Ymgyrchwyr i herio cynllun ad-drefnu'r Ambiwlans Awyr yn y Llys Apêl

Mae ymgyrchwyr eisoes wedi methu gydag apêl yn erbyn y penderfyniad yn yr Uchel Lys
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchwyr sy'n gwrthwynebu cynlluniau i gau canolfannau'r Ambiwlans Awyr yn Y Trallwng a Chaernarfon yn bwriadu cymryd camau cyfreithiol pellach i geisio atal y newid.
Ym mis Ebrill 2024 fe ddaeth y cyhoeddiad y byddai'r ddwy ganolfan yn cau, gyda chanolfan newydd yn cael ei hagor yn eu lle yng ngogledd Cymru.
Methu wnaeth ymdrech yr ymgyrchwyr ym mis Mehefin i wyrdroi'r penderfyniad ar sail adolygiad barnwrol, ond mae'r grŵp bellach yn bwriadu herio'r penderfyniad yn y Llys Apêl.
Mae Ambiwlans Awyr Cymru wedi cael cais i ymateb.
- Cyhoeddwyd19 Mehefin
- Cyhoeddwyd22 Ionawr
- Cyhoeddwyd23 Medi 2022
Daeth cadarnhad o'r bwriad i gau canolfannau'r ambiwlans awyr yn Y Trallwng a Chaernarfon yn dilyn adolygiad a gynhaliwyd dros gyfnod o bron i flwyddyn.
Cafodd penderfyniad ei wneud gan fwyafrif o benaethiaid byrddau iechyd Cymru mewn cyfarfod o'r Cyd-bwyllgor Comisiynu (CBC) - mwyafrif nad oedd yn cynnwys Bwrdd Iechyd Addysgu Powys.
Rhuddlan yn Sir Ddinbych sydd wedi cael ei grybwyll gan CBC fel lleoliad posib y safle newydd, er nad yw hynny wedi ei gadarnhau'n derfynol.
Fe wnaeth ymgyrchwyr yn erbyn y cynlluniau dadleuol ennill yr hawl i gynnal adolygiad barnwrol, ond methu wnaeth yr ymdrech hwnnw.

Mae ymgyrchwyr yn dadlau y byddai'r penderfyniad yn cael effaith niweidiol ar rai ardaloedd mwy gwledig
Dywedodd y grŵp ymgyrchu mewn datganiad fod canlyniad yr adolygiad barnwrol yn "hynod siomedig" ond ei bod hi'n bosib nad dyma yw "diwedd y ffordd o ran herio'r penderfyniad".
"Mae apêl bellach wedi cael ei wneud i'r Llys Apêl, a fydd yn penderfynu os oes hawl i'r apêl honno symud ymlaen.
"Os yw'r apêl yn cael ei wrthod yna dyna fydd diwedd yr achos, ond os yw'r apêl yn cael ei derbyn fe fydd yr achos yn cael ei glywed."
Ychwanegodd llefarydd ar ran y grŵp eu bod wedi "herio'r ffeithiau a'r rhesymeg" y tu ôl i'r cynllun o'r dechrau, a'u bod o'r farn fod y penderfyniad wedi ei seilio ar "gamwybodaeth, camgyfeiriad a rhagfarn".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.