Gwynedd: Cais i newid y system bleidleisio yn methu
- Cyhoeddwyd
O drwch blewyn mae cynghorwyr yng Ngwynedd wedi gwrthod ymgais i newid system ethol y cyngor yn sgil pryderon byddai'n "torri'r cyswllt rhwng cynghorwyr a'u hetholwyr".
Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn rhoi’r hawl i gynghorau ddewis rhwng parhau â’r system cyntaf i’r felin neu ddewis system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy (STV).
Yn 2022 cafodd dros 40% o gynghorwyr y sir eu hethol yn ddiwrthwynebiad - y nifer uchaf yng Nghymru - ac roedd rhai wedi gobeithio y byddai newid o'r fath wedi lleihau'r ffigwr hwnnw yn y dyfodol.
Ond mewn pleidlais ddydd Iau - yn dilyn penderfyniad tebyg gan Gyngor Powys yr wythnos diwethaf - o drwch blewyn fe fethodd y mesur â chyrraedd y mwyafrif o ddau draean oedd ei angen i wthio'r newid i STV.
Gyda 45 wedi pleidleisio o blaid, fe wnaeth 22 bleidleisio yn erbyn, gydag un aelod yn ymatal.
Yn dilyn penderfyniad cyn-arweinydd y cyngor i ymddiswyddo yr wythnos ddiwethaf, clywodd y cyfarfod llawn hefyd bod disgwyl camau i ddewis arweinydd newydd i gymryd lle Dyfrig Siencyn "dros y dyddiau i ddod".
Dim digon o gefnogaeth
Mae STV, sydd eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, yn golygu fod pleidleiswyr yn rhoi rhifau wrth ymyl ymgeiswyr yn nhrefn blaenoriaeth.
Byddai angen i ymgeiswyr llwyddiannus gyrraedd cwota a fyddai'n cael ei gyfrifo ar sail rhannu nifer y papurau pleidleisio dilys â nifer y seddi sydd ar gael.
Ar hyn o bryd mae Gwynedd yn ethol y rhan fwyaf o'i chynghorwyr i gynrychioli wardiau llai, sy'n ethol un aelod bob un.
Ond mae STV yn gweithredu ar sail wardiau sydd â mwy nag un aelod ym mhob un.
Mewn ymgynghoriad diweddar roedd 72.2% o ymatebwyr Gwynedd wedi dweud eu bod o blaid ethol eu cynghorwyr gan ddefnyddio STV.
Ond er i'r cynnig gael ei roi gerbron y cyfarfod gan y weinyddiaeth Plaid Cymru, sy'n dal tua dwy ran o dair o seddi'r awdurdod, methodd yr aelodau â rhoi digon o gefnogaeth i wireddu'r newid.
Dywedodd cadeirydd y grŵp Plaid Cymru, Cai Larsen, er ei fod yn cefnogi’r newid yn bersonol, nad oedd yr aelodau wedi cael eu chwipio ar y bleidlais, er mai STV oedd dewis y blaid ar gyfer etholiadau’r Senedd.
'Ai democratiaeth yw hynny?'
Dywedodd Steve Churchman o'r Democratiaid Rhyddfrydol fod y system cyntaf i'r felin wedi arwain at "ddarlun ar ei waered" a bod 28 o'r 69 aelod yng Ngwynedd wedi eu hethol yn ddiwrthwynebiad yn yr etholiadau lleol diwethaf.
"Pan welwch chi 41% o aelodau yn cael eu hethol heb ornest, a yw pleidleiswyr yn cael llais? Ai democratiaeth yw hynny?" meddai.
Ychwanegodd y byddai STV yn arwain at "ganlyniad mwy adlewyrchol o'r sir gyfan".
- Cyhoeddwyd19 Ionawr
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2019
Dywedodd yr aelod annibynnol, Dylan Fernley, fod yr holl gynghorwyr ar Ynys Môn eisoes wedi'u hethol i gynrychioli wardiau aml-aelod.
Ond dywedodd yr aelod Plaid Cymru Linda Morgan y gallai wardiau mwy "wanhau'r berthynas rhwng cynghorwyr a'r cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli".
Dywedodd Rhys Tudur hefyd y byddai'r broses gyfri' ar gyfer STV yn "ddrud ac yn aneglur".
Ond dywedodd ei gyd-gynghorydd Plaid Cymru, Elin Walker Jones, fod cynghorwyr wedi gweithio ar draws llinellau pleidiol ym Mangor, lle mae nifer o wardiau eisoes yn adrannau aml-aelod.
Mewn ymateb dywedodd Mat Mathias o'r Gymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru fod y datblygiad yn un "siomedig iawn".
“Yr hyn rydym wedi ei weld heddiw yw ewyllys clir pobl Gwynedd a mwyafrif y cynghorwyr i gael democratiaeth leol decach, yn cael ei wrthod ar sail dechnegol.
“Yn yr etholiad diwethaf gwrthodwyd pleidlais i dros 30,000 o bobl y sir i bob pwrpas, gan fod y system bleidleisio cyntaf i’r felin yn golygu mai dim ond un ymgeisydd oedd gan dros 40% o’r wardiau.
“Felly, nid yw’n syndod bod dros 70% o drigolion wedi cefnogi symud i’r system Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, a fyddai’n golygu bod pob pleidlais yng Ngwynedd yn cyfrif a phob llais yn cael ei glywed.
"Roedd hyn hefyd yn cael ei gydnabod yn glir gan gynghorwyr Gwynedd, gyda 65% ohonynt wedi pleidleisio heddiw i symud i STV.
“Mae’n siomedig iawn bod yr awydd clir am ddemocratiaeth decach, a fynegwyd gan bobl Gwynedd a mwyafrif clir o’u cynghorwyr, wedi ei rwystro.”