Pentref yn y gogledd oedd man poethaf y DU dros ŵyl y banc

ChirkFfynhonnell y llun, Welshgirl/BBCWeatherWatchers
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tymheredd o 29.6C ei gofnodi ym Mhenarlâg ddydd Llun

  • Cyhoeddwyd

Mae Cymru wedi profi'r ŵyl banc mis Awst poethaf ar gofnod, gyda phentref yn Sir y Fflint wedi'i gadarnhau fel y man cynhesaf yn y DU.

Cafodd tymheredd o 29.6C ei gofnodi ym Mhenarlâg ddydd Llun - sy'n uwch na'r 29.3C a gofnodwyd yn Rhosan ar Wy yn Sir Henffordd dros y ffin.

Y disgwyl yw na fydd y cyfnod poeth yn parhau lawer hirach, gyda Chorwynt Erin yn debygol o ddod â glaw a thywydd gwyntog i Gymru.

Dywedodd Dŵr Cymru fod lefelau'r rhan fwyaf o'r cronfeydd dŵr yn parhau "fel y disgwyl ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn" ac nad oedd ganddyn nhw "unrhyw bryderon", er gwaetha'r ffaith fod y galw yn codi'n sydyn mewn tywydd poeth.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig