Aberdâr: Brenhines y Bryniau, ond ydy busnesau'n blaguro?

Aimee Carter
Disgrifiad o’r llun,

Un problem ydy prinder siopwyr, medd Aimee Carter

  • Cyhoeddwyd

Fel gymaint o drefi ar hyd a lled Cymru, mae Aberdâr ym mhen ucha' Cwm Cynon yn profi cyfnod heriol.

Trethi busnes uchel, siopau gwag ar y stryd fawr a phobl yn siopa ar y we.

Er gwaetha'r heriau cyffredin mae 'na falchder a chymuned yma, a theimlad y gall y dref lwyddo.

Mae gan Aberdâr hanes adnabyddus ymhlith trefi diwydiannol y de.

Fel 'Brenhines y Bryniau' y cafodd ei hadnabod mewn cyfnod llewyrchus a fu, cartre'r Eisteddfod Genedlaethol fodern gyntaf a chyfraniad llai poblogaidd i frad y llyfrau gleision.

Ond nawr ar ddiwrnod gwlyb ym Medi mae'r pwysau i'w teimlo ar y stryd fawr.

Aberdâr
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tref Aberdâr ei hadnabod fel 'Brenhines y Bryniau' mewn cyfnod llewyrchus a fu

Siop flodau sy' gan Aimee Carter, ond fel llawer o berchnogion busnesau mae hi wedi gorfod codi prisiau am fod y cynnyrch crai wedi codi gymaint.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, meddai, mae pris blodau wedi codi 20%.

"Da ni'n gwario'r arian ond dy' ni ddim yn gweld bod y stoc yn mynd lan.

"Blwyddyn yn ôl bydde' ni'n edrych a bydde'r blodau yn £6.99, ond nawr maen nhw'n dod mewn am £6.99 - so 'ma rhaid i ni roi'r pris lan - fel y fresia's ma'n £8.99.

Y broblem arall yn Aberdâr meddai Aimee, yw prinder siopwyr.

"Dyw'r footfall ddim yn dda", meddai, gan ychwanegu fod pobl "yn bendant yn mynd ar-lein ac yn 'neud pethe ar-lein".

Aberdâr
Disgrifiad o’r llun,

Aberdâr oedd cartref cyntaf yr Eisteddfod Genedlaethol fodern

Er bod costau wedi codi, mae busnes gemwaith teuluol Dafydd Davies, gafodd ei sefydlu dros 20 mlynedd yn ôl, yn ffynnu.

"Mae gwerthiant wedi bod yn dda, ni wedi bod yn lwcus da'r tywydd ac mae lot o gymorth da'r gymuned i ni. Mae pobl yn hoffi siopa yn Aberdâr!"

Un peth sy'n allweddol, meddai Dafydd, yw symud gyda'r oes.

"Os y' chi'n mynd yn sownd yn yr hen oes - bydde' chi ddim yn datblygu a bydde' chi'n cau wedyn," meddai.

Dafydd Davies
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dafydd Davies eu bod yn cael cwsmeriaid yn dod o "bobman"

Dywedodd Dafydd ei bod hi wastad yn bwysig i "ddatblygu'r cyfryngau cymdeithasol ac i fod ar-lein".

Ac ar ôl i rai o sêr Love Island brynu gemwaith yn y siop, mae'r busnes wedi denu cwsmeriaid o ardal eang.

"Roedd hynny wedi datblygu ac o' ni wedi dechrau cael cwsmeriaid yn dod o Chippenham, o Reading a hefyd Caerdydd, Maesteg a Chasnewydd - o bobman."

Tra'n ymfalchïo yn y llwyddiant mae Dafydd Davies yn cydnabod bod trethi busnes yn heriol, a'r ffaith bod y busnes wedi sefydlu ers dros 20 mlynedd yn fendith.

Mae marchnad Aberdâr yn un brysur, yn hwb yng nghanol y dref.

Ond mae hi wedi bod yn dawelach na'r arfer meddai'r perchennog Amanda Webber. Er gwaethaf hyn mae hi a'i gŵr yn teimlo'n bositif.

"Mae hi'n gymuned dda yn y farchnad, ond mae 'na siopau gwag ar y stryd fawr. Dwi yn meddwl bod pethe yn dechrau gwella, mae development cyffrous yn digwydd."

Amanda Webber
Disgrifiad o’r llun,

"Mae hi'n gymuned dda yn y farchnad, ond mae 'na siopau gwag ar y stryd fawr," medd Amanda Webber

Mae'r esgid yn gwasgu. Ry ni'n gwybod bod costau wedi codi 3.8% ar gyfartaledd yn y flwyddyn hyd at fis Gorffennaf.

Mae hynny'n golygu bod chwyddiant yn dal i fod dipyn uwch na tharged Banc Lloegr o 2%.

Mae Aberdâr yn dref fawr, un o'r mwyaf yng Nghymru ac yn un sydd wedi gorfod addasu dros y blynyddoedd.

Mae yma barc ysblenydd sy'n dyst i gyfnod a fu. Ers hynny profodd dranc y diwydiannau trwm ar drothwy ei drws, gweithfeydd dur a phyllau glo yn cau.

'Truenus'

Mae John Arwel Thomas wedi ymgartrefu yma, er iddo gael ei eni'n Llanfrothen yng Ngwynedd.

Mae 'na newid cyson yn y busnesau ar y stryd fawr, meddai.

"Un o'r problemau ydy bod les y busnesau yna'n dod i ben ac wedyn mae'r perchnogion yn codi'r pris.

"Mae'n druenus, dwi'n un sy'n hoffi cefnogi'n lleol i gadw busnesau bach i fyw, cynnal y gymdeithas, wedyn da' chi'n dod i 'nabod pobl," meddai Mr Thomas.

John Arwel Thomas
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n un sy'n hoffi cefnogi'n lleol i gadw busnesau bach i fyw" medd John Arwel Thomas

Y da a'r drwg ar strydoedd Aberdâr. Stori sy'n cael ei hail-adrodd mewn trefi marchnad ym mhob cwr o Gymru.

Mae 'na heriau. Mae rhannau o'r dre'n edrych yn flinedig.

Ond mae'r ymdeimlad o gymuned yn Aberdâr hefyd yn cynnal busnesau drwy gyfnodau anodd.

Mae 'na falchder o hyd ym 'Mrenhines y Bryniau' a ffydd efallai y daw eto haul ar fryn.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig