Ambiwlans Awyr i barhau ag ad-drefnu ar ôl gwrthod apêl arall

Hofrennydd Ambiwlans Awyr CymruFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr eisoes wedi methu gydag apêl yn erbyn y penderfyniad yn yr Uchel Lys

  • Cyhoeddwyd

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru'n dweud y byddan nhw'n parhau â'r gwaith o gau eu canolfannau yn Y Trallwng a Chaernarfon ar ôl i'r Llys Apêl wrthod cais gan ymgyrchwyr i geisio rhwystro'r newid.

Ym mis Mehefin fe gollodd yr ymgyrchwyr apêl yn yr Uchel Lys yn erbyn yr ailstrwythuro.

Ym mis Awst dywedodd yr ymgyrchwyr eu bod yn bwriadu cymryd camau pellach, ond mae'r cais yna bellach ar ben.

Dywedodd yr elusen "er nad ydym yn ddiffynnydd yn yr achos cyfreithiol hwn, bydd y penderfyniad yn caniatáu inni symud ymlaen â datblygiad fydd yn achub mwy o fywydau ar draws y wlad – yn enwedig yng nghanolbarth a gogledd Cymru".

Ychwanegon nhw eu bod am roi sicrwydd i'r rheiny sydd yn dal i bryderu am y newidiadau mai eu diben yw "gwella'ch gwasanaeth nid cael gwared arno".

Mewn datganiad, dywedodd y grŵp ymgyrchu bod y dyfarniad yn "ddiwedd ar dair blynedd a mwy o angerdd, ymroddiad, straen ac ar adegau dagrau" yn y "frwydr i gadw'r gwasanaeth hanfodol hwn".

Ychwanegodd y llefarydd: "Rydyn ni'n dal mewn sioc gyda'r penderfyniad a ddaeth heddiw ac nid oes modd dweud yr hyn hoffwn ni ei ddweud yn gyhoeddus."

Beth ydy'r cynlluniau?

Cyhoeddodd yr elusen eu bwriad i gau'r canolfannau yn Y Trallwng a Chaernarfon yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd dros gyfnod o bron i flwyddyn.

Daeth y cyhoeddiad y byddai'r ddwy ganolfan yn cau, gyda chanolfan newydd yn cael ei hagor yn eu lle yng ngogledd Cymru.

Cafodd y penderfyniad ei wneud gan fwyafrif o benaethiaid byrddau iechyd Cymru mewn cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Comisiynu (CBC) - mwyafrif nad oedd yn cynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.

Rhuddlan yn Sir Ddinbych sydd wedi cael ei grybwyll gan CBC fel lleoliad posib y safle newydd, er nad yw hynny wedi ei gadarnhau'n derfynol.

Ddydd Gwener, dywedodd yr elusen eu bod yn croesawu'r penderfyniad i atal apêl yr ymgyrchwyr gan yr Arglwyddes Ustus Andrews ar 15 Hydref.

"Ein gwasanaeth yw un o'r rhai mwyaf datblygedig yn glinigol yn Ewrop, ond mae tystiolaeth arbenigol ddiamheuol yn dangos nad yw pawb yn elwa ohono i'r un graddau."

Ychwanegon nhw bod hyn yn "arbennig o wir yn ystod oriau'r nos yng nghanolbarth a gogledd Cymru".

Mae'r cynlluniau "wedi cynnwys ymchwil a dadansoddiad o'r radd flaenaf sy'n cael eu cefnogi gan arbenigwyr", medden nhw.

Mae'r elusen yn awyddus i ddiolch i'r rhai hynny sydd wedi cefnogi'r cynllun ond yn cydnabod bod rhai yn dal i bryderu.

"Ein nod yw darparu'r gofal gorau posibl, gyda'r adnoddau sydd ar gael i ni – lle bynnag yr ydych a phryd bynnag y bydd eu hangen arnoch - a dyna fydd ein nod bob amser."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig