Cynlluniau ysbyty newydd Y Rhyl yn llai uchelgeisiol

Ysbyty Brenhinol Alexandra yn Y Rhyl
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau llai uchelgeisiol ar gyfer datblygiad ysbyty newydd yn Y Rhyl ar fin cael eu datgelu.
Cafodd cynnig gwreiddiol ar gyfer ysbyty newydd gwerth £22 miliwn gyda mwy na 30 o welyau ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra eu cymeradwyo yn 2013.
Ond erbyn 2018 roedd cost y prosiect wedi dyblu, a chafodd y cynlluniau eu hatal yn gyfangwbl yn ddiweddarach gan y pandemig.
Nawr, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud bod costau cynyddol yn golygu nad oedd y cynnig gwreiddiol yn fforddiadwy mwyach.
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2018
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2016
Dywedodd Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig y gallai'r cynlluniau newydd – a fydd yn cael eu cyhoeddi yn fuan - olygu hanner nifer y gwelyau o'i gymharu â'r cynllun gwreiddiol.
Mae'n dweud na fyddai hynny'n ddigon i leddfu'r pwysau sydd ar adrannau brys ysbytai eraill.
Yn 2013, cymeradwyodd y gweinidog iechyd ar y pryd, Mark Drakeford, gynigion cychwynnol i ddatblygu ysbyty newydd ar safle yn Y Rhyl.
Roedd y cynllun ysbyty cymunedol integredig gwerth £22 miliwn i fod i gael ei gwblhau yn 2016 - roedd yn cynnwys clinigau deintyddol, 30 o welyau cleifion mewnol a 18 o welyau ar gyfer pobl hŷn â phroblemau iechyd meddwl.
Roedd adran pelydr-x, uwchsain, fferyllfa a chyfleusterau eraill hefyd yn rhan o'r cynllun.
Ond 12 mlynedd yn ddiweddarach, nid yw'r gwaith i ddatblygu'r safle wedi dechrau.
Trigolion wedi 'blino ar aros'
Mae'r bwrdd iechyd wedi dweud eu bod yn bwriadu cyflwyno cynlluniau newydd - ar gyfer ysbyty llai na'r bwriad gwreiddiol - erbyn diwedd mis Awst.
Dywedodd Darren Millar, AS dros Orllewin Clwyd, fod trigolion Y Rhyl a'r ardaloedd cyfagos wedi "blino ar aros" i'r safle gael ei ddatblygu, ac mae'n credu y gallai'r cynnig newydd fod ar gyfer 14 gwely yn unig.
"Rydym yn disgwyl i'r cyhoeddiad ddweud y bydd llawer llai o welyau yn yr ysbyty na'r cynllun gwreiddiol, o bosibl llai na hanner ... ac mae hynny'n golygu nad ydym yn mynd i gymryd pwysau oddi ar Ysbyty Glan Clwyd i lawr y ffordd, lle ni'n gwybod bod y problemau wedi gwaethygu dros y 12 mlynedd diwethaf," meddai.
"Nid yw'n ddigon da, bydd yn rhy hwyr, a'r hyn sydd ei angen gwneud yw mynd yn ôl at y cynlluniau cyntaf hynny a sicrhau bod yr addewidion gwreiddiol i bobl gogledd Cymru yn cael eu cyflawni."
'Angen mwy o welyau, nid llai'
Dywedodd Mr Millar y byddai unrhyw gynigion llai na'r cynlluniau gwreiddiol "yn dangos unwaith eto'r rhaniad enfawr rhwng y gogledd a'r de a'r ffaith bod gogledd Cymru yn cael ei amddifadu".
Dywedodd y byddai'r 30 gwely gwreiddiol yn helpu i leddfu pwysau mewn mannau eraill yn y GIG, ond "nad yw 14 gwely yn ddim byd," gan ychwanegu: "Os unrhyw beth, mae angen mwy o welyau na'r 30 gwreiddiol, nid llai."
Mae'r bwrdd iechyd wedi cael cais i ymateb.
Mae eu gwefan yn dweud eu bod yn gobeithio cyflwyno cynlluniau – a fydd yn cynnwys uned mân anafiadau – erbyn diwedd y mis hwn.
Bydd angen i'r cynlluniau hynny gael eu cymeradwyo gan y bwrdd iechyd ei hun ac yna bydd cais i Lywodraeth Cymru i'w cymeradwyo a sicrhau cyllid.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i achos busnes newydd gael ei gyflwyno.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.