Parc Cenedlaethol Eryri i gael gwared ar 'Snowdonia' o'i logo

Y logo newydd a fydd yn cael ei ddefnyddio gan Barc Cenedlaethol Eryri
- Cyhoeddwyd
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri wedi pleidleisio o blaid logo newydd yn dilyn penderfyniad i ollwng 'Snowdonia' o'i enw.
Roedd penderfyniad blaenorol i gyfeirio'n unig at Yr Wyddfa yn hytrach na 'Snowdon', ac Eryri yn hytrach na 'Snowdonia', wedi derbyn cefnogaeth gyffredinol gan bobl leol ac ymwelwyr, yn ôl adroddiad.
Roedd hyd at 65% o ymatebion i arolwg o ymwelwyr â’r Wyddfa dros yr haf yn gadarnhaol, gyda rhwng 10%-15% yn nodi nad oedden nhw'n gefnogol.
Clywodd aelodau bod y penderfyniad wedi dylanwadu ar y cyfryngau ac aelodau'r cyhoedd a bod yr enwau Cymraeg wedi "gafael" gyda llawer o bobl ddi-Gymraeg.
Eryri: 'Pobl yn defnyddio'r Gymraeg yn unig yn naturiol'
Er bod y parc eisoes wedi penderfynu cyfeirio at ei hun fel Parc Cenedlaethol Eryri, mae'r logo presennol hefyd yn dangos 'Snowdonia National Park'.
Fe wnaeth yr aelodau bleidleisio'n unfrydol yn cefnogi cyflwyniad "graddol" y logo newydd, a fydd ond yn cael ei ddefnyddio ar-lein i ddechrau.
Ond does dim disgwyl i bob arwydd a cherbyd gael eu hail-frandio ar unwaith oherwydd y goblygiadau ariannol o wneud hynny.

Fe fydd y logo newydd yn pwysleisio'r ffaith bod iaith a diwylliant arbennig yn perthyn i'r ardal, medd y Cynghorydd John Pughe Roberts
Cafodd y penderfyniad ei ddisgrifio fel "cam mawr ymlaen i iaith a diwylliant" Eryri gan un o gynghorwyr sir Gwynedd, John Pughe Roberts, a gyflwynodd gynnig yn gofyn i'r parc roi'r gorau i ddefnyddio Snowdon a Snowdonia.
"Mi neith wahaniaeth mawr," meddai, gan awgrymu y gallai ysgogi pobl di-Gymraeg, sy'n defnyddio "ambell i air o Gymraeg" yn y lle cyntaf, fod "eisio dysgu mwy o eiria ac yn diwedd yn dod yn fwy Cymraeg yn naturiol".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd16 Tachwedd 2022