'Model ariannu Prifysgolion Cymru ddim yn gynaliadwy'
- Cyhoeddwyd
Dydi model ariannu Prifysgolion Cymru ddim yn gynaliadwy, yn ôl Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.
Mewn llythyr at staff ddydd Mercher fe gyhoeddodd y brifysgol eu bod yn wynebu diffyg ariannol o £9m eleni, gan ehangu’r cynllun diswyddo gwirfoddol.
Roedd y brifysgol wedi cyhoeddi ym mis Mehefin y byddai 60 i 80 o swyddi yn diflannu.
Yn y cyfamser, mae Is-Ganghellor Prifysgol Caerdydd wedi dweud nad yw'n glir eto sut y bydd y diffyg ariannol o £30m yn effeithio ar swyddi yn y brifysgol, wrth iddyn nhw geisio arbed arian.
Ac mae Aelod Seneddol yn dweud bod yna "gryn dipyn o bryder" hefyd yngylch sefyllfa prifysgolion yn y canolbarth.
Yn ôl un arbenigwr mae 'na "beryg i brifysgolion gau heb ymyrraeth ar unwaith gan Lywodraeth Cymru".
Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth eu bod nhw'n "monitro'r sefyllfa ac wedi cynyddu'r terfyn ffioedd".
- Cyhoeddwyd12 Mehefin
- Cyhoeddwyd16 Awst
- Cyhoeddwyd12 Medi
Yn y llythyr, sydd wedi dod i law rhaglen Newyddion S4C, mae Is-Ganghellor Prifysgol Bangor, yr Athro Edmund Burke, yn dweud bod y sefydliad yn wynebu “heriau ariannol sylweddol” a bod y sector cyfan yn wynebu “pwysau ariannol digynsail".
Yn ei lythyr mae’n nodi tri phrif reswm i’r brifysgol ddioddef gymaint:
Bod ffioedd israddedigion cartref yng Nghymru wedi bod yn sefydlog ar £9,000 ers 2012/13;
Bod newidiadau i bolisi mewnfudo Llywodraeth y DU wedi arwain at ostyngiad o 16% mewn ceisiadau am fisa myfyrwyr rhyngwladol o gymharu â’r llynedd;
Bod chwyddiant wedi bodi bron i 40% ers 2012.
"'Dan ni wedi cyrraedd pwynt lle mae'n incwm ni wedi gostwng yn sylweddol ond mae costau ni wrth gwrs dal i godi," meddai'r Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Bangor.
"Costau trydan, cynhesu'r adeiladau mae bob dim yn codi, ond yn anffodus mae gennym ni dwll yn y cyllid."
Fe ddisgrifiodd yr Athro Edwards y sefyllfa fel un "galed iawn", gan ddweud bod angen "agor trafodaeth" am sut allai prifysgolion yng Nghymru a thu hwnt "weithio yn wahanol ac yn well".
'Angen edrych ar y model ariannu'
Pan ofynnwyd iddo a oedd y system a'r model ariannu yn gynaliadwy, dywedodd "Na. Dwi ddim yn meddwl bod o".
"Dydi ffioedd heb godi ers 2012," meddai.
"Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £250 ar ben ffioedd blwyddyn nesa'."
Ond dywedodd nad yw’n credu bod hynny'n mynd yn ddigon pell.
"Profiad myfyrwyr sydd wrth wraidd bob dim, ond yn bendant mae angen edrych ar y model ariannu," meddai'r Athro Edwards.
"Mae angen edrych i'r dyfodol yn y bôn, meddwl yn greadigol a meddwl beth mae myfyrwyr mewn degawd neu fwy yn disgwyl allan o' ni."
'Pryder a straen ar staff Prifysgol Caerdydd'
Yn y cyfamser, daeth ceisiadau am ddiswyddiadau gwirfoddol ym Mhrifysgol Caerdydd i ben fis diwethaf.
Mae'r Athro Wendy Larner wedi dweud nad oes ganddi nifer penodol o faint o swyddi fydd yn cau ac mae'n cydnabod bod diswyddiadau gorfodol yn bosib.
Dywedodd undeb bod hynny'n achosi "pryder" a "straen" ar staff.
Dywedodd Yr Athro Larner bod y cynllun diswyddiadau gwirfoddol "yn arbed tua £9m i ni".
"Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn siarad am ddiswyddiadau gorfodol ond o gofio sut mae pethau'n newid yn gyflym yn y sector... wrth gwrs, allai ddim diystyru hynny."
Dywedodd cangen Prifysgol Caerdydd o Undeb y Prifysgolion a Cholegau bod staff yn wynebu "pryder, straen a dyfodol ansicr" gan alw ar arweinwyr y brifysgol i geisio sicrhau cyllid gwell i addysg uwch.
"Rydyn ni wedi ein brawychu nad yw'r Is-Ganghellor wedi tawelu meddyliau staff am ddiswyddiadau gorfodol," dywedodd llywydd y gangen.
Ond dywedodd yr Athro Larner y byddan nhw'n gwneud newidiadau fydd yn cynnwys datblygu ffynonellau newydd o incwm ac edrych ar ffyrdd gwahanol o ddarparu cyrsiau.
Yn ôl yr economegydd ac academydd blaenllaw yr Athro Dylan Jones-Evans mae problemau arian "ar draws y sector addysg uwch".
"Os oes disgwyl y bydd pethau ddim yn newid, mi fydd 'na sefyllfa lle fydd prifysgolion... bosib ddim yn gallu talu cyflogau.
"Dwi ddim yn gweld Llywodraeth Cymru yn gadael i unrhyw brifysgol gau oherwydd yr effaith 'sa hynny'n cael ar unrhyw ardal.
"Y pwynt ydy, mae addysg uwch wedi ei ddatganoli ers chwarter canrif ac mae o fyny i Lywodraeth Cymru ddod fyny efo cynllun yma yng Nghymru a pheidio poeni am beth sy'n digwydd dros y ffin.
"Ond dwi'n d'eud mae 'na broblem ariannol, does neb yn gwrando a rŵan 'da ni'n gweld yr arbedion yma yn dod drwy'r sector ac mi allai Llywodraeth Cymru fod wedi gallu sefyll mewn i siarad efo nhw."
Sefyllfa 'enbyd iawn' i brifysgolion Cymru
Wrth siarad ar Dros Frecwast ddydd Mercher, dywedodd AS Ceredigion Preseli, Ben Lake fod hi'n sefyllfa "enbyd iawn" i brifysgolion yng Nghymru.
Gyda dwy brifysgol yn ei etholaeth - Prifysgol Aberystwyth a Champws Llanbed, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant - dywedodd fod 'na "gryn dipyn o bryder" yn yr ardal.
Dywedodd ei fod yn "amlwg" nad yw model cyllid prifysgolion yn gweithio a bod 'na "gyfuniad o resymau pam fod y sefyllfa yma wedi codi".
"Mae’n bwysig i ni gydnabod bod angen buddsoddiad fan hyn a byddwn ni yn cytuno bod y llywodraeth ar naill ochr o’r M4, yn hynny o beth, yn edrych ar y model ariannu eto achos dyw e ddim yn gynaliadwy ar hyn o bryd."
Dydd Mercher fe ddywedodd y Gweinidog dros Addysg Bellach ac Uwch, Vikki Howells AS nad oedd hi'n credu bod unrhyw brifysgol yng Nghymru mewn perygl o fynd i'r wal.
Er iddi awgrymu ddydd Mawrth ar lawr siambr y Senedd bod cynllun ariannol ar y gweill i leddfu pwysau ar brifysgolion, dywedodd ddydd Mercher nad oedd hynny yn gynllun terfynol.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r sector yn wynebu "cyfnod ariannol heriol".
"Rydym yn monitro’r sefyllfa ac wedi cynyddi'r terfyn ffioedd dysgu y llynedd," meddai llefarydd.
Doedd Llywodraeth y DU ddim am ymateb.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mai
- Cyhoeddwyd5 Chwefror 2023
- Cyhoeddwyd10 Mai