Athro drama wedi prynu alcohol i fachgen, ond 'heb wneud dim o'i le'

- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth athro drama brynu alcohol i fachgen yn ei arddegau yn ogystal â thrafod "eiconau ac enwogion hoyw" gyda'r plentyn, mae llys wedi clywed.
Mae Jonathon Coombs, 54 oed o'r Barri, yn gwadu saith cyhuddiad o weithred rhyw gyda phlentyn gan berson sydd mewn swydd o ymddiriedaeth.
Mae'r achos eisoes wedi clywed fod Mr Coombs yn athro yn Ysgol Pencoedtre yn y dref ar adeg y troseddau honedig, ac roedd yn ymwneud â chwmnïau drama lleol.
Clywodd yr achos bod Mr Coombs wedi rhoi arian i'r bachgen ar sawl achlysur - cyfanswm o £500 - fyddai'n "arwain at rywbeth rhywiol".
Ond dywedodd bargyfreithiwr y diffynnydd mai "sibrydion maleisus" oedd yr honiadau yn ei erbyn.
- Cyhoeddwyd30 Ebrill
- Cyhoeddwyd29 Ebrill
Ddydd Gwener, fe wnaeth Mr Coombs roi tystiolaeth i'r llys, gyda'i fargyfreithiwr Rosamund Rutter KC yn gofyn a oedd wedi anfon negeseuon amhriodol at y bachgen.
Atebodd: "Yn sicr, na."
Gofynnwyd iddo a oedd wedi anfon unrhyw luniau ohono heb ddillad, neu luniau anweddus, a dywedodd: "Byth."
Dywedodd bod y par wedi trafod "eiconau ac enwogion hoyw a sut mae'n haws iddyn nhw fyw bywyd yn agored".
Dywedodd hefyd ei fod wedi trafod "bod yn berson hoyw a byw bywyd normal", ond gwadodd iddo ofyn i'r bachgen ei alw'n "gay guru".
Fe wnaeth Mr Coombs gyfaddef iddo brynu alcohol i'r bachgen ar un achlysur mewn sioe theatr yng Nghaerdydd.
Yn dilyn y sioe mae'r bachgen wedi dweud bod y ddau wedi cael rhyw yng nghartref Mr Coombs.
Pan ofynnwyd i'r diffynnydd a oedd hynny wedi digwydd, dywedodd: "Na, byth."
Clywodd y llys am sylw honedig gan Mr Coombs ble dywedodd: "Fe allwn i golli fy swydd oherwydd hyn, ond dwi ddim yn poeni, fe wnaethon ni gysgu hefo'n gilydd."
Wrth son am gael ei gyhuddo gan ffrind o gael rhyw gyda'r bachgen, dywedodd y diffynnydd wrth y llys bod y sylw yn "sioc" iddo.
"Dywedais mod i'n methu coelio y byddai'n dweud rhywbeth fel yna. Just am fy mod i'n hoyw dydy hynny ddim yn golygu bod ni wedi cysgu da'n gilydd", meddai'r diffynnydd.
Gofynnodd y bargyfreithiwr iddo: "A wnaethoch chi ddweud eich bod chi wedi cael rhyw?" Atebodd Mr Coombs: "Na, yn sicr."
Gofynnodd hefyd: "A wnaethoch chi ddweud wrtho am ddileu negeseuon?" Atebodd y diffynnydd: "Na, wnes i ddim."
Gwadodd hefyd ei fod wedi dweud wrth y bachgen y gallai fynd i drwbl petai rhywun yn dod i wybod am y berthynas.
Holodd y bargyfreithiwr: "Oeddech chi'n teimlo eich bod wedi gwneud unrhyw beth o'i le?" Atebodd: "Na."
Mae'r achos yn parhau.