'Her' denu athrawon Cymraeg wrth i ffigyrau ddangos cwymp yn y niferoedd

YsgolFfynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na lai o athrawon Cymraeg eleni o'i gymharu â llynedd - sy'n mynd yn groes i strategaeth y llywodraeth

  • Cyhoeddwyd

Mae'n parhau’n her i ddenu nifer digonol o athrawon i addysgu’r Gymraeg neu drwy gyfrwng y Gymraeg, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Mae nifer yr athrawon cynradd sy’n gallu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi gostwng o 2,874 yn 2022/23 i 2,792 yn 2023/24.

Ac mae nifer yr athrawon uwchradd sy’n gallu gwneud hynny wedi gostwng o 2,555 i 2,549 dros yr un cyfnod.

Mae cynyddu'r niferoedd yma yn un o’r "newidiadau trawsnewidiol" yn strategaeth y llywodraeth o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

'Gallu rhoi lot o fwynhad'

Wrth siarad â BBC Cymru Fyw, roedd Osian Jones, pennaeth Ysgol Plas Coch yn Wrecsam, yn cydnabod fod ceisio denu athrawon yn her.

"'Da ni'n edrych am athrawon sydd â safon dda o Gymraeg ac mae hynny'n gallu bod yn her ar adegau," meddai.

"'Da ni fan hyn y gogledd-ddwyrain, 'da ni'n lwcus iawn o'n staff ond mae'n gallu bod yn her cael pobl sy'n gallu siarad Cymraeg yn dda mewn rhai ardaloedd."

Wrth siarad am ysgolion yn gyffredinol, dywedodd fod sawl rheswm posib pam nad yw pobl yn mentro i'r byd addysg gan gynnwys fod "ymddygiad disgyblion yn parhau i fod yn heriol, hyd yn oed mewn ysgolion cynradd".

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Osian Jones, pennaeth Ysgol Plas Coch, fod gweld gostyngiad yn nifer yr athrawon yn bryder

Aeth ymlaen i ddweud fod y "sefyllfa gyllidol anodd iawn sydd ar ysgolion" yn rheswm arall, gyda llai o swyddi ar gael i'r rheiny sy'n gobeithio mynd i'r byd addysg.

Dywedodd fod gweld y gostyngiad yn niferoedd yr athrawon newydd yn "bryder".

Aeth ymlaen i sôn am y nod o ddenu mwy o blant i addysg Gymraeg ond "heb fod efo ni'r athrawon a chynorthwywyr ar gael i ddarparu'r addysg Gymraeg yna dydi o ddim am fod yn bosib".

Er hyn, dywedodd fod y swydd yn "gallu bod yn swydd arbennig o dda, yn swydd sy'n rhoi lot o fwynhad".

Beth sy'n cael ei wneud am y cwymp?

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod, dros y flwyddyn ddiwethaf, wrthi yn gweithredu nifer o’r camau yng nghynllun y gweithlu Cymraeg mewn addysg, dolen allanol, gan gynnwys:

  • Ariannu 16 lle i athrawon cynradd sydd am newid i fod yn athrawon uwchradd drwy’r Cynllun Pontio;

  • Dyfarnu grantiau i 26 o brosiectau trwy’r grant ar gyfer datblygu capasiti’r gweithlu cyfrwng Cymraeg i ysgolion, gwerth dros £950,000, er mwyn helpu ysgolion i "ddatblygu ffyrdd arloesol o ddatrys rhai o’u heriau recriwtio";

  • Sefydlu Cadw Cyswllt gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy’n hyrwyddo cyfleoedd i fyfyrwyr yn Lloegr ddychwelyd i Gymru i baratoi i addysgu a phrosiect i fentora is-raddedigion i ystyried symud ymlaen i fod yn athrawon;

  • Dyfarnu bwrsari i gadw athrawon Cymraeg a chyfrwng Cymraeg mewn ysgolion uwchradd i 81 o athrawon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod y nodau canlynol erbyn 2031:

  • 3,900 o athrawon cynradd a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg;

  • 4,100 o athrawon uwchradd a all addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.

"Er mwyn gallu gweld twf yn nifer y disgyblion mewn addysg Gymraeg, mae angen sicrhau gweithlu digonol i’w haddysgu ac mae hyn yn gallu bod yn heriol," meddai'r llywodraeth.

Cafodd y ffigyrau diweddaraf eu cyhoeddi yn adroddiad blynyddol 2023–24, dolen allanol y llywodraeth ar Cymraeg 2050.

Ail brif darged Cymraeg 2050 yw cynyddu defnydd dyddiol o’r iaith.

Dywed yr adroddiad bod canran yr oedolion 16 oed neu hŷn sy’n siarad Cymraeg bob dydd ac sy’n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o Gymraeg wedi "aros yn eithaf sefydlog", o gwmpas 10% neu 11% o’r boblogaeth.

Mae hynny felly’n golygu bod hanner siaradwyr Cymraeg yn defnyddio eu Cymraeg bob dydd, medd yr adroddiad.

Y gweithle

Mae'r adroddiad hefyd yn rhoi sylw i'r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.

Gan gyfeirio at arolygon, dywed bod dros hanner y siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn mewn gwaith yn siarad Cymraeg â'u cydweithwyr o leiaf weithiau.

Roedd 13% o siaradwyr Cymraeg 16 oed neu'n hŷn sy’n gweithio ond nad ydynt yn hunangyflogedig o'r farn bod eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg mewn agweddau anffurfiol ond nid mewn agweddau ffurfiol ar y busnes.

Ond roedd 8% yn ystyried nad oedd eu cyflogwr yn gefnogol i'r defnydd o'r Gymraeg mewn unrhyw agwedd ar y busnes.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pryder bod yna brinder athrawon sy'n gallu dysgu pynciau arbenigol trwy'r Gymraeg

Un o'r problemau mwyaf, yn ôl Arwyn Thomas, Pennaeth Ysgol Gyfun Gymraeg Maes y Gwendraeth yng Nghefneithin, Sir Gâr, yw prinder arbenigedd mewn meysydd fel gwyddoniaeth a thechnoleg.

"Mae graddedigion yn cael eu denu i'r sector preifat yn y meysydd yna," dywedodd wrth raglen Dros Frecwast, a gall cylch dieflig godi wrth i lai o ddisgyblion ddilyn y pynciau hyn gan fod llai o athrawon â'r arbenigedd i'w dysgu.

Ffactor arall sy'n atal pobl rhag dod yn athrawon yw newidiadau i batrymau gwaith yn gyffredinol ers y pandemig.

"Dyw'r byd addysg o ran gweithle ddim yn lle hyblyg - does dim gweithio gartre ac yn y blaen," meddai.

Ond mae'n canmol y cynllun pontio sy'n galluogi athrawon cynradd i drosglwyddo i addysg uwchradd.

Mae hwnnw, meddai, "wedi bod yn llwyddiannus iawn a hoffwn i bod hynny'n parhau".

'Chwarae efo'r ymylon'

Mae'r ystadegau diweddaraf yn siom ond ddim yn syndod i Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru, sydd wedi rhybuddio "am flynyddoedd bod 'na argyfwng recriwtio i'r proffesiwn".

"Chwarae efo'r ymylon" yw disgrifiad Ysgrifennydd Cyffredinol yr undeb, Ioan Rhys Jones, o gynlluniau'r llywodraeth hyd yma i wella'r sefyllfa.

Gan ddadlau nad yw'r cynlluniau hynny'n mynd yn ddigon pell i lenwi'r bwlch wrth i gannoedd gefnu ar y proffesiwn, dywedodd wrth Dros Frecwast mai "buddsoddiad sylweddol yn y gyfundrefn addysg" sydd angen fwyaf.

Mae aelodau'r undeb, meddai, yn "dweud yn gyson eu bod nhw dan eu sang efo gwaith", ac yn cael trafferth dygymod gyda dosbarthiadau mwy a phroblemau ymddygiad cynyddol.

"Mae miloedd yn gadael y proffesiwn yn eu pum mlynedd gynta' - dydyn nhw ddim yn gweld bod y balans bywyd / gwaith yn ddigon da i barhau," meddai.

Oni bai bod amodau gwaith yn gwella, ychwanegodd na fydd y proffesiwn yn ddeniadol i raddedigion 'chwaith.