Eisteddfod 2025: Cyflwyno Gwobr Goffa Daniel Owen

Medal Daniel OwenFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Medal Gwobr Goffa Daniel Owen yn cael ei rhoi am nofel gyda llinyn storïol cryf heb fod yn llai na 50,000 o eiriau

  • Cyhoeddwyd

Seremoni Gwobr Goffa Daniel Owen fydd prif ddefod llwyfan y Pafiliwn yn Eisteddfod Genedlaethol Wrecsam ddydd Mawrth.

Mae'r wobr yn cael ei rhoi am nofel heb ei chyhoeddi gyda llinyn storïol cryf, heb fod yn llai na 50,000 o eiriau.

Os bydd teilyngdod, bydd y nofelydd buddugol yn ennill medal a £5,000 o Gronfa Goffa I D Hooson.

Y beirniaid eleni yw Mari Emlyn, Alun Davies a Haf Llewelyn, a Nic Parry fydd yn arwain y seremoni.

Alun Ffred Jones oedd enillydd diweddaraf y gystadleuaeth hon, a hynny yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023.

Nid oedd teilyngodod yn Eisteddfod Rhondda Cynon Taf yn 2024.

Alun Ffred Jones
Disgrifiad o’r llun,

Gwynt y Dwyrain gan Alun Ffred Jones a gipiodd y wobr yn 2023, a doedd dim teilyngdod yn 2024

Mae cynnyrch llenyddol yr Eisteddfod Genedlaethol yn boblogaidd gan ddarllenwyr, ac yn hwb enfawr i'r diwydiant llyfrau yng Nghymru.

Ym mis Chwefror 2021 dywedodd y Cyngor Llyfrau bod colli cyfrolau'r Eisteddfod - Y Rhaglen, Y Cyfansoddiadau, Y Fedal a'r Daniel Owen - wedi costio oddeutu £100,000 yn ei gyfanrwydd i'r diwydiant llyfrau yn 2020 yn sgil y pandemig.

Mae cynnyrch yr  Eisteddfod Genedlaethol yn boblogaidd gan ddarllenwyr ac yn hwb enfawr i'r diwydiant llyfrau yng NghymruFfynhonnell y llun, Eisteddfod Genedlaethol
Disgrifiad o’r llun,

Mae cynnyrch yr Eisteddfod Genedlaethol yn boblogaidd gan ddarllenwyr ac yn hwb enfawr i'r diwydiant llyfrau yng Nghymru

Fe fydd y seremoni yn cael ei chynnal am 16:00.

Ni fydd yr orsedd yn rhan o'r seremoni.