'Pan ti'n athro, dwyt ti byth yn gorffen dy waith'
- Cyhoeddwyd
"Pan ti'n athro, dwyt ti byth, byth yn gorffen dy waith - ti byth yn gorffen dy to-do list."
"Nes i feddwl bod rhaid i fi adael rŵan neu fyswn i yna am byth."
Gydag ymchwil BBC Cymru yn dangos fod mwy o bwysau ar ysgolion i ddiswyddo athrawon, mae Cymru Fyw wedi siarad gyda rhai sydd wedi gadael y proffesiwn o'u gwirfodd eu hunan.
Mae un athro sy'n dal i weithio yn y gogledd wedi dweud wrth Cymru Fyw ei fod wedi gorfod "bodloni fy hun â bod yn athro o safon is i wneud siŵr fod gen i fywyd personol".
'Relentless'
O Bwllheli’n wreiddiol, roedd Huw Williams wedi bod yn dysgu fel athro uwchradd yn Ysgol Gymraeg Bro Morgannwg yn Y Barri ers 2011.
Ym mis Chwefror eleni fe benderfynodd roi’r gorau i’w swydd fel athro a hyfforddi fel ymgynghorydd ariannol, a helpu’n achlysurol yng nghaffi ei deulu ym Mhwllheli.
Mewn cyfweliad gyda Cymru Fyw, dywedodd bod “lot o resymau” pam ei fod wedi rhoi’r gorau i’w swydd fel athro.
Roedd o’n mwynhau gweithio yn yr ysgol ond mae’n dweud bod y swydd yn “relentless”.
“O’n i’n cyrraedd yr ysgol erbyn tua 08:00 ac yn aml ar ddyletswydd bws, wedyn gorfod dysgu pum gwers a hefyd ar ddyletswydd amser egwyl a chinio weithia’," meddai.
"O’n i hefyd yn gwneud gwersi neu glybiau ar ôl ysgol ac yn gyrru’r tîm rygbi ym mws yr ysgol. Ac wedyn fyswn i’n mynd adra a meddwl ‘be sy’n digwydd fory?'
“O’n i’n rhoi fy enw lawr i wneud bob dim – o’n i’n mwynhau mynd ar dripiau ac ar un adeg es i ar dripiau saith wythnos yn olynol bron, ond mi 'naeth wbath newid.
“Nes i sylwi ma’r mwya’ ti’n rhoi fewn, y mwyaf ti’n cael nôl, ond o’dd o’n flinedig.”
Mae Huw hefyd yn dweud ei fod yn treulio oriau yn anfon ebyst, a bod y pwysau’n ormod.
“O’n i’n gwybod os na fyswn i’n stopio bod ‘na burnout ar y ffordd. O’n i newydd droi’n 40 a nes i feddwl bod rhaid i fi adael rŵan neu fyswn i yna am byth," meddai.
“Mae’r cyflog yn deg ond ma’ lot o athrawon isio mwy o amser, nid mwy o arian."
Mae Huw yn dweud bod ymddygiad disgyblion wedi gwaethygu, yn enwedig ers y pandemig, ac mai dyna un o’r heriau mwyaf.
“Mae gan rai plant anghenion yn y dosbarth a rhai’n cambihafio. Mae athrawon isio gofalu amdanyn nhw a gwneud yn siŵr nad ydy plant eraill yn cael eu gadael ar ôl.”
Fel tad i fabi chwe mis oed, mae’n dweud ei fod yn cael treulio mwy o amser gyda’i deulu bellach, a bod hyblygrwydd yn helpu.
“O’n i angen work-life balance gwell. Mae gen i fabi chwe mis oed a dwi’n gweld gwahaniaeth yn barod – gallu mynd i nofio efo fo ganol dydd a mynd i’r gogledd pan dwi isio.
"Fyswn i ddim yn gallu 'neud y petha’ ‘ma fel arall.
“Mae bod yn self-employed yn refreshing. Mae ‘na heriau newydd yn amlwg, ond alla i wneud petha' yn fy amser fy hun a does dim gymaint o ddisgwyliadau.”
Fe wnaeth Elin Wyn Jones, o Sir Fôn yn wreiddiol ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, roi'r gorau i ddysgu 10 mlynedd yn ôl er mwyn agor ei busnes ei hun, cyn iddi droi'n ymgynghorydd ariannol yn fwy diweddar.
Dywedodd Elin, 39, fod y "pwysau'n cynyddu o hyd" yn ystod ei hamser fel pennaeth adran yn Ysgol Aberconwy ac Ysgol Dyffryn Nantlle, a'i bod yn ofni fod y pwysau ar athrawon wedi "cynyddu eto" ers iddi adael y byd addysg.
"Oedd y canlyniadau wastad yn gorfod bod yn well, oedd rhaid dangos cynnydd bob blwyddyn i'r pwynt lle oedd o'n amhosib," meddai Elin.
"Pan ti'n athro, dwyt ti byth, byth yn gorffen dy waith - ti byth yn gorffen dy to-do list.
"Ti ddim yn gorffen am dri, mae 'na lot o waith paratoi, marcio a dwi'm yn siŵr fod y pethau yna'n cael eu hystyried digon wrth gynllunio amserlenni athrawon.
"Gei di ambell i wers rydd ond 'di o'm yn agos i fod yn ddigon. Yn amlwg mae'r gwaith yn cario 'mlaen tu allan i amser ysgol wedyn."
Dywedodd Elin fod athrawon "ar lwyfan o flaen plant" am y mwyafrif o'r diwrnod, sy'n ddigon blinedig, heb orfod ystyried yr holl waith marcio a pharatoi gwersi sy'n digwydd y naill ochr i hynny.
Mae gadael y byd addysg, fel wnaeth Elin er mwyn dechrau CannaDeli ym Mhontcanna 10 mlynedd yn ôl, yn "gam enfawr" oherwydd bod dysgu y "math o swydd sy'n cymryd drosodd dy fywyd - mae dy fywyd yn cylchdroi o gwmpas y swydd".
"Oedd fy mhenwythnosau wedi gorffen yn gynnar achos o'n i'n meddwl am bore dydd Llun, ond pan nes i weithio i fi fy hun doeddwn i'm yn cael y Sunday night blues."
'Goroesi ar adrenalin'
Dywedodd athro arall sy'n gweithio mewn ysgol uwchradd yng ngogledd Cymru ei fod wedi gorfod "bodloni fy hun â bod yn athro o safon is i wneud siŵr fod gen i fywyd personol".
Dywedodd yr athro, a ofynnodd i aros yn ddienw oherwydd ei swydd: "Wnes i ddweud i fi fy hun ychydig o flynyddoedd yn ôl 'os ti'n cario ymlaen i weithio fel ti'n gweithio, ti ddim yn mynd i bara', a oedd rhaid i fi benderfynu os o'n i isio bod yn athro da neu gael bywyd personol fy hun.
"Os ti isio bod yn athro ffantastig ti'n gorfod rhoi dy fywyd i'r swydd.
"Dwi'n fodlon ddim bod yr athro 'swn i'n licio bod i gael bywyd fy hun tu allan i'r gwaith, sy'n siomedig, ond dyna'r realiti."
"Intensity" y gwaith yw'r prif reswm pam fod cymaint yn gadael, meddai, gyda llawer o athrawon yn "hongian 'mlaen" ac yn "goroesi ar adrenalin".
- Cyhoeddwyd24 Mai 2024
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2024
- Cyhoeddwyd6 Chwefror 2024
Mae pethau'n mynd yn waeth yn ystod asesiadau ysgolion Estyn, meddai'r athro.
"Pan mae'r ysgol yn cael ei asesu ti'n teimlo fel ti ar war-footing a ti'n goro cael Blitz mentality efo'r athrawon eraill mewn ffordd i gael drwy'r cyfnod."
Ychwanegodd fod disgyblaeth plant wedi mynd yn waeth ers y pandemig a bod toriadau'n cael "sgil-effaith ddiddiwedd ar athrawon a disgyblion".
"Mae 'na broblemau mawr yn y byd addysg a does dim syndod fod gymaint o athrawon yn gadael y maes efo bob dim maen nhw'n goro delio efo.
"'Di pethau just ddim yn mynd yn well ar y funud."
'Gwrando ar bryderon'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae lles ein gweithlu addysg yn flaenoriaeth i ni ac rydym yn gwrando ar eu pryderon.
"Rydym yn parhau i fynd i'r afael â llwyth gwaith staff a lleihau biwrocratiaeth ac, wrth weithio gyda phartneriaid, mae cynnydd sylweddol yn cael ei wneud.
"Rydym wedi darparu £650,000 yn ychwanegol y flwyddyn ariannol hon i linell gymorth yr elusen Cymorth Addysg i barhau â'u gwaith yn cefnogi iechyd meddwl a lles staff addysg ledled Cymru, sy'n rhan o'n dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl a lles."