CPD Aberystwyth yn lansio llyfr sticeri i 'gysylltu â'r gymuned'

Bydd y llyfr sticeri'n cynnwys chwaraewyr, hyfforddwyr a rhai o gyn-chwaraewyr CPD Tref Aber
- Cyhoeddwyd
Mae Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth wedi lansio llyfr sticeri newydd er mwyn ceisio adfer y berthynas rhwng y clwb â'r gymuned.
Mi fydd modd prynu sticeri o chwaraewyr a hyfforddwyr y tîm cyntaf gan gynnwys adran arbennig i ddathlu rhai o brif chwaraewyr y clwb dros y blynyddoedd.
Mae'r clwb wedi wynebu cyfnod anodd yn ddiweddar wrth golli eu lle yn Uwch Gynghrair Cymru, ac wedi dechrau eu tymor yn ail haen pêl-droed Cymru.
Dywedodd Cyfarwyddwr a Thrysorydd y clwb, Tomos Roberts, bod y "llyfr sticeri yma'n ffordd i'r cefnogwyr i ddod i adnabod y chwaraewyr a gobeithio gwella'r cysylltiadau".

Mae'r adborth i'r syniad wedi bod yn wych yn ôl Cyfarwyddwr a Thrysorydd y Clwb, Tomos Roberts
Dywedodd Roberts mai "syniad bach unigryw" yw'r llyfr ac esboniodd bod "llyfrau sticeri arfer bod yn eitha' mawr ac roedd casglu sticeri'n eiconig".
"Ni eisiau dod â'r traddodiad yn ôl."
Ar ôl cwympo o Uwch Gynghrair Cymru ar ddiwedd y tymor diwethaf maen nhw bellach yn ail haen y de, y 'Cymru South'.
Mae hynny wedi golygu cryn newid o fewn y tîm.
"Dim ond pedwar boi lleol sydd wedi aros gyda'r garfan o llynedd" meddai Roberts.
"Dechrau mis Mai doedd dim garfan a dim hyfforddwr" ychwanegodd.
"Gan fod cymaint o chwaraewyr newydd, a gan bod ni 'di colli cysylltiad gyda'r gymuned - mae'r llyfr sticeri yma'n ffordd i'r cefnogwyr ddod i adnabod y chwaraewyr a gwella'r cysylltiadau."

Mae'r clwb bellach wedi dechrau eu tymor yn ail haen y de, y 'Cymru South'
Dywedodd Roberts nad oedden nhw'n siŵr sut ymateb i ddisgwyl ond bod "yr adborth ni wedi cael fel clwb wedi bod yn wych".
"Dyw rhywbeth fel hwn ddim wedi cael ei wneud am sbel gan glwb" ychwanegodd.
Mae'r clwb wedi arwyddo 16 o chwaraewyr newydd eleni ac wedi cael dechrau da i'r tymor.
"Gobeithio bydd pethau'n gwella", meddai cyn nodi bod y cyngor wedi rhoi caniatâd i'r stadiwm gael ei datblygu.
"Ni 'di gwerthu rhyw 30 o lyfrau hyd yma, a byddan nhw ar gael erbyn diwedd y mis", ychwanegodd.
Eu bwriad yw i "wneud hwn eto blwyddyn nesa' ac yn flynyddol os ma fe'n llwyddiant".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Gorffennaf
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl