Dros £1,000 o iawndal i ddyn wnaeth gwyno am sŵn mewn parc

Maes chwarae Parc Hailey
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod yn talu £75 yr wythnos i'r dyn a gwynodd nes i'r mater gael ei ddatrys

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn sy'n byw ger lle chwarae i blant yng Nghaerdydd wedi cael dros £1,000 o iawndal ar ôl cwyno am sŵn yno.

Yn ôl y dyn, roedd y sŵn o'r parc chwarae ym Mharc Hailey yn achosi niwsans ac yn cael effaith ar ei fywyd.

Ym mis Ionawr fe ddyfarnodd yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus nad oedd Cyngor Caerdydd wedi gwneud digon i ddatrys y broblem, ac fe gawson nhw orchymyn i dalu £300 iddo am yr anghyfleustra.

Os na nad oedd y mater wedi ei ddatrys ymhen wyth wythnos fe ddyfarnodd yr Ombwdsmon y dylai dderbyn £75 yr wythnos hyd nes bod hynny'n digwydd.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cadarnhau eu bod nhw'n cydymffurfio gyda dyfarniad yr Ombwdsmon sy'n golygu bod y dyn wedi derbyn £900 ers canol mis Mawrth, a hynny ar ben y £300 gwreiddiol.

Paul Rock sy'n aelod o bwyllgor Cyfeillion Parc Hailey
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Paul Rock, sy'n aelod o bwyllgor Cyfeillion Parc Hailey, mae'n debygol y bydd yn rhaid symud y lle chwarae

Llain o goncrit tua maint cae pêl droed pump bob ochr yw'r lle chwarae gyda goliau metel bob pen iddo.

Yn ogystal â chwarae pêl droed, mae'r llain yn cael ei ddefnyddio i ddysgu plant i fynd ar gefn beic.

Roedd y cyngor wedi bwriadu cael gwared arno yn dilyn dyfarniad yr Ombwdsmon, ond fe arwyddodd dros 1,000 o bobl ddeiseb yn gwrthwynebu hynny, felly fe gytunon nhw i'w gadw hyd nes bod un newydd yn ei le.

Fe allai hynny gymryd misoedd.

'Poeni am osod cynsail'

Mae pobl leol yn dweud eu bod nhw wedi cael sioc o glywed bod y person a gwynodd yn cael iawndal.

Dywedodd Paul Rock sy'n aelod o bwyllgor Cyfeillion Parc Hailey: "Mae'n drueni fod arian cyhoeddus yn cael ei wario fel hyn. Dwi'n siŵr na all Cyngor Caerdydd fforddio talu £300 y mis i unigolyn fel hyn."

Yn ôl Mr Rock, mae'n edrych yn debygol y bydd yn rhaid symud y lle chwarae maes o law.

"Mae'r safle presennol yn un da iawn. Yn amlwg roedd yna broblem gyda'r broses gynllunio iddyn nhw fedru adeiladu tai mor agos i lefydd chwarae oedd yma'n barod," meddai.

"Dwi'n poeni y bydd hyn yn gosod cynsail, fe allai'r person yma, neu berson arall nawr gwyno am y parc chwarae rownd y gornel."

Cerys Ponting
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Cerys Ponting ddau o fechgyn sy'n defnyddio'r lle chwarae

Mae Cerys Ponting, sydd â dau o fechgyn, ymhlith y rhieni sy'n anfodlon.

"Mae fy mhlant i'n eithaf ifanc, maen nhw'n chwarae falle am ddeg munud ac wedyn mynd," meddai.

"Mae e'n anodd i fi wybod os yw hi'n broblem fawr neu beidio.

"Os wyt ti'n mynd i brynu tŷ wrth ymyl parc mae'n rhaid i ti dderbyn sŵn pobl yn joio.

"Fel pobl sy'n byw yn lleol dy'n ni ddim yn clywed lot am broblemau fel 'na yn y parc. Fi'n amheus bod yna broblem o gwbl."

Delyth Drew
Disgrifiad o’r llun,

Mae Delyth Drew, sy'n fam i dri bachgen, yn dweud bod angen ceisio cadw cyfleusterau i'r plant yn y parc

Mae Delyth Drew yn fam i dri bachgen: "Fi'n eithaf crac ond dwi hefyd yn drist bod rhywun yn gallu mynd ag arian oddi ar y cyngor.

"Dwi ddim yn gweld nhw'n datrys y broblem y flwyddyn hon felly faint o arian mae e'n mynd i'w gael?

"Mae'n rhaid i ni drio cadw cyfleusterau i'r plant yn y parc achos does dim lot o bethau yma."

'Cael effaith ar ansawdd bywyd'

Mae BBC Cymru wedi siarad gyda'r person gwynodd am y sŵn.

Mae e'n dweud ei bod hi wedi bod yn broblem ers deng mlynedd a bod gorfod gofyn i bobl fod yn dawel bob awr o'r dydd yn cael effaith ar ansawdd ei fywyd.

Fe gafodd lefel y sŵn ei fesur fel rhan o'r gwyn.

Fe ddangosodd y gwaith hwnnw fod pêl yn bwrw'r gôl metel yn cyrraedd 90 desibel. Roedd cicio pêl neu bêl yn taro'r concrit yn cyrraedd 60 desibel, tua'r un lefel a sŵn drws car yn cau'n glep.

"Ers y dechrau," meddai, "ro'n i am geisio datrysiad na fyddai'n effeithio ar allu plant i chwarae nac yn effeithio ar drigolion eraill fel mae e wedi effeithio arnom ni. Mae 'na ddatrysiad nawr ar y gweill mewn safle mwy addas a chydag offer gwell"

Mae Cyngor Caerdydd yn dweud eu bod nhw wedi sicrhau arian ar gyfer lle chwarae newydd.

"Fe fyddwn ni'n dechrau ymgynghori gyda phlant ysgol a'r gymuned ehangach cyn bo hir er mwyn ceisio datrys y broblem sŵn a darparu cyfleusterau gwell i'r gymuned cyn gynted a bo modd. Yn y cyfamser ry' ni'n cydymffurfio gydag argymhellion yr Ombwdsmon."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig