Lluniau: Dydd Iau yn yr Eisteddfod
- Cyhoeddwyd
Daeth y glaw, a mwy o law ym Mhontypridd heddiw.
Er hynny, fe ddaeth yr eisteddfotwyr yn llu i fwynhau diwrnod arall ym Mharc Ynysangharad.


Lle da i 'mochel rhag y glaw!


Yn y bore mae ei dal hi! Roedd ambell nofiwr wedi mentro i'r lido ben bore er gwaetha'r glaw!

Martha, Gwyn ac Aneira o Gaerdydd yn lliwgar iawn, er eu bod nhw'n "teimlo bach yn ddigalon" am y tywydd, meddai Gwyn

Roedd cynulleidfa gref wedi dod i Faes D i weld ychydig o gystadlu. Roedd Meic a Nicola James yn llefaru Ar y Bws yn y gystadleuaeth i ddysgwyr lefel canolradd


Mae Medal Wyddoniaeth a Thechnoleg Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf wedi cael ei chyflwyno i Dr Rhodri Jones mewn seremoni arbennig yn y Pafiliwn.

Mae Frances Bolley yn rhan o brosiect Affricerdd Tŷ Cerdd. Roedd hi'n perfformio yn Encore heddiw gyda artistiaid eraill sy'n rhan o'r prosiect

Fel rhan o brosiect Affricerdd mae caneuon Cymraeg newydd yn cael eu cyfansoddi a'u perfformio gan artistiaid du. Mae Asha Jane yn un o'r artistiaid hynny

Eädyth sy'n mentora'r artistiaid newydd. Perfformiodd gân o'r enw Gobaith gyda Asha, a oedd wedi'i chyfansoddi fel rhan o brosiect Ladies of Rage a gafodd ei rhyddhau fel EP, Harddwch Du

Perfformiwyr stryd allan yn eu siorts!

Ymbarélau o bob lliw a llun ar un o'r teithiau tywys

Mae'r amrywiaeth o batrymau ymbarél ar y Maes yn eang!


Mwy o flodau!

Roedd Mared yn perfformio yng Nghaffi Maes B prynhawn 'ma. Fe ganodd hi drefniant newydd o Mil Harddach Wyt yn ei set, er cof am y diweddar Leah Owen a oedd yn dysgu Mared am flynyddoedd

Taran, band newydd o Gaerdydd, yn diddanu llond stondin Paned o Gê o bobl!

Ar ôl iddi lawio'n ddi-baid drwy'r dydd mae'r cae o flaen Llwyfan y Maes yn un o ddŵr. Mae perfformiadau'r llwyfan heno wedi'u symud – bydd Meinir Gwilym yn perfformio yn y Pafiliwn yn lle
Pynciau cysylltiedig
Mwy o'r Eisteddfod
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024
- Cyhoeddwyd7 Awst 2024
- Cyhoeddwyd8 Awst 2024