Galw am newid deddf am ofal iechyd meddwl ar ôl marwolaeth merch, 26

Bronwen Morgan (ar y chwith) gyda'i theuluFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bronwen Morgan (ar y chwith) gyda'i theulu

  • Cyhoeddwyd

Mae rhieni myfyriwr a laddodd ei hun yn galw am newid i'r ddeddf er mwyn sicrhau bod cleifion iechyd meddwl yn cael cefnogaeth gyda phenderfyniadau am eu gofal.

Bu farw Bronwen Morgan mewn gwesty yng Nghaerdydd yn 2020. Roedd yn 26 oed ac wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth.

Yn ôl ei rhieni, Jayne a Haydn, dylai rhannu penderfyniadau – pan mae staff gofal iechyd yn ymgynghori gyda pherthynas agos neu gyfaill am ofal y claf – fod yn gyfraith gwlad.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod teilwra gofal i anghenion pobl yn nod allweddol yn eu strategaeth iechyd meddwl a hunanladdiad newydd.

Cafodd Bronwen, oedd yn astudio nyrsio ym Mhrifysgol Caerdydd, ddiagnosis o anhwylder personoliaeth ymylol, neu anhwylder personoliaeth ansefydlog emosiynol, yn 2019.

Clywodd cwest i'w marwolaeth ei bod wedi dweud wrth ei thad y byddai'n mynd i dŷ cyfaill ar 27 Awst, 2020, ond na wnaeth hi fyth gyrraedd.

Cafodd ei ffôn symudol ei olrhain i westy'r Premier Inn ym Mhentwyn, Caerdydd lle cafwyd hyd iddi yn ddiymadferth.

Clywodd y cwest ei bod wedi cwyno i Fwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro am ei phecyn gofal.

Ond daeth y crwner i'r casgliad nad oedd modd cysylltu'r pecyn gofal gyda'i marwolaeth.

Bronwen MorganFfynhonnell y llun, Llun teulu

Dywedodd rhieni Bronwen bod ei merch wedi ceisio lladd ei hun tua 40 gwaith mewn dwy flynedd, ac fod hynny "wedi dod yn norm" i'r teulu.

"Pan y gwnaeth hi ladd ei hun, doedd e ddim yn syndod," meddai Ms Morgan.

"Roedden ni'n ceisio dweud hynny wrth ei thîm gofal, ond roedden nhw'n dweud nad oedd modd iddyn nhw rannu unrhyw beth gyda ni oherwydd cyfrinachedd cleifion."

Dyna pam y mae Mr a Ms Morgan am weld y broses o rannu penderfyniadau am ofal claf yn dod yn ddeddf.

Ychwanegodd Ms Morgan: "Drwy gael rhywun arall yn bresennol, fe fyddai'n pwysleisio beth yw'r problemau… problemau y mae'r claf yn eu gweld yn rhy anodd i'w rhannu.

"Byddai hefyd yn bâr arall o glustiau yn y cyfarfod, oherwydd efallai bod y claf o dan ddylanwad cyffuriau cryf neu yn ei gweld yn rhy anodd bod yn agored gerbron panel meddygol.

"Rwy'n deall pam na fyddai rhai pobl am gael aelod o'r teulu yn bresennol, ond fe allen nhw gael cyfaill y maen nhw'n ymddiried ynddynt neu eiriolwr iechyd meddwl yno."

Mae Haydn a Jayne Morgan yn galw am newid y ddeddfFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Haydn a Jayne Morgan yn galw am newid y ddeddf

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae ein meddyliau gyda theulu ac anwyliaid Bronwen.

"Mae teilwra gofal i anghenion pobl yn nod allweddol yn ein strategaethau Iechyd Meddwl a Lles ac Atal Hunan-Niweidio."

Ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, dywedodd llefarydd: "Fel bwrdd iechyd, ein ffocws yw darparu cefnogaeth iechyd meddwl diogel, tosturiol o safon i unigolion ar draws ein hardal.

"Mae ein gwasanaethau iechyd meddwl wedi ymrwymo i brosiect cysylltu gyda theuluoedd a gofalwyr er mwyn gwella diogelwch cleifion."

Os oes unrhyw faterion yn y stori yma wedi cael effaith arnoch, mae cefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.