Creu ffilm ar ôl colli 34 ffrind drwy hunanladdiad
![Andrew Jenkins gyda'i gar Aston Martin](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/1200/cpsprodpb/8b28/live/983c2620-e55e-11ef-a819-277e390a7a08.jpg)
Yn ôl Andrew Jenkins mae'n "chwith" iddo werthu ei gar, ond mae'n hanfodol er mwyn ariannu ei ffilm ar effaith hunanladdiad
- Cyhoeddwyd
Degawd yn ôl, fe ysgrifennodd Andrew Jenkins restr o 19 o enwau - ffrindiau, teulu, cydweithwyr a chyfoedion.
Roedd pob un ohonyn nhw wedi lladd eu hunain.
Hunanladdiad ydy'r achos mwyaf o ran marwolaethau dynion o dan 50 yn y Deyrnas Unedig.
10 mlynedd yn ddiweddarach, mae rhestr Mr Jenkins wedi tyfu hyd yn oed yn hirach - cyfanswm o 34.
Ond mae'n benderfynol o wneud rhywbeth ynglŷn â hynny, ac yn gwerthu ei gar Aston Martin gwerthfawr er mwyn ariannu ffilm i godi ymwybyddiaeth.
'Rhaid gwneud rhywbeth'
"Dwi wedi adnabod pobl sy'n ymddangos fel petaen nhw yn llawn ysbryd a hwyl, ond sydd wedi mynd adref y noson honno a lladd eu hunain," meddai Mr Jenkins.
"Mae'n dangos pa mor fawr yw hyn, ac mae'n rhaid gwneud rhywbeth am y peth."
Fe ddaeth Mr Jenkins a'i ffrind, y gwneuthurwr ffilmiau Peter-Watkins Hughes at ei gilydd, a phenderfynu gwneud ffilm am yr effaith ddinistriol y mae hunanladdiad yn ei gael ar y bobl sy'n "cael eu gadael ar ôl".
Mae'r ddau wedi gweithio gyda'i gilydd ar nifer o ffilmiau yn y gorffennol, gan gynnwys 'A Bit of Tom Jones' yn 2009 a enillodd wobr BAFTA, a 'Cow' - ffilm fer am yrru a thecstio a ddaeth i amlygrwydd rhyngwladol.
![Andrew Jenkins a Peter Watkins-Hughes yn dal gwobr Bafta Cymru](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/2560/cpsprodpb/b999/live/524b7d90-e578-11ef-a497-e7c752cdc9f3.jpg)
Fe wnaeth Andrew Jenkins a Peter Watkins-Hughes ennill gwobr BAFTA Cymru am y ffilm 'A Bit of Tom Jones'
Ond yn ôl Mr Watkins-Hughes, hunanladdiad ydy'r pwnc mwyaf heriol iddyn nhw fynd i'r afael â fo.
"'Dyn ni wedi cymryd cyngor gan elusennau iechyd meddwl ar y sgript, ac wedi cael cefnogaeth enfawr gan deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid drwy hunanladdiad," meddai.
"'Dyn ni eisiau i'r ffilm fod yn gatalydd i drafodaeth, ac os gall atal rhywun rhag mynd i lawr y llwybr yna, yna dyna'r rheswm amdano."
![Sue Davies a'i diweddar fab Daniel](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/741/cpsprodpb/0310/live/b64a19c0-e562-11ef-bd1b-d536627785f2.jpg)
Ar ôl colli ei mab Daniel i hunanladdiad, mae Sue Davies wedi rhoi adborth ar y sgript ar gyfer y ffilm newydd
Mae'r ffilm sydd ar y gweill, 'Bubbles', yn adrodd straeon pobl sydd wedi profi effeithiau hunanladdiad.
Fe wnaeth Sue Davies o Frynmawr, Blaenau Gwent, a gollodd ei mab Daniel i hunanladdiad ym mis Mai 2024, gysylltu â Mr Jenkins i roi ei chefnogaeth pan glywodd am y ffilm.
"Bob dydd rwy'n deffro yn meddwl am [Daniel], gan ofyn 'pam?' a 'beth petai?', gan eich bod chi'n teimlo eich bod wedi eu gadael nhw i lawr," meddai Ms Davies.
"Dwi ddim yn byw bellach, dim ond goroesi. Dwi'n codi o fy ngwely, ac yna yn aros nes ei bod hi'n amser i fynd yn ôl i fy ngwely."
'Mae yna wastad obaith'
Mae Mr Jenkins yn dweud ei fod yn gwybod pa mor bwerus ydy cael sgwrs er mwyn ceisio atal hunanladdiad.
"Mae gen i ffrind da oedd yn cael cyfnod o anlwc a ddim yn gallu gweld ffordd ymlaen, ond fe wnaethon ni eistedd gyda fe am oriau a'i gael allan o gyfnod tywyll.
"Flwyddyn yn ddiweddarach, fe wnaeth e gyfarfod ei gariad, mae ganddo blentyn, ac mae wedi dweud wrtha i nad yw'n credu pa mor agos y daeth e at golli'r cyfan - felly mae yna wastad obaith."
- Cyhoeddwyd10 Medi 2024
- Cyhoeddwyd14 Medi 2022
Yn ôl Mr Jenkins fe ddaeth arwyddocâd y ffilm yn amlycach iddo'n ddiweddar yn dilyn noson codi arian - noson gerddoriaeth mewn tafarn leol.
"Roedd un o'r dynion oedd yno - dim ond yn ei 50au, i weld yn cael amser da, ac fe wnaeth o roi arian tuag at yr achos," meddai.
"Fe wnes i ddarganfod yn ddiweddarach y noson honno ei fod wedi mynd adref a lladd ei hun.
"Ro'n i'n teimlo'n euog am gyfnod, gan gwestiynu a oedden ni'n gwneud y peth iawn, ond ni wedi cael llif o negeseuon cefnogol ers hynny."
Yn ôl Mr Watkins-Hughes, er mai dyma'r ffilm anoddaf iddo hyd yma, mae'n un yr oedd yn teimlo roedd "rhaid ei gwneud".
"Ni eisiau sicrhau ein bod ni'n gwneud cyfiawnder â'r pwnc a bod yna effaith bositif o hyn," meddai.
"Ni ddim yn cynnig gwellhad nac atebion, ond mae'n ddechrau ar un o'r pwyntiau yn y sgwrs, fel y gall cymdeithas gobeithio gyfathrebu'n well â phobl sy'n wynebu'r sefyllfa ofnadwy yna."
Os ydych chi wedi cael eich effeithio gan unrhyw faterion yn y stori yma, mae gan BBC Action Line gysylltiadau i sefydliadau all gynnig cymorth a chyngor.