïau yn geidwadol, a'r nod nawr dros yr wythnosau a'r misoedd nesaf yw "gwneud popeth o fewn ein gallu i fynd allan i siarad â phobl, yn enwedig pobl ifanc, a'u perswadio i gefnogi ni".
Bydd cyfle i glywed gan bob plaid dros yr wythnosau nesaf, a gallwch eisoes ddarllen am gyfweliadau gyda chynrychiolwyr Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Reform.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.