'Dyfodol llewyrchus i'r Gymraeg' - cadeirydd newydd Mentrau Iaith

Llun yn dangos menyw efo gwallt yn tywyll a siaced coch yn edrych i ffwrdd o'r camera.Ffynhonnell y llun, Mentrau Iaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae gan Ffion dros 25 mlynedd o brofiad ym maes cynllunio ieithyddol

  • Cyhoeddwyd

"Dwi'n hyderus trwy weithio efo Mentrau Iaith Cymru bod dyfodol llewyrchus iawn o'n blaenau ni o ran y Gymraeg," medd Ffion Gruffudd sydd newydd ei phenodi yn gadeirydd.

"Fi wir yn gobeithio bo' fi'n gallu gwneud yr un gwahaniaeth ar lefel genedlaethol," medd Ffion a fydd yn parhau i weithio yn llawn amser fel Pennaeth Caerdydd Ddwyieithog i Gyngor Caerdydd tra'n ymgymryd â'r rôl wirfoddol fel cadeirydd.

Nod Mentrau Iaith Cymru yw cynyddu'r nifer o gyfleodd sydd gan bawb i ddefnyddio'r Gymraeg o fewn eu cymunedau, ac i weld yr iaith yn ffynnu ym mhob ardal o Gymru.

Datblygu defnydd o'r iaith

"Fi'n hynod o gyffrous," ychwanegodd Ffion.

"Mae'n teimlo fel bod fi efo criw sydd yr un mor angerddol â fi am yr iaith Gymraeg."

Yn wreiddiol o Gwrtnewydd, ger Llanbedr Pont Steffan, mae Ffion wedi treulio rhan helaeth o'i bywyd yn hybu a datblygu defnydd o'r Gymraeg.

"Fi eisiau byw mewn gwlad lle mae'r Gymraeg yn ffynnu ym mhob cwr.

"I fi mae hwnna'n golygu pobl ifanc, yn enwedig, yn defnyddio'r Gymraeg yn naturiol, heb rwystr,

"Cyfleoedd lu i ddefnyddio'r Gymraeg yn ein cymunedau ni - lot fwy o gyfleoedd na sydd nawr.

"A sicrhau cydraddoldeb, ar lefel ymarferol, lle bydde fe'r un mor rhwydd i rywun siarad Cymraeg ym mhob agwedd o fywyd, a beth fydde fe i siarad Saesneg.

"Dyna beth sy'n gyrru fi, dyna beth licen i weld," meddai.

Llun yn dangos map graffeg o dde Cymru, a lleoliadau canghennau amrywiol Mentrau Iaith Cymru.Ffynhonnell y llun, Mentrau Iaith Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae 22 Menter Iaith yng Nghymru - y mwyafrif yn de

Mae Ffion eisoes yn hybu a hyrwyddo'r Gymraeg trwy gadeirio Bwrdd a Phartneriaeth Cymraeg i Bawb y de-ddwyrain.

Mae hi hefyd yn cynnig argymellion ar sut i warchod yr iaith trwy gryfhau polisi cyhoeddus, yn ei gwaith fel aelod o ail gam Comisiwn Cymunedau Cymraeg y Llywodraeth.

Mae Ffion yn falch o'i datblygiad "o weithio ar lefel prifddinas, prifddinas rhanbarth, rhanbarthol" ac nawr "yn genedlaethol".

"Un o ryfeddodau pennaf y Mentrau i fi erioed, ydy faint maen nhw'n llwyddo i gyflawni, yn aml gyda chyllideb bach iawn.

"Mae fe'n anhygoel," meddai.

"Gyda mwy o fuddsoddiad ac adnoddau, fi'n meddwl gallen nhw gyflawni gwyrthiau.

"Dwi'n cynnwys yn hwnna bod yn arf i'r llywodraeth, o ran gwireddu'u targed nhw o ddyblu'r defnydd o Gymraeg erbyn 2050".

Cred Ffion bod Deddf y Gymraeg ac Addysg 2025, dolen allanol yn "hollbwysig" ac yn "sbarduno, gobeithio, newid go iawn".

"Dyma ddeddf sy'n ceisio cyrraedd y nod o 1,000,000 o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn 2050, trwy ffocysu ar wella addysg Gymraeg, ymhlith ymdrechion eraill.

"Ein pobl ifanc ni yw ein dyfodol, a fi'n credu bod e'n holl bwysig eu bod nhw'n cael y cyfle i fod yn ddinasyddion dwyieithog, hyderus," meddai.

Serch hynny, dywedodd "Beth sy'n bwysicach fyth yw bod y siaradwyr hynny yn cael cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith yn eu bywydau bob dydd.

"A dyna lle dwi'n credu gall y Mentrau Iaith gael yr effaith fwyaf.

"Nhw sy'n nabod anghenion eu cymunedau nhw, a nhw sydd yn y sefyllfa orau i ymateb i'r anghenion hynny - nhw yw'r arbenigwyr.

"Dwi ddim yn meddwl allwn ni danbrisio'r effaith mae gwaith y Mentrau wedi ei gael dros y blynyddoedd."

Yn y dyfodol, hoffai Ffion "ehangu ar y gwaith yna a cheisio cael y gefnogaeth sydd angen arno ni i lwyddo i wneud mwy".

Pynciau cysylltiedig