Balchder Max Boyce am berthynas 'arbennig' Glyn-nedd â chlwb o'r Alban

Mae Max Boyce yn "falch ofnadwy" i weld y traddodiad yn parhau
- Cyhoeddwyd
Mae penwythnos gêm Cymru yn erbyn Yr Alban yn un mawr yng nghalendr blynyddol Clwb Rygbi Glyn-nedd.
Pob blwyddyn mae tîm ieuenctid y dref yn wynebu clwb Hawick Trades o dde'r Alban - traddodiad sy'n deillio nôl i 1956.
Un sydd wedi gweld y berthynas rhwng y ddau glwb yn datblygu yw'r canwr a digrifwr, Max Boyce.
Dywedodd wrth Cymru Fyw bod y cysylltiad "yr un mor gryf heddi ag oedd bron i 70 o flynyddoedd yn ôl".
- Cyhoeddwyd30 Medi 2023
Mae'r berthynas yn un "arbennig" meddai Max Boyce.
"Ma' nhw'n fois sbesial iawn a fi'n dwlu gweld nhw lawr.
"Aeth e tipyn bach yn wan tua 10 mlynedd yn ôl ond mae nawr mor gryf ag oedd e erioed a fi'n falch ofnadwy."
O ble ddaeth y syniad?
Cafodd y syniad ei drafod am y tro gyntaf yn dilyn gêm Cymru yn erbyn Yr Alban yn 1954.
Penderfynodd dau o'u cefnogwyr drefnu gêm rhwng y clybiau cymunedol.
Wrth esbonio tarddiad y gêm, dywedodd Max mai mewn tafarn yng Nghastell-nedd y buodd y cefnogwyr yn trafod, gyda dyn lleol o'r enw Rees Thomas yn gofyn i'r Albanwr o le yr oedd yn dod.
"'O Hawick,'" atebodd, ac yna daeth y syniad i drefnu gêm flynyddol yn erbyn ei gilydd.
"Syniad da, heb feddwl byse'r peth yn parhau dros flynyddoedd maith," yn ôl Max.
Cafodd y gêm gyntaf rhwng y ddau glwb ei chwarae ar Barc Abernant yng Nglyn-nedd ym 1956.
Ers hynny, mae'n cael ei chynnal i gyd-fynd â gêm Cymru yn erbyn Yr Alban yn y Chwe Gwlad.

Cyflwynodd Jonathan ac Amy Griffiths - plant Michael Griffiths - cwpan 'Tubby' i'r tîm buddugol y llynedd
Ers pedair blynedd mae'r cwpan yn enw Michael 'Tubby' Griffiths - dyn o Lyn-nedd fu farw o glefyd motor niwron yn 2021.
Roedd 'Tubby' yn chwarae yn yr ail-reng i Lyn-nedd, ac fe chwaraeodd dros Gastell-nedd ac Aberafan hefyd.
"O'dd rhaid i ni gael cwpan 'Tubby' i gofio amdano," meddai Max.
"Wedodd e o'dd e mo'yn rhoi ei ludw yn Hawick a Glyn-nedd – dyna be' sy'n dangos shwt gysylltiad arbennig sydd rhwng y clybiau.
"O'dd e'n dwlu mynd i Hawick a ma' fe'n od mynd yna hebddo fe nawr."
'Penderfyniad mor hawdd'
Yn ôl Elliott Lynn, aelod o bwyllgor Hawick Trades, roedd Tubby yn "hollbwysig" o ran cadw'r traddodiad i fynd.
"Pan 'naeth ei blant ofyn i ni gael cwpan ar ei ôl e, roedd e'n benderfyniad mor hawdd.
"Am yr holl waith 'naeth Tubby dros y clwb a chadw'r gêm i fynd."

Dywedodd Callum bod y gêm nawr yn gyfle i "godi ymwybyddiaeth" am glefyd MND
Mae dylanwad y cyn-chwaraewr i'w weld ymysg bechgyn iau'r clwb hefyd.
Fe fydd Callum, 17, yn un o'r chwaraewyr fydd yn teithio i Hawick i gynrychioli'r clwb.
Dywedodd bod y gêm nawr yn gyfle i "godi ymwybyddiaeth" am glefyd MND hefyd.
"Mae 'Tubby' yn role model i sawl un yn y clwb – i bawb sydd mo'yn chwarae, ac yn chwarae i Lyn-nedd.
"Ro'dd pawb yn nabod e dros y gymuned i gyd. Roedd e'n gymeriad mawr yn y gymuned."
'Cadw'r traddodiad i fynd'
Mae Gerallt Lewis, aelod o dîm hyfforddi Glyn-nedd yn gobeithio bydd y chwaraewyr iau yn dychwelyd gyda buddugoliaeth.
"Enillon ni blwyddyn diwethaf a blwyddyn cyn 'ny," meddai.
"Bydd e'n neis i weld y bois yn mynd lan a ennill eto ond bydd e'n gêm anodd, ma' Hawick yn glwb da.
"Ma' lot o chwaraewyr proffesiynol yn dod mas o fe, fel Darcy Graham, so gewn ni gêm eithaf caled."

Yn ôl Cai, mae'r traddodiad yn caniatáu i chwaraewyr lleol "gynrychioli eu gwlad ac o le chi'n dod"
Yn ôl Cai - chwaraewr arall fydd yn gwneud y daith i'r Alban - mae'r tîm wedi bod yn llwyddiannus y tymor yma, yn colli un gêm yn unig, ac mae'n gobeithio y bydd y llwyddiant yn parhau wrth wynebu Hawick Trades.
"Ni'n hoffi chwarae beth bynnag sydd o'n blaenau ni rili. Ni ddim yn mynd mewn i'r gêm gyda unrhyw dactegau," dywedodd y chwaraewr ail-rheng.
Dywedodd hefyd bod y gêm yn caniatáu chwaraewyr lleol i "gynrychioli eich gwlad ac o le chi'n dod".
"Mae pawb o'r tîm yn mynd â llawer o gefnogwyr hefyd - mae'n dda i gadw'r traddodiad i fynd rhwng y ddau glwb."