Sut mae stryd fawr Caernarfon yn ffynnu wrth i eraill fethu?

Mae ardaloedd fel Stryd y Plas yn ffynnu yng Nghaernarfon
- Cyhoeddwyd
Mae angen mwy o gydweithio i ddod i'r afael â phroblem siopau gwag Cymru, yn ôl arbenigwr eiddo blaenllaw.
Dywedodd y syrfëwr siartredig Chris Sutton, cyn-gadeirydd CBI Cymru, fod diffyg cydlynu yn golygu bod canol dinasoedd fel Casnewydd wedi methu - wrth i rai busnesau mawr adael y stryd fawr.
Ond mae trefi fel Caernarfon wedi ffynnu o dan arweinyddiaeth leol a chefnogaeth i siopau annibynnol, ac mae galwadau i fod yn fwy uchelgeisiol er mwyn gwella canol trefi a dinasoedd eraill.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod hwn yn gyfnod o heriau a newid i'r sector manwerthu, a'i fod wedi diogelu cronfa gwerth £40m i drawsnewid canol ein trefi.
Sut mae Caernarfon wedi achub ei stryd fawr?
Er gwaethaf miliynau mewn cyllid cyhoeddus a nifer o adroddiadau dros y blynyddoedd, mae llawer o strydoedd mawr Cymru wedi parhau i ddirywio.
Yn ôl astudiaeth ddiweddar i'r broblem gynyddol o siopau gwag, mae'r rhan fwyaf o fusnesau bach eisiau bod yng nghanol trefi Cymru.
Ond roedd llawer yn chwilio am swyddfeydd neu weithdy yn hytrach na siopau traddodiadol.

"Cydweithio" sy'n bwysig i lwyddiant Caernarfon, yn ôl Sue Kirk
Mae rhai pocedi o lwyddiant o amgylch Cymru, gyda chanol Caernarfon ymhlith y trefi sy'n ffynnu.
"Mae'n dref fach gyda chymeriad enfawr," meddai Sue Kirk, sydd â siop cofroddion a theganau.
Mae prynu ar-lein yn golygu bod yn rhaid iddi "ddod o hyd i bethau nad ydyn nhw ar gael yn rhwydd ar y rhyngrwyd… ac os gallwch chi lenwi'r bwlch hwnnw ac apelio at eich cwsmeriaid sylfaenol, mae gennych chi fformiwla lwyddiannus".
'Symud gyda'n gilydd'
Mae Hwb Caernarfon yn gyfrifol am gefnogi busnesau lleol, ac yn sicrhau bod siopwyr yn cael gwybod am ddigwyddiadau, bod problemau'n cael eu datrys ar y cyd, a bod y dref yn elwa o'r gwaith sy'n digwydd i ddenu cwsmeriaid.
I Sue Kirk, mae'n syniad syml - cydweithio.
Yng Nghaernarfon "mae cysylltiad eithaf cryf rhwng perchnogion busnesau, fel os oes gennym broblem neu os oes gennym syniad, gallwn symud gyda'n gilydd," meddai.

"Mae'r balans yn dda" o ran siopau yng Nghaernarfon, medd Nigel Strain
Dywedodd Nigel Strain, rheolwr Hwb Caernarfon, fod diffyg canolfan siopa wedi caniatáu i'r stryd fawr ffynnu.
"Mae rhai yn meddwl ei fod yn anfanteisiol fod gennym ni ddim rhyw shopping centre mawr, ond i fi mae'n beth da. Mae ganddon ni lot o siopau annibynnol," meddai.
"Mae'r balans yn dda yma yng Nghaernarfon. Mae'n bwysig cael amrywiaeth o siopau a busnesau."
Beth am lefydd eraill?
Ond er llwyddiant rhai mannau fel Caernarfon, nid hynny yw'r hanes mewn sawl man arall.
Mewn astudiaeth o'r sefyllfa yn 2021 nodwyd mai Casnewydd oedd y ddinas â'r nifer fwyaf o siopau gwag yn y DU, ac mae ei stryd siopa – Commercial Street - yn parhau i fod â nifer fawr o siopau gwag.
Er gwaethaf galwadau am newid y sefyllfa, dydy rhai siopau gwag ddim ar gael i'w defnyddio.
Mae rhai ynghlwm â phrydlesi hir, neu'n cael eu cadw gan landlordiaid anhysbys sy'n amharod i'w rhentu.
Dywedodd yr arbenigwr eiddo Chris Sutton nad diffyg syniadau yw'r broblem yng Nghasnewydd, ond diffyg gweithredu cydlynol.
"Does dim angen adroddiad arall," meddai. "Mae angen gweithredu."

"Does dim angen adroddiad arall, mae angen gweithredu," medd Chris Sutton
Mae Mr Sutton yn derbyn fod perchnogaeth ddryslyd weithiau'n cyfyngu ar yr opsiynau.
"Mae'n debyg mai ein canolfannau manwerthu yw'r lleoliad gyda'r berchnogaeth fwyaf cymysg," meddai.
"Mae ceisio cynllunio adfywio yn anhygoel o anodd pan mae'r berchnogaeth wedi'u rhannu rhwng cynifer o bobl."
Mae angen adnewyddu siopau gwag "ac efallai eu hisrannu i unedau llai" er mwyn denu tenantiaid newydd, dywedodd Mr Sutton.

Mae Casnewydd wedi bod yn "rhoi'r ffocws ar fusnesau mawr ar draul siopau annibynnol," medd Jax Jones
Rownd y gornel o Commercial Street yng Nghasnewydd mae busnesau annibynnol wedi adfywio'r arcêd, ac yn rhybuddio yn erbyn barnu llwyddiant y ddinas ar gyflwr ei phrif stryd siopa.
"Dwi'n meddwl ein bod ni fel un teulu mawr yn yr arcêd yma. Mae'n teimlo fel cymuned, yn hytrach na chriw o siopau ar wahân," meddai Jax Jones, cydberchennog stiwdio tatŵ Mythos.
Ond mae'n teimlo'n rhwystredig bod y strategaeth ehangach yng Nghasnewydd wedi canolbwyntio ar ddenu'r enwau mawr.
"Mae Casnewydd, o leiaf am y 10 mlynedd diwethaf, wedi rhoi'r ffocws ar fusnesau mawr ar draul siopau annibynnol," meddai.
Roedd dirywiad siopau fel Debenhams yn golygu cyfle i gefnogi busnesau lleol llai ac "wrth gael y cyfle, gallwn weld y gall busnesau annibynnol ffynnu," gyda "hyd yn oed siop tacsidermi" yn llwyddo yn yr arcêd.

Dywedodd Cyngor Dinas Casnewydd fod nifer yr ymwelwyr yn cynyddu
Dywedodd Cyngor Dinas Casnewydd ei fod yn anghytuno â data 2021, wnaeth ddangos fod gan y ddinas y broblem siopau gwag waethaf y DU.
Mewn datganiad dywedodd eu bod yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r strydoedd mawr ac yn gweithio i leihau swyddi gwag a chefnogi busnesau annibynnol.
"Nid yw trawsnewid ffawd canol y ddinas yn rhywbeth all ddigwydd dros nos, neu gan y cyngor ar ei ben ei hun," meddai'r Cynghorydd James Clarke.
Dywedodd y cyngor fod nifer yr ymwelwyr yn cynyddu - 2.6% o gynnydd yn 2024 - a bod bron i ddwy ran o dair o unedau canol y ddinas bellach yn cael eu meddiannu gan siopau annibynnol.
Tynnodd sylw hefyd at brosiectau adfywio llwyddiannus fel marchnad Casnewydd a'r arcêd, ac anogodd bobl i "edrych y tu hwnt i'r siopau gwag" i weld y gwellhad.
'Adfywio a datblygu'
Dywedodd Chris Sutton y byddai angen cefnogaeth ar drefi eraill er mwyn cyflawni canlyniadau tebyg i Gaernarfon.
"Mae angen arweinyddiaeth leol arnom," meddai, "ond mae angen i'r awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru fod yn rhan fawr o hyn hefyd, ac mae angen iddyn nhw ei wthio ymlaen."
Dywedodd hefyd fod cyfle i "gwmnïau adfywio a chorfforaethau datblygu" gydlynu a mynd i'r afael â siopau gwag.
A gallai newid yn y ffordd y mae busnesau'n cael eu trethu – trwy drethi busnes – gwneud gwahaniaeth hefyd, meddai Mr Sutton.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mehefin
- Cyhoeddwyd13 Mai
- Cyhoeddwyd3 Mehefin