Galw ar siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf i roi mwy o gymorth i ddysgwyr

Roedd Marcus Whitfield yn siarad gyda Beti George
- Cyhoeddwyd
Mae pobl sy'n dysgu Cymraeg angen mwy o help gan siaradwyr rhugl, yn ôl gŵr sydd wedi sefydlu gwesty i roi hyder i ddysgwyr.
Dywedodd Marcus Whitfield, perchennog Garth Newydd yn Llanbedr Pont Steffan, mai'r ffordd orau i siaradwyr newydd wella eu hiaith ydy sgwrsio gyda siaradwyr iaith gyntaf.
Ond dywedodd fod nifer y Cymry Cymraeg sy'n mynd i rai digwyddiadau codi hyder siaradwyr newydd yn gallu bod yn isel iawn.
Ychwanegodd fod cefnogaeth dda iawn ar adegau - gan gynnwys yn Llanbed, lle agorodd ei westy dair blynedd yn ôl - ond nad ydy pawb yn sylweddoli bod dysgwyr angen cymorth i wella.
Dysgu Cymraeg ar ôl Euro 2016
"'Da ni angen pobl Cymraeg i fabwysiadu ni - jest helpu ni," meddai ar raglen Beti a'i Phobol.
"Os ti'n cwrdd â rhywun sy'n gwisgo bathodyn dysgwr, wrth gwrs maen nhw'n gwisgo bathodyn achos maen nhw eisiau i bobl siarad gyda nhw - so 'da ni angen ffeindio'r ffyrdd i gymysgu pobl Cymraeg gyda'r bobl sydd wedi dysgu Cymraeg."
Yn wreiddiol o Fwcle, mae'r dyn busnes bellach yn byw yng Nghaint.
Er iddo fwynhau gwersi ail iaith yn yr ysgol uwchradd, fe ddechreuodd ddysgu o ddifrif ar ôl synnu clywed cymaint o gefnogwyr tîm pêl-droed Cymru yn siarad yr iaith yn ystod Euro 2016.
Yn 2022 fe agorodd westy Garth Newydd fel rhywle i bobl aros a chael y cyfle i godi eu hyder yn yr iaith.
Mae cyrsiau yn cael eu cynnal yno, ac mae'n gyfle i bobl gyfarfod gyda dysgwyr eraill a siaradwyr iaith gyntaf.

Mae Gareth Newydd wedi ei leoli yng nghanol tref Llanbedr Pont Steffan
Mae Mr Whitfield hefyd wedi sefydlu gwefan paned.cymru i hyrwyddo dysgu Cymraeg.
Mae'r wefan yn cynnwys map o ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu i annog pobl i gyfarfod er mwyn siarad Cymraeg - o sgwrs dros baned i deithiau cerdded.
Pan fydd o'n mynd i rai o'r digwyddiadau, mae nifer y siaradwyr iaith gyntaf yno yn amrywio, meddai.
"Weithiau mae o'n jest un neu ddau siaradwr Cymraeg - y pwynt yw 'da ni angen mwy o help," meddai.
"Dwi'n meddwl bod pobl yn meddwl 'o maen nhw'n dysgu Cymraeg, gad nhw ddysgu Cymraeg'. Ond 'da ni angen help.
"Dwi'n trefnu taith gerdded weithiau a nes i roi rhywbeth am drip o Ffwrnais [Ceredigion] i Fachynlleth a nes i ysgrifennu am y peth yn sawl lle ar y we, a does neb yn troi lan i gefnogi'r daith."
Dywedodd ei fod yn ffodus iawn yn Llanbed gan fod criw o siaradwyr Cymraeg yn gefnogol iawn i bob digwyddiad, a bod yr iaith yn cael ei defnyddio'n naturiol bob dydd yn y dref.
Ond dywedodd nad yw hynny'n wir ymhobman, a bod angen codi ymwybyddiaeth o brofiad dysgwyr a beth fyddai'n gymorth iddyn nhw.
Agor gwesty i 'helpu dysgwyr'
"Mae 'na lot o bobl dwi'n nabod yn gallu siarad Cymraeg ar lefel fi, ond dydyn nhw ddim yn gwybod beth i 'neud gyda'u Cymraeg," meddai.
"Sut wyt ti'n neud ffrindiau? Sut wyt ti'n neud ffrindiau yn Saesneg, ond wrth gwrs mae'n fwy anodd yn yr ail iaith.
"Dyna'r broblem fwya' - dwi ddim wedi clywed unrhywun rili yn siarad am y pwnc."
Dywedodd Mr Whitfield mai dyna un o'r ffactorau wnaeth ei annog i agor Garth Newydd, gan fod digon o gymorth ar gael i bobl sy'n dechrau siarad Cymraeg, ond llai ar gyfer y cam nesaf.
"Ti ddim yn gallu dysgu Cymraeg un awr bob wythnos yn y dosbarth - ti angen 'neud pethau, ond ble ti'n mynd a beth wyt ti'n mynd i neud?
"Dwi ddim yn berson swil ond roedd yn anodd i fi mynd mas a jest trio dechrau siarad Cymraeg so o'n i'n meddwl os [mae'n anodd i fi a] dwi ddim yn swil, beth am bawb arall?
"So o'n i eisiau creu rhywbeth ble ro'n i'n helpu pobl, a dyna beth sy'n ysbrydoli fi rili - jest i helpu pobl i fynd o ddysgwyr i siaradwyr Cymraeg."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref
- Cyhoeddwyd3 o ddyddiau yn ôl