Arweinydd Cymru a'r Byd: 'Fy ngwreiddiau yn Aberdâr mor bwysig'

Susan Dennis-Gabriel yn canu yn Llanfyllin yn 1979Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Susan Dennis-Gabriel yn canu yn Llanfyllin yn 1979

  • Cyhoeddwyd

Dywed Susan Dennis-Gabriel ei "bod ar ben y byd" wedi iddi gael ei dewis yn Arweinydd Cymru a'r Byd yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Ond, roedd yna dristwch hefyd wedi i'w gŵr a'i hathro cerdd yn Vienna farw yn gynharach eleni.

"Roedd e'n gwybod bo' fi wedi cael fy newis ac mor falch, ond wedi hir waeledd bu farw ddechrau eleni - ond er y tristwch mi fydd yn braf cael dychwelyd i'm hardal enedigol," meddai.

"Yng Nghwm-bach ger Aberdâr y dechreuais i ganu ac roeddwn yn un o ddisgyblion cynharaf Ysgol Gynradd Gymraeg Aberdâr."

Ffynhonnell y llun, Eisteddfod Genededlaethol Cymru

Mae Mrs Dennis-Gabriel yn byw yn Vienna ers blynyddoedd lawer.

Wedi treulio cyfnodau ym Mhrifysgol Caerdydd a Choleg Cerddoriaeth Brenhinol Llundain, enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Vienna ac "mae'r gweddill yn hanes," meddai, wedi iddi gwympo mewn cariad â'i hathro, y diweddar Wolfgang Gabriel.

Nos Sul fe fydd hi'n annerch cynulleidfa'r Gymanfa Ganu.

"Mae gen i ddigon i'w ddweud am fy magwraeth hyfryd yn Aberdâr ond efallai bydd y dagrau yn llifo wrth i fi glywed rhai o'r emynau eto - a diolch byth bod 'Unwaith eto yng Nghymru annwyl' yn cael ei chanu ar ôl i fi siarad," meddai.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Philip (brawd) a Susan yn gwerthu baneri'r Urdd yn Eisteddfod Aberdâr 1956

"Bydd hi'n braf cael bod nôl ac wrth gwrs rwy'n cofio Eisteddfod Genedlaethol Aberdâr yn 1956 pan enillodd ein côr ysgol ni - ond cofiwch, dawnsio o'n i am 'neud!," meddai gan ganu holl eiriau Iesu Tirion wrth siarad â Cymru Fyw.

"Fe fydd yr atgofion yn llifo - cofio am y diwrnodau pan o'n i'n ferch fach yn mynd i gapel Bethania, Cwm-bach - roedd Mam yn chwarae'r organ a Dad, a oedd yn yrrwr trên, yn cynnau'r tân.

"Ges i a fy mrawd blentyndod mor hapus yn mynd o 'steddfod i 'steddfod ac ergyd fawr i fi oedd colli Philip ac yntau ond yn 56 oed."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Susan a'i diweddar ŵr ar ôl cyngerdd o’i gyfansoddiadau

"Mae canu wastad wedi bod yn rhan o fy mywyd ac yn fwy felly wedi i fi briodi fy ngŵr.

"Ro'dd e'n athro gwych i fi ond hefyd yn athro côr Bach Vienna ac yn arweinydd cerddorfa ac felly fe wnaethom ni nifer o oratorios gyda'n gilydd.

"Roedd e'n gyfansoddwr ac yn gyfeilydd gwych - a braint i mi oedd canu iddo bob nos yn ystod ei salwch.

"Fel cantores broffesiynol rwy' wedi cael teithio'r byd a nawr mae'n merch Angharad, a gafodd ei henwi ar ôl un o gymeriadau 'How Green was my Valley' yn gantores broffesiynol."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Susan Dennis-Gabriel yn perfformio yn L’Elisir d’Amore gyda Chwmni Opera Cymru, yn 1974

Dywedodd ei bod yn "edrych ymlaen at fod o flaen cynulleidfa yng Nghymru eto".

Ychwanegodd ei bod hefyd wedi dewis gwisg arbennig ar gyfer yr achlysur ond bod hynny yn gyfrinachol ar hyn o bryd.

"Ydw dwi wedi teithio'r byd fel cantores a thiwtor llais ac wedi ymgartrefu yn Vienna ond mae 'na le arbennig i Gymru yn fy nghalon.

"Mae wyrion fy mrawd bellach yn mynd i Ysgol Gymraeg Aberdâr - nid ar yr un safle - ond dwi mor falch o hynny ac anghofiai fyth am ddylanwad y prifathro Idwal Rees arnon ni'r plant.

"Ni wedi bod fel teulu yn dod yn ôl yn gyson ac wedi mwynhau mynd i Sir Benfro hefyd.

"Rwy' mewn cysylltiad cyson ag ambell ffrind a theulu yn ardal yr Eisteddfod ac mae un o'm ffrindiau gorau, y gantores Eirian James, yn dod o Aberteifi."

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Angharad, sydd hefyd yn gantores broffesiynol, yn dod gyda'i Mam i'r Eisteddfod

"Dwi'n edrych ymlaen yn fawr ac fe fydd yn brofiad hefyd i Angharad y ferch a fydd yno gyda fi," ychwanegodd Susan.

"Ydw dwi wedi teithio milltiroedd ond mae lle cynnes iawn i Aberdâr a'r cyffiniau yn fy nghalon o hyd.

"Mae'n fraint arbennig cael fy newis yn Arweinydd Cymru a'r Byd eleni.

"Fy neges - ewch â Chymru ar draws y byd ond peidiwch byth â'i hanghofio!"