Plygain-iadur Rhagfyr 2024

Canu Plygain
  • Cyhoeddwyd

Os ydych chi'n un o'r rheiny sy'n hoffi ymestyn cyfnod y Nadolig mor hir â phosib, yna mae tymor y Plygain yn berffaith i chi! Mae rhai o'r gwasanaethau canu arbennig yma yn cael eu cynnal mor gynnar â diwedd mis Tachwedd ac mae'n arferol iddyn nhw barhau tan ddiwedd Ionawr.

Cyfle i'r gymuned ddod at ei gilydd i ganu hen ganeuon traddodiadol y Nadolig yw'r Plygain. Mae'n draddodiad sydd yn mynd yn ôl canrifoedd.

Pryd mae eich gwasanaeth lleol chi, neu oes 'na un 'da chi wedi bod eisiau mynd iddyn nhw? Mae Cymru Fyw yma i helpu, gyda Phlygain-iadur cyfleus ar gyfer y tymor! Dyma Blygain-iadur mis Rhagfyr 2024... Cadwch lygaid am Blygain-iadur mis Ionawr ar ddechrau'r flwyddyn newydd.

Dydd Sul 01/12/2024

Llanfair Caereinion, Capel Moreia 16:00 (Plygain yr Ifanc)

Nos Sul 01/12/2024

Llanfyllin, Capel y Tabernacl 18:00

Penygraig, Croesyceiliog 18:30

Nos Wener 06/12/2024

Llansilin, Eglwys Sant Silin 19:30

Nos Iau 12/12/2024

Aberystwyth, Eglwys y Santes Fair 19:00

Nos Wener 13/12/2024

Tŷ Ddewi, Eglwys Gadeiriol 19:00

Llanidloes, Capel Heol China 19:30

Nos Sul 15/12/2024

Pennal, Eglwys 17:30

Nos Lun 16/12/2024

Capel Bethel, Maes y Deri, Rhiwbeina (eitemau cerddorol drwy wahoddiad) 19:00

Nos Fawrth 17/12/2024

Parc, Y Bala, Capel 19:00

Nos Iau 19/12/2024

Penrhyn-coch, Eglwys St Ioan 19:00

Llanfair Dyffryn Clwyd, Eglwys Sant Cynfarch a’r Santes Fair 19:00

Nos Sul 22/12/2024

Pontrobert (Plygain Peniel a Phontrobert), Neuadd Pontrobert 18:00

Briw, Llangedwyn, Capel 18:30

Llanfair Caereinion, Capel Pentyrch 22:30

Nos Lun 23/12/2024

Llanarmon Dyffryn Ceiriog, Eglwys Sant Garmon 19:00

Nos Fawrth 24/12/2024

Llanfairpwll, Capel Rhos y Gad 19:00

Caerdydd, Capel Methodistaidd Stryd Conway, Pontcanna 23:30

Dydd Nadolig 25/12/2024

Pontrobert, Hen Gapel John Hughes 06:00

Eglwys Sant Rhedyw, Llanllyfni 07:00

Nercwys, Capel Soar 07:00

Nos Sul 29/12/2024

Cefnblodwel, Capel 19:00

Nos Sul 5/1/2025

Capel Tabernacl Eglwys Newydd, Heol Merthyr, Caerdydd 17:00

Plygeiniau mis Rhagfyr...

Cadw trefn

Mae grŵp o bobl yn gweithio'n ddiwyd yn ceisio rhoi trefn ar yr holl ddigwyddiadau, ac wedi creu adnodd lle allwch chi fynd i ddysgu mwy am y traddodiad arbennig hwn.

Ceris Gruffudd, Ffion Mair, Roy Griffiths, Rhian Davies, Gareth Williams ac Arfon Gwilym yw'r rhai y tu ôl i plygain.org, dolen allanol (dolen allanol). Ewch draw yno am fwy o wybodaeth!

Sain unigryw y Plygain

Mae sain traddodiadol y Plygain yn un trawiadol. Dyma flas o'r hyn allwch chi ei glywed mewn gwasanaeth o'r fath, wedi ei recordio yn Llanfyllin yn 2019.

Disgrifiad,

Dathlu'r Plygain yn Llanfyllin

Os hoffech chi ychwanegu gwasanaeth Plygain i'n digwyddiadur e-bostiwch cymrufyw@bbc.co.uk

Pynciau cysylltiedig