Ateb y Galw: Lauren Jenkins

Lauren
  • Cyhoeddwyd

Y gyflwynwraig o Lanelli, Lauren Jenkins, sy'n ateb ein cwestiynau'r wythnos hon.

Mae Lauren yn aml i'w gweld ar ein teledu wrth ochr caeau rygbi - gemau rhyngwladol a rhanbarthol - yn asesu'r gemau gyda chyn-chwaraewyr.

Mae Lauren hefyd yn cyflwyno podlediad Scrum V ar hyn o bryd, sy'n trafod materion diweddaraf y byd rygbi yng Nghymru a thu hwnt.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Mam-gu yn grac gyda Dad-cu oherwydd bod e wedi mynd a fi i'r fan hufen iâ ar ôl Meithrin cyn bo fi'n cael te.

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Ma' wastad dau le dwi'n hoffi mynd â ffrindiau.

I'r gorllewin yn un - rwy'n mwynhau mynd i Drefdraeth a cherdded o bwll gwaelod, heibio Cwm Eglwys ar hyd llwybr yr arfordir a bennu 'da fish n chips yn y Golden Lion.

Ac i Stadiwm y Principality i glywed yr anthem dan do.

Disgrifiad o’r llun,

Ardal o'r gorllewin y mae Lauren yn hoff iawn ohono

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Ges i gymaint o nosweithiau grêt tra'n byw ym Mharis a Barcelona ar flwyddyn dramor... ond ddim yn cofio nhw'n ddigon da i ailadrodd!

Felly beth am y pnawn gorau? Roedd gweld fy mhartner Andrew yn ennill y Cwpan Undydd gyda Morgannwg yn 2021, a chael ei enwi'n seren y gêm yn sbesial. Dwi wedi bod yn ddigon ffodus i brofi sawl achlysur arbennig ym myd chwaraeon Cymru ond fydd dim byd yn cymharu i'r pnawn yna. Y canu, cyffro'r gêm a'r ffaith mai dyma oedd tlws cynta'r clwb ers 17 mlynedd.

Actually, falle cerdded mewn i far yn annisgwyl ar ein gwyliau yn Lake Tahoe, ac aros yna tan un y bore yn canu ac yfed rum gyda dau gerddor anhygoel odd 'di defnyddio'r bord fel llwyfan. Unwaith oedden nhw 'di clywed bo' ni'n Brydeinig, chwaraeon nhw mond y Beatles a Queen am tua dwy awr.

Ffynhonnell y llun, Lauren Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Lauren a'i phartner Andrew'n dathlu buddugoliaeth Morgannwg yn ffeinal y Cwpan Undydd yn 2017

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Digymell (spontaneous), laid-back, hael

Disgrifiad o’r llun,

Yn cyflwyno podlediad Scrum V, gyda'r gwesteion Alex Cuthbert, Ellis Jenkins a Jonathan Davies

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Ciwio i gael llun gyda cardboard cut-out o Mark Owen achos o'n i'n dwli ar Take That. Ac wedyn bron yn rhy swil i fynd lan i gael y llun 'di tynnu pan gyrhaeddes i'r front.

Ffynhonnell y llun, Lauren Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Mark Owen allan o gardfwrdd gyda Lauren ifanc

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Penderfynu bod fi eisiau bod yn rhan o'r gymdeithas cheerleading yn yr wythnos gyntaf yn y brifysgol ac wedyn ffaelu gwneud cartwheel yn yr audition.

Dwi'n beio mam. Unrhyw bryd nes i drial neud forward roll fel plentyn bydde hi'n mynd 'watch you don't break your neck'.

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Gan amlaf pan dwi'n clywed am gi rhywun yn marw, ac wedyn yn dechrau meddwl am fy nghi i'n marw. Morbid dwi'n gwybod!

Ond mae'n gi unigryw - meddyliwch am y ffilm Marley and Me. Twp, hyderus, twyllodrus, class clown.

Ffynhonnell y llun, Lauren Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Lauren gyda'i chi ffyddlon, Colin

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Dwi'n rhy uchelgeisiol yn coginio (am rywun sy ddim rili'n grêt am goginio).

Fydd ffrindie ar eu ffordd draw am fwyd a fydda' i dal yn rhedeg o gwmpas yn trial ffeindio ryw gynhwysyn anghyffredin fel preserved lemon harissa chi mond yn gallu cael yn Waitrose.

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Hwn yn hawdd. Bu farw Dad-cu yn 56 oed. 6 wythnos ar ôl cael diagnosis cancr pan o'n i'n dair oed.

Rhywsut mae ei bresenoldeb wedi teimlo'n gryf yn fy mywyd ers hynny. Falle oherwydd y ffordd ma' Nain wastad wedi siarad amdano – arfer dwli coginio pysgod ar y barbie beth bynnag y tywydd, teithio'r byd tra oedd e'n gallu, dyn teulu go iawn.

Ffynhonnell y llun, Lauren Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Lauren gyda'i thad-cu

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

O'n i'n real tomboy pan oeddwn i'n blentyn ac yn mad am Man United. Roedd 'na bosteri Man United ym mhobman yn fy stafell wely.

Dwi'n cofio aros am oriau tu fas i Old Trafford yn gobeithio cael llofnodion y chwaraewyr.

Ffynhonnell y llun, Lauren Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Lauren yn ceisio cael llofnod Mikaël Silvestre tu allan i Old Trafford

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Bydde bwyd yn chwarae rhan bwysig. Dwi'r math o berson sy'n mynd i gysgu yn meddwl am frecwast, yn cynllunio cinio cyn bod wedi codi.

Dwi ddim yn deall rheiny sy'n dweud 'anghofies i fwyta heddi'. Dwi'n anghofio bod fi wedi bwyta, ac yn bwyta eto!

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Does dim byd dwi'n mwynhau mwy neu sy'n cyfoethogi bywyd mwy na theithio. Dyma un o nifer galle fi wedi dewis.

Dyw Andrew ddim rili'n involved yn yr ochr 'cynllunio' o wylie felly fel arfer mae'r diwrnod yn cychwyn gyda fe yn sylweddoli bod y daith i'r stop nesa' ddwywaith mor hir â beth odden ni wedi rhagweld.

Ffynhonnell y llun, Lauren Jenkins
Disgrifiad o’r llun,

Lauren ac Andrew ar wyliau yn yr UDA

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Y dyfarnwr rygbi Alain Rolland yn ystod gêm gynderfynol Cwpan Byd 2011 (Cymru v Ffrainc)... byswn i wedi estyn am gerdyn melyn i Sam Warburton, nid coch.

Pynciau cysylltiedig