Cost opsiynau ad-drefnu ambiwlans awyr yn 'aneglur'

Ambiwlans awyr Cymru
Disgrifiad o’r llun,

£11.2m yw cost blynyddol cynnal gwasanaeth ambiwlans awyr Cymru

  • Cyhoeddwyd

Nid oedd ymgynghoriad ar gau dau safle ambiwlans awyr yn y gogledd a'r canolbarth wedi'i gwneud hi'n glir beth oedd cost gwahanol opsiynau dan ystyriaeth, yn ôl ymgyrchwyr.

Daw hynny wrth i adolygiad barnwrol ystyried penderfyniad i gau canolfannau Y Trallwng a Chaernarfon, a chanoli'r gwasanaeth mewn un safle ar hyd arfordir y gogledd.

Fe glywodd y gwrandawiad fod gwybodaeth "anghywir" hefyd wedi cael ei roi ynglŷn â rhai costau.

Llynedd fe wnaeth ymgyrchwyr ennill yr hawl i gael yr adolygiad, gan ddadlau bod camgymeriadau wedi bod ym mhroses cyd-bwyllgor comisiynu'r GIG (CBC) o ddod i'w penderfyniad.

Mae CBC yn herio'r angen ar gyfer yr adolygiad.

Fe ddechreuodd yr adolygiad barnwrol ddydd Mercher yng Nghanolfan Cyfiawnder Sifil Caerdydd, gyda disgwyl iddo bara deuddydd.

Daeth hynny yn dilyn penderfyniad ym mis Ebrill llynedd i gau safleoedd Y Trallwng a Chaernarfon cyn i ymgyrchwyr ennill yr hawl ym mis Hydref i gael adolygiad.

Rhuddlan yn Sir Ddinbych sydd wedi cael ei grybwyll gan CBC fel lleoliad posib y safle newydd, er nad yw hynny wedi ei gadarnhau'n derfynol.

Ni fyddai'r newidiadau yn effeithio ar safleoedd yr ambiwlans awyr yn Llanelli a Chaerdydd.

'Trafod cyfreithlondeb, nid teilyngdod, y broses'

Petai'r adolygiad barnwrol yn canfod o blaid yr ymgyrchwyr, fyddai hynny ddim yn golygu o reidrwydd na fyddai safleoedd Y Trallwng a Chaernarfon yn cau, ond gallai arwain at ailedrych ar y broses o ystyried yr opsiynau.

"Nid trafod teilyngdod yr adolygiad ydyn ni, ond yn hytrach cyfreithlondeb y broses o benderfynu," meddai'r bargyfreithiwr Joanne Clement KC ar ran yr ymgyrchwyr.

Dywedodd Ms Clement fod gwasanaeth yr ambiwlans awyr yn "werthfawr tu hwnt" ac yn "cynyddu'r siawns o oroesi wrth gludo cleifion i'r lle cywir yn syth".

Ond honnodd fod gwallau wedi bod yn y modd y cafodd ymgynghoriad ar y cynlluniau ei wneud, gan gynnwys "gwybodaeth ddylai fod wedi bod ar gael i'r cyhoedd" chafodd ddim ei roi ar y pryd.

Roedd hynny'n cynnwys "data anghywir" am gostau gwahanol opsiynau, meddai, allai fod wedi dylanwadu ar ba mor gryf fyddai rhai yn cael eu hargymell.

"Does dim modd i ni wybod sut fyddai'r gwerthuswyr wedi sgorio hyn [fel arall], achos ni chawson nhw'r wybodaeth gywir," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynlluniau i gau'r canolfannau yn Y Trallwng a Chaernarfon wedi achosi pryderon yn y gogledd a'r canolbarth, yn enwedig mewn mannau gwledig

Wrth gyfeirio at yr opsiwn gafodd ei ffafrio, ychwanegodd Ms Clement nad oedd costau cerbydau ychwanegol posib wedi cael eu cynnwys, er bod hynny wedi cael ei adio at opsiynau eraill.

Doedd "dim tystiolaeth" chwaith, meddai, fod CBC wedi gofyn i staff presennol pa shifftiau fydden nhw'n fodlon gweithio wrth iddyn nhw werthuso'r gwahanol opsiynau.

Dywedodd Ms Clement nad oedd y broses wedi rhoi "digon o ystyriaeth" i anghenion pobl fregus, oedd yn fwy tebygol o fyw yn yr ardaloedd fyddai'n cael eu hanfanteisio dan y drefn newydd.

Clywodd y llys bod corff annibynnol sy'n cynrychioli cleifion, Llais, wedi dweud y dylai ymgynghoriad pellach ddigwydd oherwydd "natur sensitif" y cynigion, ac am nad oedd pobl wedi cael "cyfle ystyrlon" i ystyried yr holl opsiynau a'u costau.

Ond dywedodd Ms Clement fod elusen yr Ambiwlans Awyr wedi annog CBC i ddod i benderfyniad yn sydyn, oherwydd byddai "goblygiadau hir dymor" iddyn nhw petai rhagor o oedi.

Mae'r gwrandawiad yn parhau.

Pynciau cysylltiedig