Mynd yn sownd mewn ogof yn Eryri 'y peth mwyaf brawychus erioed'

Roedd hi i fod yn antur tanddaearol i'r ffrindiau 15 oed Draigen a Josh, dan arweiniad mam Draigen, Kate (canol)
- Cyhoeddwyd
Mae timau achub mynydd yng ngogledd Cymru yn annog pobl i drefnu eu hanturiaethau o flaen llaw - wrth iddyn nhw baratoi am fewnlifiad o ymwelwyr dros yr haf.
Mae timau yng ngogledd Cymru wedi cael mwy o alwadau nag yn unrhyw ranbarth arall ledled Cymru a Lloegr.
Bu cyfres BBC Cymru SOS: Extreme Rescues yn eu dilyn dros y flwyddyn ddiwethaf - ac mae achos newydd yn tynnu sylw at y ffaith nad yw'r peryglon bob amser ar y mynyddoedd - weithiau maen nhw o dan ddaear.
"Dyma'r peth mwyaf brawychus sydd erioed wedi digwydd i mi yn fy mywyd - erioed," meddai Josh, 15 oed - un o ddau o bobl ifanc a gafodd eu hachub o ogofâu llechi yn Eryri.
- Cyhoeddwyd1 Mawrth
- Cyhoeddwyd26 Chwefror
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024
Roedd wedi ymuno â'i ffrind Draigen a mam ei ffrind Kate am daith gyffrous trwy system mwyngloddiau llechi ger Blaenau Ffestiniog.
Roedd yn cynnwys pontydd rhaff, abseilio i lawr wynebau creigiau, llinellau sip, a hyd yn oed cwch i groesi llyn rhewllyd.
"Rydw i wastad wedi bod â diddordeb mewn mynyddoedd ac yn ceisio cael profiadau da iawn gyda fy mhlant," eglurodd Kate, sy'n dod o Essex.
"Mae gwneud rhywbeth fel 'na yn wirioneddol iachus ac mae'n meithrin cymaint o sgiliau."
'Yr antur berffaith... ond aeth pethau o'i le'
I'r dringwr, ogofwr ac anturiaethwr profiadol Kate, roedd ymweld â'r system ogofâu a oedd yn cyrraedd i lawr i 130m (425 troedfedd) mewn mannau, yn antur berffaith i'w mab a'i ffrind.
Dywedodd ei bod wedi ymchwilio i'r llwybr yn ofalus, a bod y tri wedi'u cyfarparu'n dda ar gyfer y daith.
Ond aeth pethau o'i le dair awr i mewn i'r daith, pan y daethon nhw'n nes at un o rwystrau mwyaf yr ogof - y llyn.
Mae'n 50m (160 troedfedd) o led ac yn cyrraedd dyfnder o 60m (200 troedfedd) mewn mannau.

Roedd yr hen ganŵ yn y llyn i fod i'w cario un wrth un dros y dŵr i'r llwybr sy'n arwain allan o'r ogofâu
"Roedd 'na raff yn hongian yn y dŵr, felly dechreuais i a Josh dynnu fo ac roedd canŵ ar yr ochr arall," eglurodd Draigen.
Kate oedd y cyntaf i abseilio i lawr i'r canŵ, i groesi'r llyn yn gyntaf.
"Dwi bob amser eisiau sicrhau fod pethau'n ddiogel," meddai.
Fe ddilynodd Josh - ond pan ddaeth tro Draigen, aeth pethau o'i le.
"Wnes i sefyll yn y lle anghywir, a wnaeth o suddo," meddai Draigen wrth SOS: Extreme Rescues.
Ar fideo a gafodd eu ffilmio o dan y ddaear, mae'n dweud wrth ei fam ei fod "hyd at ei ganol" mewn dŵr rhewllyd.
"Ro'n i'n panicio - o'n i'n ei chael hi'n anodd dringo allan. Roedd yr holl graig yn disgyn oddi ar y wal," meddai.
"Ro'n i yn y dŵr am tua munud. Roedd o'n rhewllyd."
'Un o'r penderfyniadau anoddaf'
Llwyddodd i dynnu ei hun ar graig, ond roedd yn sownd - wedi'i adael ar ochr arall y llyn, yn methu cyrraedd y llwybr uwch ei ben, ac yn methu cyrraedd ei fam na'i ffrind.
Fe wnaeth Kate roi bag goroesi i'w mab, ac yna asesu'r sefyllfa.
Roedden nhw'n ddwfn o dan y ddaear heb signal ffôn i alw am gymorth.
Dim ond un dewis oedd ganddi - gadael y ddau fachgen gyda'i gilydd a mynd am gymorth ei hun.
"Dyna un o'r penderfyniadau anoddaf dwi erioed wedi'i wneud, 'swn i'n deud, " meddai.
"Ro'n i'n gwybod pa mor frawychus fyddai hynny iddyn nhw."

Cyrhaeddodd aelodau o Sefydliad Achub Ogof Gogledd Cymru leoliad y bachgen tua 21:30 y nos
Cymerodd ddwy awr a hanner iddi ddod o hyd i'w ffordd yn ôl allan o'r ogof i godi'r larwm o'r diwedd.
Yna dechreuodd y gwaith achub, gyda Thîm Achub Mynydd Aberglaslyn uwchben y ddaear, a gwirfoddolwyr Sefydliad Achub Ogof Gogledd Cymru yn mynd i'r ogof.
Yn y diwedd, roedd hi'n bedair awr ers i Kate adael pan ddaeth yr achubwyr o hyd i'r bechgyn - yn ddiogel ond yn oer.
"Pan wnes i glywed eu lleisiau - roedd yn gymaint o ryddhad," meddai Draigen.
Cafodd fflasg o siocled poeth a dillad cynnes, cyn iddo ef a Josh gael eu helpu allan o'r ogof ac yn ôl at Kate.
"Ro'n i mor falch ohonyn nhw," meddai Kate.

Roedd Dave Evans yn un o aelodau Tîm Achub Mynydd Aberglaslyn a oedd yn cydlynu ar ochr y mynydd, tra bod achubwyr ogofâu yn mynd o dan y ddaear
Dyma oedd y canlyniad yr oedd yr achubwyr wedi gobeithio amdano, ar ôl ofnau yn y cychwyn am eu diogelwch, ac os oedden nhw wedi trio gadael yr ogof eu hunain.
"Doedden ni ddim yn gwybod a oedden nhw wedi'u hanafu," meddai Dave Evans, o Dîm Achub Mynydd Aberglaslyn.
"Roedden ni'n gobeithio y bydden nhw wedi aros - gan eu bod nhw'n fechgyn ifanc 15 oed. Ond fe wnaethon nhw. Gwnaethon nhw'n union yr hyn roedden nhw i fod i'w wneud."
Dywedodd arweinydd y tîm achub mynydd ei fod yn tynnu sylw at bwysigrwydd bod yn barod - a'r angen i baratoi ymlaen llaw ar gyfer argyfyngau.
750 o alwadau y llynedd
Y llynedd, deliodd saith tîm achub gogledd Cymru â mwy na 750 o alwadau, gyda mwy na 320 yn yr ardal yn cwmpasu Yr Wyddfa, y nifer fwyaf o alwadau i unrhyw un o'r timau ledled Cymru a Lloegr.
"Pan ddewch chi i Gymru, i Eryri, rydych chi'n cynllunio'ch llwybr - eich cerbyd, faint o betrol sydd gennych chi yn eich cerbyd i gyrraedd gogledd Cymru," meddai Mr Evans.
"Fe allai pethau fynd o'i le, gobeithio ddim. Ond os ydych chi wedi cynllunio - yna mae hanner y frwydr wedi'i hennill."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.