Casnewydd 'wedi syfrdanu' â'r ymateb i grys ffoaduriaid Gwlad y Basg

Mae'r crys oddi cartref yn cynnwys enwau'r 36 o blant ddaeth i Gaerllion, geiriau yn y Gymraeg, Saesneg a'r Fasgeg, a neges am yr hanes
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Casnewydd yn dweud eu bod "wedi syfrdanu" â'r ymateb i'w cit newydd, sy'n deyrnged i blant oedd yn ffoaduriaid o Wlad y Basg yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen.
Cafodd 36 o blant eu cludo o Bilbao i Gaerllion yn 1937 er mwyn ffoi rhag yr ymladd, ac mae rhai o'u disgynyddion yn dal i fyw yn y dref hyd heddiw.
Nos Fawrth oedd y tro cyntaf i Gasnewydd wisgo eu cit oddi cartref newydd - wedi'i ysbrydoli gan streipiau coch a gwyn Athletic Bilbao - a hynny yn erbyn Barnet yng Nghwpan yr EFL.
"Roedd 'na ddeigryn yn fy llygad pan nes i weld e am y tro cyntaf," meddai cyfarwyddwr creadigol y clwb, Neal Heard, sy'n dweud fod mwy o grysau wedi eu gwerthu dramor nag ym Mhrydain pan gafodd ei lansio.
- Cyhoeddwyd20 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2019
Fe wnaeth Mr Heard gynnig y syniad gwreiddiol y llynedd, ag yntau wedi ei fagu yn yr ardal ac yn ymwybodol o'r hanes.
Roedd y plant gafodd eu hanfon i Gaerllion ymhlith grŵp o 4,000 ddaeth i Brydain, wrth i'r rhyfel cartref rygnu yn Sbaen rhwng Cenedlaetholwyr y Cadfridog Franco a'r Gweriniaethwyr.
Ond buan y daeth Mr Heard i sylwi fod y stori wedi mynd yn angof, hyd yn oed ymhlith pobl leol.

Y plant o Wlad y Basg ddaeth i aros yng Nghaerllion, a rhai o'r oedolion fu'n gofalu amdanynt, gan gynnwys Maria Fernandez
"Dwi wedi synnu faint o bobl Casnewydd sydd wedi dweud 'dwi byth wedi clywed am y peth'," meddai.
"I mi, mae Cymru'n aml yn anghofio pethau da mae hi wedi eu gwneud, a sut mae'n cysylltu gyda'r byd.
"Dwi wrth fy modd gyda'r stori yma, ac ro'n i'n meddwl sut allwn ni dynnu sylw ato, a'i dweud hi mewn ffordd fodern?"
Pan gysylltodd Mr Heard ag Athletic Bilbao - sy'n chwarae ym mhrif gynghrair Sbaen, ond â pholisi o arwyddo chwaraewyr Basg yn unig - roedd y clwb yn fwy na bodlon cydweithio.

Ar ymweliad diweddar â Bilbao, cafodd Neal Heard ei "syfrdanu" gyda faint o bobl o Wlad y Basg oedd yn dweud eu bod yn uniaethu gyda'r crys
"Mae'n ddarn o hanes sy'n bwysig iawn i Wlad y Basg fel cenedl," meddai Dan Parry, swyddog cyfathrebu rhyngwladol Athletic Bilbao.
"Roedd o'n un o'r digwyddiadau mwyaf trist yn hanes diweddar y wlad - ac fe wnaeth Cymru ymateb, pan oedd angen help ar Wlad y Basg.
"Felly dwi'n meddwl fod o'n git sydd wir yn taro tant gyda'n cefnogwyr ni."
Mae hynny i'w weld wedi helpu'r gwerthiant hefyd, gyda fideo o'r cit gafodd ei ffilmio yn Bilbao yn arwain at fwy o archebion o Sbaen nag o Brydain ar ôl y lansiad.
Dydy'r ymateb heb synnu Christopher Evans, cefnogwr Casnewydd wnaeth gyhoeddi'r llyfr Saesneg cyntaf am hanes Athletic Bilbao yn ddiweddar.

Er bod y cyswllt newydd rhwng Casnewydd ac Athletic Bilbao dal yn "swreal" i Christopher Evans, mae'n gobeithio y bydd yn cryfhau'r cysylltiadau rhwng Cymru a Gwlad y Basg
"Fi'n meddwl fod y stori'n anhygoel, ac mae'n berthnasol i beth sy'n digwydd yn y byd heddiw hefyd," meddai.
"Fi'n falch i fod o Gasnewydd a byw yng Nghaerllion, a fi'n falch bod ni wedi cymryd y ffoaduriaid i mewn.
"Fi wedi gweld ar y cyfryngau cymdeithasol, cefnogwyr o Abertawe a Chaerdydd yn dweud 'dwi ddim yn cefnogi Casnewydd, ond fi am brynu'r cit'.
"Pan wnaeth Neil sôn am y syniad i fi, ro'n i'n gwybod yn syth 'bydd hwn yn hedfan'."
Effaith bomio Guernica
Un o'r 36 o blant fu'n byw yn Nhŷ Cambrian yng Nghaerllion yn 1937 oedd Andres Benavente, oedd yn 11 ar y pryd.
Daeth y plant i Brydain wedi i fyddin Franco fomio Guernica, tref ger Bilbao, gan ladd cannoedd o sifiliaid.
"Roedd e'n dweud mai dyna un o'r pethau wnaeth aros gyda fe," meddai mab Andres, Steven Benavente, sy'n dal i fyw yng Nghaerllion.
"Cawson nhw eu heffeithio am weddill eu bywydau.
"Roedd e'n dweud pan fyddai'r plant yn cael gwersi celf, y peth cyntaf fydden nhw'n ei wneud oedd paentio lluniau gydag awyrennau a thanciau, a'r holl erchyllderau oedd yn mynd gyda hynny."

Steven Benavente a'i ŵyr, Luca - roedd tad Steven, Andres, yn un o'r plant Basgeg ddaeth i aros yng Nghaerllion
Ar ôl ffarwelio â'i rieni, aeth pethau'n fwy unig fyth i Andres wrth i'w chwiorydd gael eu hanfon i'r Alban - a bu farw un cyn iddo ei gweld hi eto.
Yn ddiweddarach daeth i wybod hefyd fod ei rieni wedi cael eu lladd, gyda'i dad wedi ei ddienyddio am ei gysylltiadau gyda'r sosialwyr.
"Roedd yn amser anodd iawn iddo mewn sawl ffordd," meddai Steven. "Roedd iaith yn broblem, ond yn y diwedd fe setlodd."
Heb gyllid ar gyfer eu cadw, bu dynes o Wlad y Basg oedd yn byw yn lleol - Maria Fernandez - yn edrych ar eu holau a threfnu bod grŵp dawnsio a chôr ohonynt yn codi arian.

Andres Benavente oedd un o'r unig blant wnaeth aros yng Nghaerllion ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac fe briododd gyda Linda, merch o dras Eidalaidd
Cafodd tîm pêl-droed hefyd ei ffurfio, gyda Bechgyn y Basg yn chwarae gemau o gwmpas de Cymru gan gynnwys ym Mharc Somerton a Pharc Ninian.
Ymhen dim roedden nhw'n adnabyddus fel un o dimau ieuenctid gorau'r wlad, ac fe aeth dau o'r bechgyn ymlaen i chwarae'n broffesiynol ar ôl dychwelyd i Sbaen.
Andres oedd un o'r unig rai wnaeth aros yng Nghaerllion ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ac mae'n "grêt" bod 'Plant 37' nawr yn cael eu cofio unwaith eto, meddai Steven.
"Mae'r crys wedi'i orchuddio gydag enwau pobl dwi wedi clywed amdano o'r gorffennol, enwau dwi'n cofio fy nhad yn siarad amdanyn nhw."

Yn 1958, dros 20 mlynedd wedi iddo ddod i Gymru o Bilbao, cafodd Andres Benavente ganiatâd swyddogol i aros ym Mhrydain
Yn ôl yr hanesydd Hywel Davies, sydd wedi ysgrifennu llyfr am y plant o Wlad y Basg ddaeth i Gymru, roedden nhw wedi cael "croeso arbennig o dda" yng Nghaerllion.
"Mae'n siŵr taw Caerllion oedd y colony mwyaf llwyddiannus ym Mhrydain, fel oedden nhw'n cael eu galw," meddai.
"Roedd pobl yn dlawd, ond yn rhoi eu ceiniog olaf [i geisio'u helpu nhw].

Yn ôl Hywel Davies, roedd gweithgareddau'r plant yn fodd o "dynnu sylw at yr hyn oedd yn digwydd yn Sbaen", yn ogystal â rhoi "pwrpas" i'w bywydau yng Nghymru
"Roedd e'n rhan o'r deffroad gwleidyddol yn yr 1930au, yn enwedig gydag undeb y glowyr, a falle bod ni wedi anghofio hynny, yr haelioni a'r caredigrwydd yna.
"Mae eu stori nhw'n haeddu cael ei chofio, ond mae hefyd yn tynnu sylw at y ffaith ein bod ni i gyd yn gysylltiedig, bod ni ddim yn ynysu ein hunain ac yn ofni ffoaduriaid.
"Achos mae beth ddigwyddodd bryd hynny yn rhywbeth sydd angen cael ei efelychu, nid dim ond ei gofio."

Fe sgoriodd Michael Reindorf gôl wych i Gasnewydd yn yr hanner cyntaf nos Fawrth
Roedd yna fuddugoliaeth i Gasnewydd nos Fawrth wrth iddyn nhw drechu Barnet - 4-2 ar giciau o'r smotyn.
Fe sgoriodd Michael Reindorf i Gasnewydd yn yr hanner cyntaf ac unionodd Rhys Brown y sgôr i 2-2 yn yr ail hanner.
Wrth i'r gêm fynd i giciau o'r smotyn llwyddodd gôl-geidwad Casnewydd Nik Tzanev i arbed gôl Kane Smith ac yna fe sicrhaodd gôl Cameron Evans y fuddugoliaeth i dîm Dave Hughes.