'Dagrau hapus' wrth i Bronwen Lewis berfformio am ddim mewn cartrefi gofal
- Cyhoeddwyd
Mae'n gyfnod o ewyllys da a rhoi anrhegion ac felly mae'r cerddor Bronwen Lewis wedi bod yn teithio Cymru yn rhoi cyngherddau Nadolig am ddim mewn cartrefi gofal.
A gan bod y gynulleidfa wedi eu mwynhau cymaint a'r artist wedi cael ei hatgoffa o'r rheswm wnaeth hi ddechrau canu yn y lle cyntaf, mae hi wedi penderfynu gwneud hyn yn flynyddol.
Fe ddechreuodd y cyfan pan roddodd Bronwen y cyfle i un cartref gofal ennill cystadleuaeth i gael perfformiad am ddim ganddi, ond fe dyfodd y syniad yn sgil cymaint o ddiddordeb ar draws Cymru.
Cerddoriaeth yn rhoi cysur
"Ges i'r syniad i neud y daith o gwmpas cartrefi henoed achos es i i gartref henoed yn Ystradgynlais cwpwl o flynyddoedd yn ôl - y Grove," meddai Bronwen wrth Cymru Fyw.
"Ges i gymaint o deimlad o'r lle yma, y staff a'r bobl sy'n byw yna ac o'n nhw'n joio cerddoriaeth, yn enwedig yn ystod y Nadolig, ac mae'n dod â chysur i gymaint ohonyn nhw, so 'nes i gystadleuaeth ar-lein."
Gan fod cyfnod y 'Dolig mor brysur ei bwriad gwreiddiol oedd gwneud un cyngerdd.
Ond ar ôl i gymaint o gartrefi gael eu henwebu fe benderfynodd wneud pump ar draws Cymru - yn Nolgellau, Abertawe, Caerfyrddin, Llanymddyfri a Chwm Rhondda.
Meddai Bronwen: "Mae'r bobl sydd yn byw yn y cartrefi henoed yma, maen nhw jest yn joio cerddoriaeth cymaint yn enwedig pobl sydd yn diodde' o ddementia.
"Mae rhywbeth amdano'r ymennydd lle dydyn nhw ddim yn anghofio geiriau fel Calon Lân neu'r hen emynau roedden nhw'n canu pan oedden nhw'n blant ac mae'n dod ag atgofion rili melys yn ôl.
"A beth oedd yn hyfryd hefyd oedd bod rhai o'r cartrefi yn gwahodd teuluoedd nhw i mewn ac roedd e fel diwrnod lle mae pawb yn gallu anghofio am y problemau sy'n mynd ymlaen yn eu bywydau nhw, yn enwedig y staff sydd yn gweithio mor, mor galed a jest joio a morio yn y gerddoriaeth Nadoligaidd.
"Nes i adael pob un cartref jest mewn dagrau, ond dagrau hapus."
Hwb i gartref sydd o dan fygythiad
Fe wnaeth y gantores o Gastell-nedd, gafodd lwyddiant mawr ar TikTok yn y cyfnod clo gyda'i fersiynau Cymraeg o ganeuon poblogaidd, ymweld gydag un cartref gofal sydd o dan fygythiad o gael ei gau gan y cyngor sir.
Meddai clerc cartref Ferndale House, yng Nghwm Rhondda, Kayleigh Ford-Griffin: "Roedd yn syrpreis lyfli ac yn braf gwybod bod cymaint wedi rhoi ein henw ymlaen i'r gystadleuaeth a neis gwybod bod y cyhoedd wedi pleidleisio droson ni.
"Roedd yn braf i beidio gorfod meddwl am yr ymgyrch [i achub y cartref] am 'chydig a mwynhau'r cyngerdd. Mae ganddi lais hyfryd ac roedd pawb wedi mwynhau ac roedd yn dod ag atgofion melys i lot o'r bobl yma."
Fe benderfynodd cartref gofal Cefn Rodyn, yn Nolgellau, agor eu drysau i deuluoedd a chyfeillion y preswylwyr, a phobl eraill yn y gymuned i gael dod i wrando ar gyngerdd Bronwen.
"Wnaethon ni roi gwahoddiad i'r district nurse, gweithwyr cymdeithasol a doctoriaid hefyd achos maen nhw i gyd yn helpu ni," meddai'r rheolwr Tracey Gardner.
"Roedd hi'n ardderchog, a'i llais hi, ac roedd yn emosiynol iawn. Roedd hi'n dweud straeon am y caneuon neu yn sôn am ei mam neu nain ac roedd hi'n annwyl iawn.
"Roedd yn neis gweld rhywun (gyda dementia) sydd ella ddim yn eich adnabod chi fel arfer, yn canu ac yn adnabod y caneuon."
Dechrau traddodiad blynyddol
Ac i Bronwen, sydd ar daith y flwyddyn nesaf, mae'n rhywbeth mae hi'n gobeithio ei wneud bob Nadolig.
Meddai: "Galli di 'neud gig ar ôl gig, taith ar ôl taith, ond mae'r cyngherddau dwi 'di 'neud yn y cartrefi henoed wir yn dangos i fi pam nes i ddewis 'neud cerddoriaeth y tro cyntaf.
"Mae cerddoriaeth yn dod â hapusrwydd i bobl ac yn dod ag atgofion melys iawn yn ôl o fywyd llawn, felly bydda i'n cario ymlaen i 'neud e bob blwyddyn, a fi rili yn teimlo'n Nadoligaidd ar ôl 'neud e hefyd."
Bydd Bronwen Lewis yn westai ar raglen Caryl ar BBC Radio Cymru ar noson Nadolig yn trafod y caneuon sydd yn golygu rhywbeth iddi ac yn perfformio sesiwn.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd24 Medi 2024
- Cyhoeddwyd27 Hydref 2024
- Adran y stori