Lluniau: Dydd Mercher yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Dydd Mercher yn yr Eisteddfod - a diwrnod pan mae nifer o bobl ifanc yn cyrraedd wrth i gigs Maes B ddechrau.
Ond roedd digon o bethau i ddiddanu pawb o bob oed ar y prif Faes...

Dydd Mercher ydi diwrnod cyntaf llawn Maes B, a does syndod felly bod ciw hir yng Nghaffi Maes B i brynu siwmper eleni yn barod at y gig gyntaf gyda'r nos

Ac roedd y ffrindiau yma o Gasnewydd a Chas-gwent wedi archebu eu siwmperi ac yn edrych ymlaen at noson oedd yn cynnwys Kim Hon, HMS Morris ac Yws Gwynedd

Roedd cerddoriaeth drwy'r dydd eto yng Nghaffi Maes B - yn cynnwys Elis Derby

Roedd hi'n fore glawog ar y Maes - a Ziggy, o Lundain, wedi paratoi o flaen llaw

Codi wnaeth y tywydd - ond roedd Ron Edwards o Gefn Coed, ger Merthyr, yn benderfynol o edrych yn dda, waeth beth oedd y tywydd. Mecanig oedd ei waith am ddegawdau, ond ar ôl ymddeol fe addawodd na fyddai byth yn gwisgo overalls fyth eto. "Dyma fy nhro cyntaf mewn Eisteddfod a dwi'n ei fwynhau cymaint," meddai.

Un o fanteision Eisteddfod mewn parc ydi gallu mwynhau cerddoriaeth mewn ardal braf fel Y Bandstand

Ond mae rhai digwyddiadau yn cael eu cynnal tu allan i'r Maes ym Mharc Ynysangharad, gan gynnwys yn adeilad YMa gerllaw. Ac yn y dderbynfa fore Mercher roedd DJ a dawnswyr yn mwynhau eu hunain

Roedd pabell Maes D yn orlawn i glywed sgwrs gyda'r unig fenywod i fod yn Archdderwydd - Christine James, wnaeth y swydd rhwng 2013-2016, a'r Archdderwydd presennol Mererid Hopwood

Y Lle Celf

Mae'r stiwardiaid yn gweithio'n galed - ond pan mae'r drysau wedi cau maen nhw'n cael eu diddanu, fel yma yng nghystadleuaeth yr unawd bariton/bas 19 ac o dan 25 oed. Ar y llwyfan mae'r canwr buddugol - Tomos Heddwyn Griffiths, o Drawsfynydd

Yn ail yn y gystadleuaeth bas/bariton oedd Owain Rowlands o Landeilo

Roedd criw Theatr y Stryd yn diddanu eto ar y Maes ddydd Mercher

Aelodau o'r Orsedd yn cyrraedd cefn llwyfan ac yn rhoi eu henwau i'r swyddogion cyn nôl eu gwisgoedd a newid ar gyfer seremoni'r Priflenor Rhyddiaith

Eurgain Haf, yn wreiddiol o Benisarwaun yn Nyffryn Peris ond bellach yn byw ym Mhontypridd, oedd yn fuddugol

Ac yn seremoni arall y dydd, Antwn Owen-Hicks oedd Dysgwr y Flwyddyn. Dywedodd bod y wobr yn "bach o sioc" ond yn "anrhydedd enfawr"

Tri beirniad cystadleuaeth Brwydr y Bandiau yn gwrando ar Tesni a'i band ar Lwyfan y Maes

Os ydi sefyll ar lwyfan o flaen beirniad yn codi braw... rhowch gynnig ar hyn... sioe No Fit State Circus
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024
- Cyhoeddwyd6 Awst 2024