Arwr lleol, Syr Dave Brailsford, yn helpu Deiniolen i 'ffynnu eto'

- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch i droi hen adeilad yng Ngwynedd yn hwb cymunedol wedi cyrraedd y nod, diolch yn bennaf i help arwr lleol.
Y bwriad oedd prynu adeilad yr hen lyfrgell yn Neiniolen a'i droi'n ganolfan gymunedol, gan hefyd adnewyddu'r clwb snwcer drws nesaf.
Gyda Chyngor Gwynedd wedi rhoi amod o £100,000 drwy Gronfa Ffyniant Bro, roedd angen i'r gymuned godi £20,000 i brynu'r adeilad - a hynny erbyn dydd Llun 15 Medi.
Tan yn ddiweddar, roedd hynny'n ymddangos yn heriol. Ond, mae un o enwau mawr y byd seiclo, Syr Dave Brailsford, ag yntau wedi'i fagu yn y pentref, wedi cyfrannu £10,000, gan olygu bod y targed rŵan wedi'i gyrraedd.

Mae Lyndsey Pleming yn edrych ymlaen at gael pobl at ei gilydd a chynnal digwyddiadau yno
Mae Lyndsey Pleming ar bwyllgor pentref Deiniolen ac yn dweud eu bod yn gweithio at gael hwb cymunedol ers blynyddoedd.
"Mae 'na leoliadau bychan o fewn y gymuned, ond dim un digon mawr i gynnal digwyddiadau mwy", meddai.
"Fydd hyn yn golygu bod ganddon ni le ar gyfer digwyddiadau, dod â phobl at ei gilydd ar gyfer eisteddfod ella', gigs ac yn y blaen.
"Petha' sy'n digwydd mewn pentrefi eraill ond yn anffodus s'gen Deiniolen ddim y gofod ar hyn o bryd - ond gyda haelioni pawb, dyma ni."
Yn ôl Lyndsey, roedd hi'n syndod ac yn wefr clywed bod Syr Dave Brailsford wedi bod mor hael.
"Gafon ni'n syfrdanu deud gwir - bod 'na hogyn sy'n teithio'r byd, yn cymysgu efo mawrion y byd chwaraeon, yn dal i gofio ei wreiddiau, yn dal i gofio am ei gymuned," meddai.
"'Da ni 'di gwirioni'n lân. Criw bach ydan ni, 'da ni'n gweithio'n galed ers blynyddoedd i ddod â'r weledigaeth yma'n fyw."

Syr David Brailsford wedi helpu i brynu hen lyfrgell gyda'r bwriad o'i droi'n hwb cymunedol
Mewn datganiad, dywedodd Syr Dave Brailsford CBE: "Mae gen i atgofion hapus o redeg allan o'r Ysgol ar ddiwedd diwrnod a chroesi'r lôn i'r Clwb Snwcer i drio cael y gêm ola' cyn i'r Clwb gau am y prynhawn.
"Dymunaf yn dda i'r pentref yn eu cais i brynu'r hen lyfrgell."
Mae'r efeilliaid lleol Dafydd a Ioan Bean, 20 oed, yn chwarae snwcer yn rheolaidd yno ac yn teimlo'n gryf am sicrhau dyfodol yr adeilad - yn enwedig gan fod gan eu taid, Arthur Owen, gysylltiad agos â'r clwb.
Fe benderfynon nhw gyfrannu rhan o'u cyflogau at yr ymgyrch.
Dywedodd Dafydd: "Dros yr haf 'da ni adre' o coleg a ma' gynnon ni swydd rhan-amser yn McDonalds, a dyma ni'n penderfynu'n gwaith un diwrnod, 'be' 'tasa ni'n rhoi ychydig o bres i'r clwb?'
"Y penderfyniad gorau oedd cyfrannu'r pres o un shifft, sef £100 yr un. Swm bach i gymharu efo'r pris ond mae'n helpu'r clwb i fynd."

Dywedodd yr efeilliaid, Ioan (chwith) a Dafydd fod y ganolfan yn le pwysig iddyn nhw fel teulu
Ychwanegodd Ioan: "Mae'r lle'n bwysig iawn i ni fel teulu achos bod Taid yn arfer chwarae yma - mae ei lun o ar y wal yma.
"Mae 'na lot o wobrau adre', rhyw dair neu bedair gwobr wahanol o ran snwcer a mae ei giw o'n dal adre'.
"'Da ni 'di bod yma'n chwarae ers ryw bedair blwyddyn, tua teirgwaith yr wythnos, felly o'dd o'n bwysig i'r teulu a gwneud yn siŵr bod y lle'n cael ei gadw ar agor a bod rhyw ddefnydd o'r lle."
Er bod y targed wedi'i gyrraedd ar gyfer prynu'r adeilad, bydd y codi arian yn parhau ac unrhyw arian ychwanegol yn mynd at gynnal a chadw'r adeilad.
Ychwanegodd Lyndsey Pleming: "Mae'n gyfnod cyffrous. Adnewyddu, datblygu a gwneud Deiniolen ffynnu unwaith eto."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2024
- Cyhoeddwyd25 Mehefin 2020
- Cyhoeddwyd28 Gorffennaf 2021