Tom Lockyer yn cwrdd â meddygon achubodd ei fywyd ar gae pêl-droed

Stopiodd calon Tom Lockyer am dros ddau funud cyn i barafeddygon ei adfywio
- Cyhoeddwyd
Mae'r pêl-droediwr Tom Lockyer wedi cwrdd â'r staff meddygol a wnaeth achub ei fywyd pan gafodd ataliad ar y galon ar y cae chwarae yn 2023.
Roedd yr amddiffynnwr 30 oed yn gapten ar Luton Town mewn gêm Uwch Gynghrair yn Bournemouth pan ddisgynnodd ar y cae.
Stopiodd ei galon am ddau funud a 41 eiliad cyn i barafeddygon lwyddo i'w adfywio.
Wrth gyfarfod â'r parafeddygon, Dean Fernee ac Abbey Clarke, yn Stadiwm Vitality Bournemouth, dywedodd Lockyer eu bod nhw'n "arwyr" y noson honno.

Cafodd Lockyer ataliad ar y galon ar y cae ar 16 Rhagfyr 2023
Un o'r bobl gyntaf i drin Lockyer ar y noson oedd ffisiotherapydd Luton, Chris Phillips.
Roedd Phillips hefyd ar ddyletswydd yn Wembley rai misoedd ynghynt pan lewygodd Lockyer yn ystod ffeinal gemau ail gyfle'r Bencampwriaeth.
Roedd yn deall difrifoldeb y sefyllfa yn syth.
Roedd meddygon Bournemouth hefyd wedi amau mai problem gyda'r galon oedd y digwyddiad, gan fod meddygon Luton wedi trafod pryderon am chwaraewyr gyda nhw - rhywbeth nad oedd Lockyer yn ymwybodol ohono.

Roedd Tom Lockyer yn gapten ar Luton Town yn y gêm pan gafodd yr ataliad
Mae Lockyer, sydd ag 16 cap i Gymru, yn cofio deffro ar ôl i'r diffibriliwr gael ei ddefnyddio a chlywed pobl yn siarad - ond nid oedd yn gallu ymateb.
Dywedodd nad oedd yn gallu symud: "Doeddwn i ddim yn gallu siarad. Roeddwn i'n meddwl, 'dwi'n iawn', ond doedd dim byd yn dod allan."
Mae'n cofio ei fod eisiau rhoi arwydd i'r dorf - oedd yn cynnwys ei dad a'i bartner beichiog - ei fod yn iawn.

Mae Dean Fernee, un o'r parafeddygon, yn cofio pa mor dawel oedd yr 11,000 o gefnogwyr.
"Doedd y dorf ddim yn sylweddoli nes i ni dy gario di i ffwrdd. Dyna pryd y tarodd fod pawb yno," meddai Mr Fernee wrth Lockyer.
Ychwanegodd Abbey Clarke, parafeddyg arall, bod rhywun yn "dal arni ac yn rhoi eich pen i lawr - ac yn y pen draw, Tom oedd o'n blaenau ni".
"Mae dal yn glaf ac mae'n rhaid i ni anwybyddu pawb arall o'n cwmpas a rhoi'r gofal oedd ei angen arno," meddai.

Cafodd Lockyer ei eni yng Nghaerdydd ac mae bellach â diffibriliwr bach wedi'i fewnblannu yn ei frest, rhag ofn iddo gael ataliad arall ar y galon.
Nid yw wedi medru dod yn ôl i chwarae eto, fe wnaeth anafu ei ffêr wythnos cyn yr oedd disgwyl iddo ddychwelyd am y tro cyntaf ers yr ataliad.
Dywedodd wrth y BBC bod ei fywyd wedi newid ers y digwyddiad.
"Roedd yn eithaf anodd yn feddyliol, oherwydd am 20 mlynedd roeddwn i wedi bod yn 'Tom Lockyer y pêl-droediwr' ac fe gafodd hynny ei gymryd gen i, dros nos.
"Doeddwn i ddim yn gwybod beth i'w wneud â fy hun, pwy oeddwn i mewn gwirionedd, roedd yn dipyn o argyfwng i fy hunaniaeth."
Mae Lockyer bellach yn llysgennad i'r British Heart Foundation, ac mae'n angerddol am hyrwyddo hyfforddiant adfywio, gan ddweud ei bod yn cymryd 15 munud i ymweld â gwefan yr elusen a dysgu beth i'w wneud.
Ychwanegodd Lockyer y "gallwch chi fod yn arwr i rywun yr ydych chi'n ei garu a pheidiwch â gadael i 15 munud o'ch amser atal hynny rhag digwydd".
"Gallwch chi achub bywyd rhywun yn llythrennol ac mae'n debyg mai rhywun rydych chi'n ei nabod ac yn ei garu fydd o."
- Cyhoeddwyd27 Medi 2024
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2023
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.