Dynes fu farw fis ar ôl gwrthdrawiad wedi bod yn gwella'n dda - cwest

Sarah Elizabeth Grimshaw
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gan Sarah Elizabeth Grimshaw, 39, "galon o aur" yn ôl ei theulu

  • Cyhoeddwyd

Mae cwest wedi clywed fod dynes fu farw yn sydyn fis ar ôl bod mewn gwrthdrawiad rhwng car a thractor, wedi bod yn gwella yn dda ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Cafodd Sarah Grimshaw, oedd yn 39 oed ac yn dod o ardal Y Waun, ei hanafu yn ddifrifol yn y gwrthdrawiad ar Ffordd yr Abaty yn Llangollen ar 31 Ionawr y llynedd.

Cafodd ei chludo i'r ysbyty yn Stoke - lle cafodd lawdriniaeth ar ei phelfis - cyn cael ei symud i Ysbyty Maelor yn Wrecsam i dderbyn triniaeth bellach.

Clywodd y cwest ei bod "mewn hwyliau da" cyn iddi ddioddef ataliad ar y galon ar 27 Chwefror, a bu farw yn ddiweddarach.

Clywodd y gwrandawiad yn Rhuthun ddydd Iau fod y cyn athro mewn ysgol i blant ag anghenion dysgu wedi dechrau gweithio mewn cartref gofal yn Llangollen yn ystod y pandemig.

Ar ei ffordd i'w gwaith yr oedd Ms Grimshaw pan ddigwyddodd y gwrthdrawiad.

Wrth roi tystiolaeth i'r cwest, dywedodd gyrrwr y tractor, Thomas Morris, 27, ei fod wedi gweld car yn bell i lawr y lôn, ond wrth iddo adael y gyffordd fe sylweddolodd ei fod yn "agosáu yn gyflym" a bod "ei olwynion blaen ar fy ochr i o'r ffordd".

Ychwanegodd nad oedd unrhyw gerbydau wedi parcio ar ochr y ffordd i orfodi y gyrrwr i ochr arall y lôn.

Yn ôl Mr Morris, fe wnaeth y car daro olwyn gefn y tractor cyn troelli a tharo rheiliau. Eglurodd hefyd ei fod wedi siarad gyda Ms Grimshaw cyn galw 999.

Dywedodd uwch grwner gogledd, dwyrain a chanolbarth Cymru, John Gittins, nad oedd digon o dystiolaeth i awgrymu fod y gwrthdrawiad yn weithred fwriadol.

Nododd fod Ms Grimshaw wedi marw o ganlyniad i thrombosis yr ysgyfaint a gafodd ei achosi gan ddiffyg symudedd wedi'r gwrthdrawiad.

Daeth i gasgliad fod Ms Grimshaw wedi marw yn sgil gwrthdrawiad ffordd ac "mai'r anafiadau wnaeth hi eu dioddef y diwrnod hwnnw a'r llawdriniaethau dilynol arweiniodd at y digwyddiadau trist ar 27 Chwefror".

'Caredig ac anhunanol'

Dywedodd ei theulu mewn datganiad yn dilyn y farwolaeth "ei bod hi wedi bod yn fraint rhannu ein bywydau gyda Sarah".

"Roedd ganddi'r gallu anhygoel i gerdded i mewn i ystafell a goleuo diwrnodau pawb gyda'i hegni di-ddiwedd. Roedd ganddi galon o aur.

"Sarah oedd y wraig, y ferch, y chwaer a'r arweinydd Brownie fwyaf caredig ac anhunanol.

"Roedd ei chynhesrwydd heintus yn gwneud y byd yn lle gwell i bawb fyddai'n dod i gysylltiad â hi.

"Bydd colled fawr ar ôl Sarah a bydd ein bywydau yn dywyllach am byth hebddi."

Pynciau cysylltiedig