Yws Gwynedd: 20 mlynedd o Maes B
- Cyhoeddwyd
Nôl yn 2004 roedd Yws Gwynedd yn cofio bod yn nerfus gefn llwyfan cyn perfformio am y tro cyntaf ym Maes B.
Y tro hynny, roedd yn brif leisydd y band Frizbee, oedd ond wedi ffurfio ychydig fisoedd ynghynt.
Eisteddfod Casnewydd oedd y lleoliad, ac roedd y band ifanc o Flaenau Ffestiniog ar fin gwireddu breuddwyd.
Eleni mae Yws yn perfformio eto ym Maes B, ugain mlynedd ers ei ymddangosiad cyntaf, nid gyda Frizbee a ddaeth i ben yn 2008, ond gyda'i fand ei hun.
"Dwi ddim yn cofio dim am y perfformiad nôl yn 2004. Dim ond teimlo'n nerfus cyn y perfformiad a siarad efo Radio Cymru wedyn," meddai.
Erbyn hyn mae Yws Gwynedd yn un o artistiaid mwyaf poblogaidd y sin cerddorol yng Nghymru.
Prin oedd yn disgwyl y base'n perfformio ym Maes B 20 mlynedd ers y tro cyntaf.
"Dwi'n cofio roedd y gig yn y Newport Arena, adeilad anferth lle oedd 'na lot o gigs mawr yn digwydd yno ar y pryd.
"Dwi ddim hyd yn oed yn cofio pwy oedd on ru'n pryd a ni, dwi eisiau deud Anweledig ond dwi ddim yn gant y cant yn saff," meddai.
Un o'r pethau mwyaf sydd wedi newid dros yr ugain mlynedd yn ôl Yws yw maint Maes B.
"Dwi ddim yn siŵr os oedd o gymaint o hype adeg hynny a be mae o wan, mae Maes B wedi tyfu i fod yn ŵyl bellach.
"Roedd o definitely dal yn un o’r gigs gorau i chdi neud mewn blwyddyn, ond roedden ni'r cyntaf ar y bil fel arfer, felly doedd yna ddim pwysau arnon ni bryd hynny.
"Erbyn rŵan mae Maes B y thing 'ma ble mae pobl ifanc i gyd eisiau mynd iddo, maen nhw'n aros yno drwy'r penwythnos.
"Mae'n anhygoel gweld sut mae o wedi tyfu ac mae'n neis gweld torfeydd mawr yna," meddai.
Arwyddocâd yr ardal
O fod y cyntaf ar y bil yn 2004, Yws Gwynedd a'i fand oedd yn cloi nos Fercher Maes B eleni.
"Mae headlinio Maes B yn un o'r pethau 'na wyt ti eisiau ei neud ac wedyn pan mae o'n dod mae o'n gallu dy neud di'n nerfus iawn.
"Fwy a fwy yn ddiweddar mae bands yn gneud petha bach sbeshal er mwyn gwneud y noson yna sefyll allan fel un o'i gigs mwyaf nhw drwy'r flwyddyn.
"Peth arall ti'n gorfod ei gofio ydi be ti'n ddeud.
"Wastad mae'r Steddfod mewn lle gwahanol a ti'n gorfod addysgu dy hun am le wyt ti a be 'di arwyddocâd yr ardal yna.
"Mae Pontypridd, mae 'na lot o betha wedi digwydd yno sy'n rhan o hanes Cymru felly mae'n bwysig cofio lle wyt ti," meddai.
Wrth edrych at y dyfodol a'r ugain mlynedd nesaf, does gan Yws dim bwriad o ymddeol eto, er ei fod wedi crybwyll y gair ambell i dro yn y gorffennol.
Mae eleni yn flwyddyn brysur iddo gyda albym newydd ar y gweill a hefyd cyfres newydd Y Llais, ble fydd Yws yn un o'r beirniaid.
"Nes i ddeud, pan o'n i'n stopio cael spots y baswn i'n retirio nes i ddim.
"Wedyn nes i ddeud, unwaith y baswn i'n cael gwallt gwyn y baswn i’n retirio. Dwi wedi dechrau cael gwallt gwyn a dwi dal heb neud.
"Dydan ni ddim eisiau ymddeol rŵan, rydan ni'n mwynhau be rydan ni'n neud, dydan ni ddim yn ei neud o'n aml felly mae'n teimlo'n sbeshial pan rydan ni yn ei neud o.
"Y peth pwysig ydi parhau i greu, mae 'na albym newydd ar y ffordd ac wedyn gweld be mae'r cyhoedd yn ei licio.
Y Llais
O ran Y Llais, roedd Yws yn pwysleisio y base wedi gwrthod cymryd rhan mewn prosiect o'r fath fel arfer. Ond, roedd yn teimlo gan ei fod yn rhedeg label Côsh a meithrin talentau ifanc y base'n gyfle da iddo gyfuno'r ddwy rôl.
"Nes i sylweddoli hanner ffordd drwy ddeud 'na', mai dyna ydi fy ngwaith i beth bynnag.
"Dwi'n rhedeg label ac yn chwilio am dalent newydd, pam ddim mynd ar y teledu i neud hynny"?
"Fydd o'n ddiddorol ac fe gawn ni laff," meddai.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd24 Rhagfyr 2023