Apelio am fachgen 14 oed sydd ar goll ers Nos Galan

Mae Prince, 14, wedi bod ar goll ers Nos Galan
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu'r De yn apelio am wybodaeth am fachgen 14 oed sydd ar goll.
Cafodd Prince ei weld olaf ar Nos Galan ym Mryste.
Roedd yn gwisgo tracwisg ddu a sgidiau Nike du ac mae'n tua phum troedfedd o daldra.
Mae ganddo gysylltiadau â'r Barri, Luton, a Dunstable, meddai'r llu.
Mae swyddogion yn gofyn i unrhyw un sydd wedi ei weld i ffonio 101.