Ffioedd prifysgol i godi i £9,535 y flwyddyn yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Bydd ffioedd prifysgol yng Nghymru yn cynyddu i £9,535 y flwyddyn o'r flwyddyn nesaf ymlaen, mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau.
Daw wedi cadarnhad gan Lywodraeth y DU y byddai ffioedd yn Lloegr yn cynyddu hefyd, gydag ysgrifennydd addysg Lloegr yn rhybuddio fod y sector yn wynebu "argyfwng ariannol".
Dywedodd y Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch yng Nghymru, Vikki Howells bod y penderfyniad i godi’r ffioedd yn un “anodd ond yn angenrheidiol”.
Cadarnhaodd hefyd y byddai cynnydd o 1.6% i gymorth cynhaliaeth myfyrwyr ar gyfer myfyrwyr israddedig rhan-amser a llawn amser cymwys o Gymru.
- Cyhoeddwyd17 Hydref
- Cyhoeddwyd27 Medi
Yn gynharach eleni fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cap ar ffioedd dysgu mewn prifysgolion Cymreig yn cynyddu i £9,250 y flwyddyn o fis Medi.
Roedd ffioedd yng Nghymru wedi eu cadw ar £9,000 ers 2012.
Mewn datganiad, dywedodd Ms Howells bod y penderfyniad i gynyddu ffioedd er mwyn “sicrhau bod sefydliadau addysg uwch Cymru yn parhau i gystadlu â rhannau eraill o’r DU”.
Dywedodd hefyd bod “Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi pobl i fuddsoddi yn eu dyfodol a sicrhau bod addysg uwch ar gael i bawb, beth bynnag eu cefndir".
"Ni ddylai costau byw fod yn rhwystr i astudio yn y brifysgol, ac mae'n destun balchder i mi bod Cymru bob amser wedi cynnig y gefnogaeth ariannol fwyaf hael yn y DU i'n myfyrwyr.
"Rwyf am fod yn glir na ddylai'r cynnydd bach hwn mewn ffioedd ddarbwyllo unrhyw un o Gymru" meddai, gan ychwanegu "ni fydd y cynnydd mewn ffioedd yn golygu cynnydd yn y costau prifysgol y mae'n rhaid i fyfyrwyr eu talu ymlaen llaw".
Mae Ella, 17 o Abertawe, yn ddisgybl yng Ngholeg Gŵyr ac yn gobeithio mynd i'r brifysgol yn y blynyddoedd nesaf.
"Yn ffodus iawn yn ein coleg ni ry' ni'n cael gymaint o bethau ar blât, ond mae meddwl am y costau yma'n cynyddu yn achos pryder," meddai.
"Dwi ddim yn siŵr sut y byddwn i'n ffeindio'r balans gyda'r costau newydd, a dwi ddim yn siŵr a fyddwn i'n gorfod dod o hyd i swydd rhan amser i helpu gyda hynny."
Ychwanegodd fod y cynnydd mewn costau am fod yn rhywbeth arall i'w ystyried wrth wneud cais i fynd i'r brifysgol, ond ei bod yn benderfynol o dderbyn cymaint o addysg â phosib cyn mynd i weithio.
Dywedodd Sofia, 16 o Abertawe, y byddai'r cyhoeddiad yn sicr yn cael effaith ar awydd a gallu pobl i fynd i'r brifysgol.
"Mae rhieni yn ei chael hi'n anodd yn ariannol yn barod gyda biliau uwch ac ati, a byddai'r un rhiant eisiau peidio rhoi'r arian i'w plentyn wireddu eu breuddwyd.
"Neu hyd yn oed os yw person ifanc am dalu eu hunain, fydd rhaid iddyn nhw wneud sawl swydd i allu fforddio hynny. Byddai hynny'n anodd iawn.
"Mae meddwl am arian yn chwalu breuddwyd rhywun yn ofnadwy."
'Adeg dyngedfennol'
Mae mwyafrif prifysgolion Cymru wedi amlinellu cynlluniau i ddiswyddo staff o ganlyniad i bwysau ariannol.
Mae gan Brifysgol Caerdydd ddiffyg ariannol o £30m eleni, tra bod Prifysgol Bangor hefyd yn wynebu diffyg ariannol o £9m ar ôl derbyn llai o fyfyrwyr na'r arfer.
Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgolion Cymru bod y cyhoeddiad wedi dod "ar adeg dyngedfennol" i'r sefydliadau yng Nghymru.
Ychwanegodd: "Bydd y buddsoddiad ychwanegol yn ystod y flwyddyn o £10m mewn addysg uwch, ochr yn ochr â’r cynnydd mewn ffioedd yng Nghymru a mannau eraill yn y DU, yn darparu buddsoddiad mawr i'n prifysgolion."
Dywedon nhw y byddai'r sector yn gweithio gyda'r llywodraeth a Medr "i fynegi maint yr heriau sy'n wynebu ein prifysgolion ynghyd â nodi atebion hirdymor i sicrhau cynaliadwyedd ein prifysgolion".
Dywedodd UCU Cymru - yr undeb sy'n cynrychioli staff addysg uwch - eu bod yn croesawu'r cyhoeddiad oherwydd yr heriau sy'n wynebu sefydliadau ar hyn o bryd.
"Mae prifysgolion yng Nghymru yn dioddef oherwydd llwyth gwaith cynyddol yn sgil torri swyddi, yn ogystal â chamau i rewi cyflogau a'r risg gwirioneddol o ddiswyddiadau gorfodol," meddai'r undeb.
"Yn debyg iawn, mae colegau hefyd yn teimlo fod rhaid iddyn nhw dorri nôl ar staff cynorthwyol ac o ganlyniad mae'n rhaid i ddarlithwyr gario'r baich ychwanegol. Y staff a'r dysgwyr sy'n dioddef oherwydd hyn.
"Mae'n aelodau yn gweithio yn ddiflino, ac wrth edrych ymlaen at gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, ry'n ni'n gobeithio fod y cyhoeddiad yma'n ddechrau ar gyfnod estynedig o fuddsoddi a thwf yn y sector."