Ceinewydd: Gwrthod cais i godi tai ar safle maes parcio glan môr

Maes parcio gyda arwyddion a ceir wedi parcio yn y cefndir.
Disgrifiad o’r llun,

Roedd ymgyrchwyr yn galw am gadw'r maes parcio yng Ngheinewydd

  • Cyhoeddwyd

Mae cais cynllunio fyddai wedi gweld Ceinewydd yn colli un o'i meysydd parcio prin wedi cael ei wrthod gan Gyngor Sir Ceredigion.

Roedd Cymdeithas Tai Barcud eisiau caniatâd cynllunio i adeiladu 30 o dai a fflatiau fforddiadwy yn y dref glan môr, tra hefyd yn cadw 97 o'r safleoedd parcio cyhoeddus.

Roedd nifer o fusnesau lleol yn gwrthwynebu'r cais, gan ddweud mai "mwy nid llai" o feysydd parcio sydd eu hangen yn y dref.

Mewn cyfarfod fore Mercher, cafodd y cais ei wrthod gan y cyngor.

Dywedodd Cymdeithas Tai Barcud, perchnogion y maes parcio, eu bod nawr am "asesu'r opsiynau ar gyfer y safle".

Roedd swyddogion cynllunio Cyngor Sir Ceredigion wedi awgrymu caniatáu'r cais cynllunio gan ddweud bod y tir yn rhan o'r Cynllun Datblygu Lleol.

Fe ddywedodd swyddog bod gwir angen tai fforddiadwy yn ardal Ceinewydd ac "na fyddai'r tai yn cyflawni'r holl angen".

Fe wnaeth y Pwyllgor Rheoli Datblygu wrthod yr argymhelliad, gydag wyth yn pleidleisio yn erbyn, tra bod pump wedi pleidleisio o blaid.

'Y tlws yng nghoron Ceredigion'

Lisa Lewis yw perchennog bwyty'r Mariners yng Ngheinewydd ac roedd hi am weld Cyngor Ceredigion yn cyfaddawdu ar y cais cynllunio.

Dynes gyda gwallt tywyll yn gwisgo top streipiog yn sefyll o flaen ei busnes pysgod a sglodion.
Disgrifiad o’r llun,

Dylai Ceinewydd fod y "tlws yng nghoron" Ceredigion o ran twristiaeth, meddai Lisa Lewis

Cyn y cyfarfod dywedodd: "Mae busnes gyda ni yn Sir Benfro a Cheredigion ac mae 'na wahaniaethau mawr rhwng rhedeg busnes yn y ddwy sir. Byddech chi fyth yn gweld Cyngor Sir Benfro yn gwneud rhywbeth fel hyn yn Ninbych-y-Pysgod.

"Fe ddylai Ceinewydd fod y tlws yng nghoron Ceredigion o ran twristiaeth."

Yn ôl Ms Lewis, mae'r mwyafrif yn teithio i Geinewydd mewn car oherwydd nad oes cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus.

"Bydd hyn yn sicr yn effeithio ar faint o bobl fydd yn dod i Geinewydd. Dyma'r maes parcio mwyaf ac mae'n mynd i gael effaith ar nifer yr ymwelwyr, dyma hefyd lle mae'r bysys yn parcio."

Roedd dros 2,500 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cais cynllunio.

'Angen tai i bobl ifanc'

Cafodd y prosiect gwerth £7.5m ei gyflwyno gan y landlord cymdeithasol cofrestredig, oedd yn gobeithio datblygu 30 o dai fforddiadwy ar y safle.

Y bwriad oedd adeiladu 16 o fflatiau gyda rhwng un a dwy ystafell wely a 14 tŷ gyda thair neu bedair ystafell wely.

Bydd Harri Evans yn mynd i Brifysgol Harper Adams ym mis Medi, ond ei obaith yw symud yn ôl adref i fyw yng Ngheredigion ar ôl graddio.

Harri Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Harri Evans yn gobeithio dychwelyd i Geredigion wedi ei gyfnod yn y coleg

"O fewn y 10 mlynedd nesaf, hoffwn i brynu tŷ yng Ngheredigion. Fel mae'r sefyllfa ar hyn o bryd mae hynny yn edrych yn anodd iawn," meddai Harri cyn y cyfarfod.

"Bydd codi y tai fforddiadwy yma yng Ngheinewydd yn gwneud hi'n fwy posib i bobl Ceredigion fyw a sefydlu teulu yn eu cymunedau lleol. Mae'n bwysig tu hwnt sicrhau bod hyn yn digwydd.

"Bydd footfall cyson i fusnesau'r dref trwy'r bobl fydd yn byw yn y tai yma - a hynny yn digwydd trwy'r flwyddyn yn hytrach nag yn ystod y misoedd prysur yn unig."

Dynes gyda gwallt melyn yn gisgo sgarff las yn sefyll mewn maes parcio.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sara Powell yn poeni am yr effaith ar drafnidiaeth a'r economi

Yn ôl Sara Powell o Gymdeithas Masnachwyr Ceinewydd, byddai modd prynu 30 o ail gartrefi am gost y prosiect.

"Rydym wedi comisiynu arbenigwr annibynnol ar drafnidiaeth i edrych ar hyn ac maent yn rhestru nifer sylweddol o faterion gyda'r cais hwn yn ymwneud â diogelwch a phriffyrdd, heb sôn am y ffaith nad oes mannau parcio hygyrch wedi'u cynnwys yn y cynlluniau - mae'r adroddiad yn ddamniol.

"Mae trafnidiaeth yn un o'r materion, mae'r effaith ar yr economi leol hefyd yn enfawr ac rydym yn bryderus iawn am fethiant yr adrannau cynllunio lleol i gyflawni y diwydrwydd dyladwy (due diligence) yma ac rydym wedi gorfod gwneud eu gwaith drostynt yn y bôn."

Perchennog bwyty yn eistedd o flaen balconi gyda cychod ar y mor y tu ol iddi.
Disgrifiad o’r llun,

Mae angen mwy nid llai o barcio, meddai Nerys Church

"Peidiwch mynd â'n maes parcio ni," oedd neges Nerys Church - perchennog y Bluebell.

"Mae parcio yn angenrheidiol i ni fel busnesau lleol i oroesi, mwy nid llai o barcio sydd angen yn Cei."

'Oes modd cyfiawnhau tai?'

Fe ddywedodd y cynghorydd Marc Davies, sy'n cynrychioli ward Ciliau Aeron, fod rhaid iddyn nhw "wrando ar fusnesau lleol".

"Mae lot o fuddsoddiad wedi bod dros y blynyddoedd gan fusnesau sydd yn dibynnu yn llwyr ar bobl yn dod i Cei a gallu parcio yn rhwydd," meddai.

"Bues i lawr yn Cei dros y Pasg ac roedd hi'n fishi iawn a dyma'r unig le o'n i'n gallu parcio. Dwi'n becso bo' ni'n neud yn ysgafn o'r peryg i fusnesau lleol pe bydde nhw'n colli mwy o lefydd parcio.

"Mae bwrlwm ofnadwy yn Cei a dwi wir yn pryderu byddai colli nifer o lefydd parcio yn cael effaith negyddol ar fusnesau sydd wedi cynnal Cei dros y blynyddoedd.

"Does dim asesiad economaidd wedi cael ei wneud ar y cais yma, ac mae'n rhaid i ni wrando ar fusnesau lleol sydd yn dweud y bydd e'n cael effaith."

Traeth Cei Newydd
Disgrifiad o’r llun,

Mae busnesau lleol yn dweud bod y meysydd parcio i gyd yn llawn yn ystod cyfnodau prysur

Cytuno wnaeth y cynghorydd Gareth Lloyd: "Dwi'n hollol gefnogol i ddod a thai i Cei, ond a oes modd cyfiawnhau adeiladu cymaint o dai ar y safle yma? Sai'n credu 'ny.

"Y broblem yw fel cynghorwyr ni'n gorfod edrych ar yr economi hefyd. Does gyda ni ddim unrhyw fath o syniad na ffigwr o ran sut bydd hyn yn mynd i effeithio ar fusnesau lleol a'r economi.

"Mae tystiolaeth bod colli 100 o lefydd parcio [o'r blaen] wedi cael effaith ar fusnesau yn y dref. Mae colli 100 arall yn mynd i ddyblu'r effaith yna."

Fe ddywedodd Barcud mewn datganiad eu bod yn "aros am hysbysiad ffurfiol gan yr awdurdod cynllunio lleol yn nodi'r sail dros wrthod ac ar ôl ei dderbyn, byddwn yn asesu'r opsiynau ar gyfer y safle."

Cyn i'r mater gael ei ystyried ym Mhwyllgor Rheoli Datblygu'r Cyngor, dywedodd yr awdurdod mewn datganiad:

"Mae'r agenda yn cynnwys adroddiad, dolen allanol cynhwysfawr sy'n asesu sawl mater yn unol â pholisiau cynllunio cenedlaethol a lleol," medd datganiad.

Pynciau cysylltiedig