Gêm allweddol i Gymru gyda'r gemau ail gyfle ar y gorwel

Fe fydd Cymru yn cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y gemau ail gyfle ddydd Iau
- Cyhoeddwyd
Gydag ond un gêm yn weddill yn y grŵp rhagbrofol ar gyfer Cwpan y Byd 2026 mae digonedd dal yn y fantol i Gymru.
Ennill yn erbyn Gogledd Macedonia nos Fawrth ac fe fydd Cymru, mwy na thebyg, yn gorffen yn ail yn y tabl ac felly yn wynebu llwybr haws yn y gemau ail gyfle.
Ond byddai colled neu gêm gyfartal yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn gweld Cymru'n gorffen yn drydydd - allai wneud cyrraedd yr Unol Daleithiau, Mecsico a Chanada yn llawer mwy heriol.
Mae hi dal yn bosibl i Gymru orffen ar frig y grŵp - ond i hynny ddigwydd mi fyddai'n rhaid i Wlad Belg golli pwyntiau gartref yn erbyn Liechtenstein - sydd heb ennill pwynt yn yr ymgyrch hyd yn hyn.
Uchafbwyntiau: Liechtenstein 0-1 Cymru
Os am ennill yn erbyn Gogledd Macedonia bydd angen i Gymru ddangos mwy na'r hyn welwyd yn Vaduz nos Sadwrn.
Er i Gymru sicrhau buddugoliaeth o 1-0 yn erbyn Liechtenstein - sydd yn rhif 206 ar restr detholion y byd - doedd y perfformiad ddim yn un fydd yn aros yng nghof y cefnogwyr am yn hir.
Ar noson rwystredig i Gymru o flaen y gôl roedd rhaid aros dros awr cyn i Jordan James roi'r ymwelwyr ar y blaen.
Mae Gogledd Macedonia - sydd heb golli yn yr ymgyrch ragbrofol hyd yn hyn - yn sicr o gynnig dipyn mwy o her i Craig Bellamy a'i garfan.
Maen nhw, dan arweiniad Blagoja Milevski, wedi sicrhau dwy gêm gyfartal yn erbyn Gwlad Belg ac roedden nhw'n anffodus i beidio ennill yn erbyn Cymru ym mis Mawrth.
Mae gwahaniaeth goliau'r ymwelwyr yn lawer uwch na Chymru hefyd yn dilyn buddugoliaethau cyfforddus yn erbyn Liechtenstein.

Fe sgoriodd David Brooks yn yr eiliadau olaf i sicrhau pwynt i Gymru yn Skopje
Mi fydd Bellamy yn dychwelyd i ochr y cae nos Fawrth wedi iddo orfod gwylio gêm Liechtesnstein o'r eisteddle ar ôl derbyn dau gerdyn melyn.
Ond mae'r rheolwr yn wynebu ychydig o benbleth o ran pwy i ddewis yng nghanol cae ar ôl i James a'r capten Ethan Ampadu gael eu gwahardd wedi iddyn nhw dderbyn cardiau melyn yn Vaduz.
Gall hynny, o bosib, arwain at roi cyfle i Josh Sheehan neu Joel Colwill ddechrau yn y canol, neu hyd yn oed sbarduno rhywfaint o newid i siâp y tîm.
Mae Ben Davies, Kieffer Moore a Ben Cabango hefyd ymhlith yr enwau mawr sydd ddim ar gael nos Fawrth - a hynny oherwydd anafiadau.
Bydd y gic gyntaf yn Stadiwm Dinas Caerdydd am 19:45 a bydd modd dilyn y cyfan yn fyw ar BBC Radio Cymru.
Y gemau ail gyfle - Pwy? Ble? Pryd?
Mae Cymru yn saff o'u lle yn y gemau ail gyfle oherwydd eu bod wedi ennill eu grŵp yng Nghynghrair y Cenhedloedd.
Bydd 16 tîm yn chwarae yn y gemau ail gyfle fis Mawrth nesa', gyda phedwar yn mynd trwodd i Gwpan y Byd.
O ran fformat y gemau - bydd rownd gynderfynol dros un cymal, ac wedyn rownd derfynol fydd hefyd dros un cymal.
Gorffen yn ail ac fe ddylai Cymru fod ym mhot 2, fyddai'n golygu gêm gartref yn erbyn un o dimau pot 3.
Fel mae pethau ar y funud, fe allai hynny olygu gêm yn erbyn Y Weriniaeth Tsiec, Albania, Kosovo neu Bosnia-Herzegovina - ond fe allai hynny newid yn ddibynnol ar ganlyniadau eraill.

Mae'r Eidal ymysg y prif ddetholion yn y gemau ail gyfle ar ôl gorffen yn ail yn eu grŵp
Os yn colli yn erbyn Gogledd Macedonia bydd Cymru yn cael eu rhoi ym mhot 4 gyda Sweden, Gogledd Iwerddon a Romania.
Byddai Cymru wedyn yn wynebu gêm oddi cartref cartref yn erbyn un o'r prif ddetholion yn y rownd gynderfynol.
Ar hyn o bryd, timau pot 1 yw'r Eidal, Twrci, Wcráin a Gwlad Pwyl.
Ond pa bynnag lwybr sy'n wynebu Cymru, maen nhw'n debygol o wynebu tîm cryf yn y rownd derfynol.
Bydd gemau'r rownd gynderfynol yn cael eu cynnal ar ddydd Iau, 26 Mawrth gyda'r rownd derfynol ar ddydd Mawrth, 31 Mawrth.
Fe fydd Cymru yn cael gwybod pwy fydd eu gwrthwynebwyr ddydd Iau.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.