Prifathro yn y llys wedi ei gyhuddo o geisio anafu yn fwriadol

Fe wnaeth Anthony Felton ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener
Disgrifiad o’r llun,

Anthony John Felton yn cyrraedd Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener

  • Cyhoeddwyd

Mae prifathro 54 oed wedi ei gyhuddo o geisio anafu yn fwriadol yn dilyn digwyddiad mewn ysgol.

Roedd Dr Anthony Felton, sy'n cael ei adnabod fel John, wedi ei arestio ar amheuaeth o ymosod ar ôl digwyddiad yn Ysgol Gatholig St Joseph's yn Aberafan, Castell-nedd Port Talbot.

Cafodd Heddlu De Cymru eu galw i'r ysgol uwchradd am 09:50 fore Mercher.

Cafodd dyn 51 oed ei gludo i'r ysbyty yn dilyn y digwyddiad ond mae bellach wedi ei ryddhau gyda mân anafiadau.

Fe wnaeth Mr Felton ymddangos o flaen Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener, gan siarad i gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad.

Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos o flaen Llys y Goron Abertawe ar 7 Ebrill.

Anthony Felton
Disgrifiad o’r llun,

Dr Anthony Felton yw pennaeth Ysgol Gatholig St Joseph's yn Aberafan

Pynciau cysylltiedig