Galw am dynhau rheolau 'anghynaladwy' ar ryddhau adar hela

Ffesant ar ben walFfynhonnell y llun, Finnbarr Webster/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cynnig cyflwyno system drwyddedu ar gyfer ryddhau adar hela

  • Cyhoeddwyd

Mae angen rheolau llymach ar ryddhau ffesantod a phetris croesgoch i gefn gwlad Cymru ar frys yn sgil pryderon am fywyd gwyllt prin a lledaeniad ffliw adar, medd ymgyrchwyr.

Ar ddechrau'r tymor saethu blynyddol, mae RSPB Cymru'n rhybuddio y gallai miliynau o'r adar hela gael eu rhyddhau, a bod hynny'n "anghynaladwy".

Mae penderfyniad ar gyflwyno system drwyddedu ddadleuol ar gyfer ryddhau adar hela wedi'i oedi unwaith yn barod yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus dair blynedd yn ôl.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod yn ystyried y syniad yn ofalus, tra bod y diwydiant saethu'n rhybuddio y byddai rheolaeth lymach yn peryglu swyddi.

Mae 'na le i gredu bod rhwng 0.8 a 2.3 miliwn o adar hela yn cael eu rhyddhau i gefn gwlad Cymru bob blwyddyn.

Fe ofynnodd Llywodraeth Cymru am gyngor ynglŷn ag a ddylai fod mwy o oruchwyliaeth o'r sefyllfa 'nôl yn 2022.

Flwyddyn yn ddiweddarach, fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) argymell cyflwyno "fframwaith trwyddedu cymesur sy'n seiliedig ar risg", fyddai i bob pwrpas yn gwahardd pobl rhag rhyddhau'r adar heb ganiatâd.

'Colli sawl cyfle'

"Mae 'na dros ddwy flynedd 'di mynd heibio ers i'r argymhelliad gael ei wneud, ac mae'r llywodraeth 'di colli sawl cyfle i gyflwyno system rheoleiddio," eglura Deio Gruffydd o RSPB Cymru.

"Pan ma' 'na niferoedd mawr o adar hela fel ffesantod yn cael eu rhyddhau mae o'n achosi risg fawr iawn i fywyd gwyllt achos, mewn gwirionedd, dim ond canran eitha' isel sy'n cael eu hela ac mae'r mwyafrif yn dianc i'r amgylchedd yn ehangach."

Mae'r goblygiadau'n cynnwys mwy o gystadleuaeth i fywyd gwyllt cynhenid o ran bwyd, cynnydd mewn ysglyfaethwyr sydd hefyd yn targedu adar prin ac effeithiau o ran iechyd y pridd.

Deio Gruffydd o RSPB Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Deio Gruffydd o RSPB Cymru, mae niferoedd yr adar hela sy'n cael eu rhyddhau yn "anghynaladwy"

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae lledaeniad ffliw adar wedi atgyfnerthu galwadau am reoleiddio llymach.

Mae dogfennau ddaeth i law drwy gais rhyddid gwybodaeth, a'u rhannu a BBC Cymru, yn datgelu digwyddiad ger Llangollen ym mis Medi 2025 lle daethpwyd o hyd i 875 o ffesantod yn farw.

Cafodd sampl o 22 eu profi a chanfod eu bod wedi'u heintio â ffliw adar.

Fe ddigwyddodd yn agos i safleoedd bridio pwysig ar gyfer adar sydd dan fygythiad fel y gylfinir a'r grugiar ddu.

Wythnosau yn ddiweddarach, cafodd achosion o'r clefyd ei gadarnhau unwaith eto mewn busnes adar hela ger Wrecsam, oedd yn magu dros 20,000 o ffesantod a phetris.

Roedd Mr Gruffydd yn cydnabod bod arferion rheoli tir sy'n gysylltiedig â'r diwydiant saethu yn gallu bod o fudd i'r amgylchedd mewn rhai achosion.

"Dydan ni ddim yn erbyn hela wrth reswm, ond 'da ni just isho gweld o'n digwydd mewn ffordd sydd ddim yn achosi risg i fywyd gwyllt sydd mewn perygl o ddiflannu o Gymru," meddai.

"Mae unrhyw ohiriad pellach o ran cyflwyno system reoleiddio yn cynyddu'r risg hynny."

Ychwanegodd fod perygl y bydd gweinidogion yn methu â chadw at eu bwriad o gyflwyno'r system drwyddedu newydd erbyn dechrau'r tymor saethu eleni, a'u hymrwymiad i roi digon o amser i fusnesau saethu baratoi.

A man wearing a brown jacket and flat cap aims a gun into the air where there are pheasants flying.  Ffynhonnell y llun, Chris J Ratcliffe/Getty
Disgrifiad o’r llun,

Mae Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC) yn dweud bod saethu'n cyfrannu £75m yn flynyddol i economi Cymru, gan gynnal 2,400 o swyddi

Dan y system y mae CNC ei hargymell, byddai'n rhaid i drefnwyr cyrchoedd hela geisio am drwydded a thalu amdano os oedden nhw am ryddhau adar oddi mewn neu'n agos i safleoedd sy'n sensitif yn amgylcheddol.

Byddai'n rhaid i CNC fod yn fodlon na fyddai yna ddifrod yn cael ei achosi i rywogaethau prin cyn caniatáu trwydded.

Mewn ardaloedd eraill byddai modd ryddhau adar dan drwydded gyffredinol, a fyddai'n penodi uchafswm yr adar y mae modd eu cyflwyno i ardal benodol.

Will Jones o Cwm Fedw Country Sports
Disgrifiad o’r llun,

Mae Will Jones a'i wraig Helen yn magu ffesantod ac yn arwain cyrchoedd saethu

Mae Will a Helen Jones yn magu ffesantod ac yn arwain cyrchoedd saethu ar eu fferm ger Hirnant, Powys.

Eu pryder nhw yw bod y cynlluniau'n ddechrau ar fwy o gyfyngu ar saethu yng Nghymru.

"Os 'neith rhywbeth ddigwydd i saethu mae'r ardal yma i gyd yn mynd i gael ei effeithio - mae werth miloedd ar filoedd i'r economi yn lleol a 'da ni'n dechre blino bod saethu yn dod yn y spotlight eto," meddai Mr Jones.

'Angerddol' am faterion cadwraeth

Mae'r cwpwl yn dweud eu bod yn clustnodi traean o'u helw i waith cadwraeth natur ar eu tir.

"Da' ni'n passionate am gadwraeth - ac mae'r bywyd gwyllt sydd wedi dod yn ôl ers i ni ddechrau'r busnes saethu yn anhygoel," ychwanegodd Mr Jones.

"Mae 'na ddraenogod ac adar gwyllt ym mhob man, a ry'n ni wedi mynd o ddim sgwarnogod o gwbl i dros 70 ar ein tir ni."

"Ma' hwn i gyd yma achos y saethu - byswn i'n dadlau mai ni fel sector yw'r conservation group mwyaf yn y wlad. A dyma sy' isie iddyn nhw weld yng Nghaerdydd," meddai.

Roedd y fferm wedi cyflwyno mesurau bioddiogelwch llym er mwyn lleihau'r risg o gael eu taro gan ffliw adar, meddai Mrs Jones.

"Does 'na neb eisiau hynny yn agos iddyn nhw achos fe allai olygu diwedd eich busnes chi," meddai.

Byddai cyfyngu ar saethu yn cael effaith fawr ar rannau o gefn gwlad Cymru, rhybuddiodd.

"Heb y gymuned saethu, bydde'r Gaeaf yn anodd iawn yn fan hyn - mae'r economi'n elwa ohono fe mewn cymaint o wahanol ffyrdd."

Helen Jones o Cwm Fedw Country Sports
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Helen Jones, mae'r busnes yn cyfrannu traean o'u helw i waith cadwraeth

"Mae arna i ofn ei bod hi'n biti bod yr RSPB yn codi hyn eto," meddai James Evans Aelod Ceidwadol o'r Senedd, sy'n cadeirio grŵp trawsbleidiol ar saethu a chadwraeth.

Roedd yna "ymateb anferth" o'r diwydiant i'r ymgynghoriad cyhoeddus yn gwrthwynebu'r cynigion, esboniodd AS Brycheiniog a Maesyfed.

"Fe ddylen ni fod yn diogelu ein ffordd o fyw yng nghefn gwlad nid dod a rheolau newydd fyddai'n ei ddifrodi ac arwain at golli swyddi," meddai.

"Mae'r llywodraeth yn wynebu nifer o heriau ar hyn o bryd gan gynnwys amseroedd aros hirach yn yr NHS, problemau gydag addysg a'r economi - dwi ddim yn credu bod hyn yn flaenoriaeth."

Grugiar dduFfynhonnell y llun, Arterra/Universal Images Group
Disgrifiad o’r llun,

Y grugiar ddu yw un o'r rhywogaethau cynhenid prin sydd dan fygythiad pan fod niferoedd enfawr o adar hela'n cael eu ryddhau, meddai'r RSPB

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae'n bwysig i ystyried yn ofalus sut ydyn ni'n datblygu system drwyddedu gadarn sy'n iawn i Gymru.

"Ry'n ni'n adolygu'r wybodaeth ar hyn o bryd yn dilyn yr ymgynghoriad ar ryddhau adar hela, yn ogystal ag ystyried effaith sefyllfa ffliw adar, sy'n newid drwy'r amser."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.