Arestio menyw ar amheuaeth o lofruddio bachgen 6 oed
- Cyhoeddwyd
Mae menyw 41 oed wedi cael ei harestio ar amheuaeth o lofruddio bachgen chwech oed mewn tŷ yn ardal Gendros yn Abertawe.
Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i Glos Cwm Du tua 20:30 nos Iau.
Mae'r fenyw sydd wedi cael ei harestio yn y ddalfa ar hyn o bryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Yn ôl Heddlu De Cymru roedd y plentyn a'r fenyw yn byw gyda'i gilydd a dyw'r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall ar hyn o bryd.
Mae'r llu wedi sefydlu ystafell neilltuol ar gyfer yr ymchwiliad, sy'n cael ei arwain gan y Tîm Ymchwiliadau i Droseddau Mawr.
Dywedodd y Prif Uwcharolygydd Chris Truscott: "Mae hwn yn ddigwyddiad ingol a fydd yn sioc i'r gymuned leol.
"Mae ditectifs yn gweithio i gadarnhau amgylchiadau marwolaeth y plentyn a bydd yna bresenoldeb heddlu mwy amlwg yn yr ardal i gynnig sicrwydd i drigolion lleol."
Ychwanegodd: "Dyw dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol ddim o gymorth a bydd yn achosi gofid i'r rhai sydd wedi eu heffeithio gan y digwyddiad yma mewn cyfnod sydd eisoes yn anodd."
'Pawb mewn sioc'
Dywedodd Aelod Seneddol Gorllewin Abertawe, Torsten Bell, fod y digwyddiad yn "newyddion torcalonnus sydd wedi gadael pawb ar draws Abertawe mewn sioc".
"Mae ein meddyliau i gyd gyda'r rhai sydd wedi'u heffeithio a'r gymuned sy'n delio â cholled drasig plentyn.
"Mae'r heddlu bellach yn gwneud eu gwaith ac yn darparu mwy o bresenoldeb ar y strydoedd i dawelu meddyliau trigolion lleol.
"Byddwn yn ailadrodd eu cais i bawb osgoi dyfalu ar y cyfryngau cymdeithasol am y digwyddiad ofnadwy yma.”
Ychwanegodd yr Aelod o'r Senedd, Julie James fod y digwyddiad yn "ofnadwy a thrasig", a'i bod yn meddwl am y rheiny a effeithiwyd.
Dywedodd cymydog wrth BBC Cymru bod Clos Cwmdu "fel ghost town y bore 'ma" gan fod "pobl mewn sioc".
"Rwy'n gweithio o adre a heddiw mae'n anodd iawn gwneud hynny," meddai Dominic Nutt.
"Ro'n i'n rhoi fy mab yn ei wely tua wyth o'r gloch neithiwr pan welais i'r goleuadau glas.
"Es i mas a gweld dau neu dri o geir [heddlu] yn dod, a mwya' sydyn roedd 'na dri neu bedwar ar rhagor a meddyliais i 'so hyn yn dda'.
"Roedd yn ymddangos bod fan armed response a phlismyn yn rhedeg tua'r tŷ yna... roedd yn ddychrynllyd iawn ac roedd yna gryn brysurdeb.
"Yna fe gyrhaeddodd ambiwlans ac yna fe welson ni hofrennydd a laniodd ger y llyfrgell. Roedd y bobl sy'n byw yma yn dod o'u tai ac yn ddryslyd.
"Yn yr ardal yma allwch chi gadw i'ch hun os chi mo'yn, ond mae 'na ymdeimlad cymunedol yma.
"Rwy'n byw yma ers pedair blynedd a wastad wedi bod yn hapus yma... mae pobl yn gofalu am ei gilydd yma. Mae hyn yn sioc enfawr."
O'r lleoliad
Meleri Williams, BBC Cymru
Er y tywydd braf, mae 'na deimlad iasol yng Nghlos Cwmdu yn ardal Gendros.
Mae pobl leol wedi disgrifio golygfeydd brawychus o weld ceir heddlu a hofrenyddion yn yr ardal nos Iau.
Mae’r sioc o glywed fod plentyn wedi marw wedi ysgwyd cymdogion.
Ar y clos, mae tegannau plant i’w gweld tu allan i dai, gyda gwyliau’r haf ar fin dod i ben.
Ond mae 'na dawelwch llethol yma wrth i bobl ddygymod â cholli un o blant yr ardal.
Mae'r achos yn un "hollol arswydus", medd cyngorydd sir ward Cocyd, Mike Durke, sy'n byw o fewn milltir i Glos Cwmdu.
"Er y gallai pethau erchyll fel hyn ddigwydd unrhyw le, unrhyw bryd maen nhw'n brin iawn.
"Mae'n drasig bod hyn wedi digwydd yn y gymuned hon ond mi ddown at ein gilydd a chefnogi ein gilydd... mi wnawn ni weithio gyda'n gilydd trwy'r cyfnod ofnadwy yma."
Mewn datganiad ar-lein, dywedodd arweinydd Cyngor Abertawe, Rob Stewart: "Mae hwn yn ddigwyddiad gofidus a thrasig a fydd yn cymryd amser i'r heddlu ei ymchwilio ac i'r gymuned ei brosesu."
Ychwanegodd y bydd timau'r cyngor "yn parhau i gefnogi'r gymuned ar yr adeg anodd yma".