Pam ddylai'r Cymry gefnogi Athletic Club Bilbao?

Christopher Evans gyda un o arwyr Athletic Club, Andoni Goikoetxea, gyda chopi o'r llyfr Los Leones: The Unique Story of Athletic Club Bilbao
- Cyhoeddwyd
Mae Christopher Evans o Gasnewydd yn ymddiddori mewn hanes a diwylliannau gwahanol ranbarthau o Ewrop, yn enwedig Gwlad y Basg, yr ardal fynyddig sy'n gorwedd bob ochr i'r ffin rhwng Sbaen a Ffrainc.
Mae hefyd yn gefnogwr pêl-droed brwd, ac yn ddiweddar fe ysgrifennodd lyfr am hanes clwb pêl-droed mwyaf Gwlad y Basg, Athletic Club Bilbao (mae'r cefnogwyr yn cyfeirio at y tîm fel 'Athletic Club', neu 'Athletic' yn unig).
Dyma'r llyfr Saesneg cyntaf yn olrhain hanes manwl Los Leones (Y Llewod), ac mae'r llyfr wedi ennyn canmoliaeth gan ddarllenwyr yng Ngwlad y Basg, a chefnogwyr pêl-droed y cyfandir.

Nico Williams o Athletic Club ar y bêl yn ystod gêm fwyaf Gwlad y Basg - y ddarbi yn erbyn Real Sociedad, 24 Tachwedd, 2024
"'Nes i ddechrau cymryd diddordeb yn Athletic yng nghanol y 1990au pan o'n i tua 15 oed," eglurodd Christopher.
"'Nes i ddysgu bod nhw'n chwarae gyda chwaraewyr o Wlad y Basg yn unig, ac o'n i'n arfer chwarae'r gêm gyfrifiadurol Championship Manager gan drio adeiladu carfan gyda phob chwaraewr o Wlad y Basg."
Mae gan Athletic Club bolisi ers 1912 i ond dewis chwaraewyr sydd wedi eu geni neu eu magu yng Ngwlad y Basg, ac yn hytrach na chyfyngu ar lwyddiant y clwb maent wedi cael llwyddiant ysgubol – Athletic, Real Madrid a Barcelona yw'r unig glybiau sydd byth wedi disgyn o'r Primera, cynghrair uchaf Sbaen.
Penderfynu ysgrifennu llyfr
"Yn y 1920au, 1930au a'r 1940au roedden nhw'n anhygoel ac yn ennill pob dim - maen nhw'n glwb hollol unigryw," meddai Christopher.
"'Nes i ddarllen llyfr o'r enw La Roja am bêl-droed Sbaen, ac roedd 'na bennod am Athletic ynddo. Ond pan 'nes i drio darllen mwy am y clwb doedd 'na ddim byd ar gael yn Saesneg, felly roedd e yn fy meddwl i am rai blynyddoedd i sgwennu'r llyfr."

Tîm Athletic Club yn 1912, blwyddyn gyntaf y polisi o ddewis chwaraewyr wedi eu geni neu magu yng Ngwlad y Basg yn unig
Mae gan Wlad y Basg draddodiad o ddatblygu pêl-droedwyr a rheolwyr o'r safon uchaf.
Mae rhai o chwaraewyr gorau diweddar Sbaen yn dod o Wlad y Basg; Nico Williams, Xabi Alonso, Gaizka Mendieta, Martín Zubimendi, Ivan Campo ac Ander Herrera yn eu plith.
Hefyd, mae ambell chwaraewr o'r ochr Ffrengig wedi cynrychioli Ffrainc, fel Bixente Lizarazu a rheolwr presennol carfan Ffrainc, Didier Deschamps.
Mae rhai o reolwyr amlycaf Uwch Gynghrair Lloegr dros y blynyddoedd diweddar hefyd yn dod o Wlad y Basg, fel Mikel Arteta, Julen Lopetegui, Unai Emery a Andoni Iraola.
Daw'r rhan fwyaf o'r talent pêl-droed yng Ngwlad y Basg drwy academi clybiau Athletic Club Bilbao a Real Sociedad, sef clwb dinas Donostia (San Sebastian yn Sbaeneg).

Christopher gyda'i wraig Alexandra, ei feibion Luca a Joshua, y newyddiadurwr Beñat Gutiérrez a'r cyn-chwaraewr rhyngwladol, Andoni Goikoetxea
"Yn ystod Rhyfel Cartref Sbaen (1936-39) daeth plant o Wlad y Basg a oedd yn ffoaduriaid i fyw yng Nghymru, a chrëwyd y tîm pêl-droed Basque Boys AFC yng Nghaerllion, Gwent", meddai Christopher, sydd yn byw yn y dref ei hun.
"Roedden nhw'n dîm gwych, ac aeth y golwr, Enrique Garatea Bello, ymlaen i chwarae'n broffesiynol dros Atlético Mardrid, Tenerife a Cádiz."
Yn dilyn yr holl waith ymchwil i'r hanes yma mae Christopher wedi datblygu perthynas gyda swyddogion Athletic Club, ac mae wedi mynd yno sawl gwaith i gydweithio ar brosiectau.
Athletic = Gwlad y Basg?
Gan mai Athletic Club Bilbao yw tîm mwyaf Gwlad y Basg a gyda'r polisi i ddewis chwaraewyr o'r ardal yn unig, ydyn nhw mwy neu lai felly'n dîm cenedlaethol i'r genedl?
"Fyswn i ddim yn dweud hynny," meddai Christopher.
"Nhw yw'r tîm mwyaf llwyddiannus, mwyaf poblogaidd a'r tîm sydd gyda'r holl hanes. Ond mae gennych chi glybiau fel Real Sociedad, Osasuna ac Alaves sydd gyda'r hunaniaeth Basgaidd cryf 'ma hefyd, a dydyn nhw ddim yn hoffi'r ffaith bod Athletic yn cael ei adnabod yn rhyngwladol fel 'y tîm Basgaidd'.
"Mae 'na gefnogwyr Athletic sy'n casáu Real Sociedad, a chefnogwyr Sociedad sy'n casáu Athletic. Ond fel arfer mae'r berthynas fel un rhwng brodyr a chwiorydd – os ewch chi i'r gemau darbi maen nhw'n eistedd gyda'i gilydd, a bydde hynny byth yn digwydd mewn gêm rhwng Lerpwl a Manchester United.
"Ond mae 'na elyn sy'n uno cefnogwyr timau Gwlad y Basg, sef hen dîm Franco – Real Madrid, ac i raddau llai, Barcelona ac Atlético Madrid."

Cefnogwyr Athletic yn ystod y gêm yn erbyn AS Roma yn y San Mamés, 13 Mawrth 2025
Yr iaith Fasgeg
Mae'r iaith Fasgeg yn rhan annatod o Athletic Club, gyda'r cyhoeddiadau a'r ysgrifen yn ddwyieithog yn y stadiwm ac mewn cyhoeddiadau swyddogol, ac fe amlygwyd hyn pan enillodd y tîm y Copa del Rey yn 2024.
"'Nath un o'r chwaraewyr, Asier Villalibre, annerch y dorf anferthol tu fas i neuadd y ddinas gan siarad Basgeg – yr unig chwaraewr i wneud hyn", meddai Christopher.
"Dywedodd Villalibre bod yr iaith Fasgeg yn un o'r sylfeini pwysicaf i glwb Athletic, a bod rhaid defnyddio'r iaith bob dydd."

Asier Villalibre yn annerch y dorf enfawr tra'n siarad Basgeg
"Roedd Villalibre yn annog pobl ifanc i siarad yr iaith ac i'r bobl hŷn i basio'r iaith ymlaen i'r genhedlaeth nesaf.
"Cafodd beth y dywedodd dipyn o sylw gan y cyfryngau ac roedd yn destun balchder i siaradwyr Basgeg."

Dwisinau o gychod (carfan Athletic ar y cwch canol) yn rhan o'r dathliadau ar yr Afon Nervión, yn mynd heibio adeilad eiconig y Guggenheim
Mae Christopher yn falch bod y llyfr wedi cael canmoliaeth yng Ngwlad y Basg, a'i fod wedi ei hyrwyddo gan un o chwaraewyr enwocaf y clwb.
"'Nath Andoni Goikoetxea, un o fawrion y clwb, ddod i lansiad y llyfr heb i mi ei ddisgwyl yno, ac fe ysgrifennodd e'r rhagair ar gyfer y llyfr. Roedd hanes y llyfr ar wefan y clwb ac ar y wefan chwaraeon adnabyddus, Marca.com.
"Bydd y llyfr yn cael ei gyhoeddi yn Sbaeneg ym mis Mai," meddai.

Christopher gyda'i wraig, Alexandra, yn ystod dathliadau buddugoliaeth y Copa del Rey ym mis Ebrill 2024
Mae Christopher yn dysgu Sbaeneg yn ogystal â Chymraeg, a tra mae allan yng Ngwlad y Basg mae'n actio fel rhywfath o lysgennad dros Gymru.
"Dwi 'di bod i ysgolion Basgeg i drafod y llyfr, cael fy nghyfweld gan fyfyrwyr prifysgol a newyddiadurwyr, ac mae'n ffordd i fi hyrwyddo Cymru hefyd.
"Dwi'n trio esbonio i bobl yno bod fy hoffter o Athletic yn deillio o fy Nghymreictod i."

Meibion Christopher yn y San Mamés; Luca, sy'n 11oed, a Joshua, sy'n wyth
Tîm rhyngwladol i Wlad y Basg?
Mae ymdrechion wedi bod i sefydlu tîm rhyngwladol i Wlad y Basg, ond fel esboniai Christopher mae'r cynlluniau wedi ei gwrthod ar sawl achlysur gan FIFA.
"Tra'n gweithio ar y llyfr 'nes i ofyn i Julen Guerrero, a chwaraeodd dros Wlad y Basg, Javier Clemente, a oedd yn rheolwr ar Wlad y Basg ac Andoni Goikoetxea os dylai Gwlad y Basg gael tîm rhyngwladol swyddogol fel Cymru, ac roedden nhw i gyd yn credu y dylai nhw."

Capten Gwlad y Basg, Julen Guerrero a chapten Cymru, Ryan Giggs, yn y gêm answyddogol rhwng y ddwy wlad ar 21 Mai, 2006. Hefyd ar y cae y diwrnod hwnnw oedd Ivan Campo a Joseba Etxeberria i'r Basgwyr, a rheolwr presenol carfan Cymru, Craig Bellamy. Cafodd y gêm ei chwarae yn y Stadiwm San Mamés gwrieddiol, a gafodd ei ddymchwel yn 2013
"Dywedon nhw i gyd pa mor lwcus yw Cymru i gael ein cydnabod yn swyddogol gan FIFA – dim ond gemau cyfeillgar achlysurol mae Gwlad y Basg yn ei gael, felly maen nhw'n eiddigeddus ohonom ni.
"Dwi ddim yn gweld pam dylen nhw ddim cael tîm swyddogol, ond mae'r ffaith bod nhw ddim yn cael yn dangos pa mor bwerus yw Sbaen."

Gwlad y Basg [Euskal selekzioa] yn chwarae gêm gyfeillgar yn erbyn Wrwgwái, 23 Mawrth, 2024
'Tebygrwydd i'r Wal Goch'
Felly, pam fod Christopher yn credu fod Athletic Club Bilbao yn glwb delfrydol i'r Cymry?
"Mae Athletic yn cynrychioli cymaint mwy na thîm phêl-droed, mae'n ymgorffori hunaniaeth yn debyg i be 'dyn ni'n ei wneud yng Nghymru. Mae'r clwb wedi'i gwreiddio yn y gymuned, gyda thraddodiad, hanes, diwylliant a'r ymdeimlad ffyrnig 'ma o fod yn unigryw - 'ni yn erbyn y byd'.
"Mae athroniaeth Athletic yn creu cysylltiad dwfn rhwng y chwaraewyr, y cefnogwyr, dinas Bilbao a Gwlad y Basg yn ei chyfanrwydd, ac rwy'n gweld tebygrwydd rhwng hyn a'r Wal Goch."

Dywed Christopher for y Basgiaid a'r Cymry'n "rhannu cariad at eu hieithoedd a'u traddodiadau unigryw, ond mewn ffordd sy'n cofleidio'r llwyfan rhyngwladol."
"Mae cefnogi Athletic yn ymwneud â mwy na dilyn tîm yn unig - mae'n ymwneud â chofleidio clwb ag enaid, pwrpas, ac angerdd sy'n teimlo'n hynod gyfarwydd i unrhyw un sy'n caru Cymru a phêl-droed Cymru.
"Os cewch chi byth y cyfle i fynd i Bilbao gwnewch yn siŵr eich bod yn ymweld â'r San Mamés am gêm (yn ogystal ag amgueddfa'r clwb) – mae'n brofiad na fyddwch byth yn ei anghofio."
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd15 Chwefror
- Cyhoeddwyd13 Mawrth
- Cyhoeddwyd27 Rhagfyr 2024
- Cyhoeddwyd23 Ebrill 2024