Llys yn clywed mai 'sibrydion' yw honiadau yn erbyn athro drama

Fe glywodd y llys fod Jonathon Coombs yn athro drama yn Ysgol Pencoedtre ac yn ymwneud â chwmnïau drama lleol
- Cyhoeddwyd
"Sibrydion maleisus" oedd yr honiadau am athro drama sydd wedi'i gyhuddo o droseddau rhyw yn erbyn plentyn, mae llys wedi clywed.
Mae Jonathon Coombs, 54 oed o'r Barri, yn gwadu saith cyhuddiad o weithred rhyw gyda phlentyn gan berson sydd mewn swydd o ymddiriedaeth.
Mae'r achos eisoes wedi clywed fod Mr Coombs yn athro yn Ysgol Pencoedtre yn y dref ar adeg y troseddau honedig, ac roedd yn ymwneud â chwmnïau drama lleol.
Yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher, dywedodd bargyfreithiwr Mr Coombs wrth y dioddefwr honedig mai'r rheswm yr oedden nhw yn y llys oedd oherwydd "sibrydion" yn unig.
"Sibrydion a gychwynnodd mewn parti yw'r cyfan," meddai Rosamund Rutter.
"Cafodd Mr Coombs ei gyhuddo o wneud hyn yn y parti ar ôl i chi gael ffrae gyda Mr Coombs."
'Ofn dweud y gwir'
Ar y pryd, fe glywodd y llys ei fod wedi gwadu fod unrhyw beth wedi digwydd rhyngddyn nhw.
Roedd y rheithgor wedi clywed ei fod wedi gwadu'r cyfan i'r heddlu ar y cychwyn.
"Fe wnes ti ddisgrifio hwn fel sibrydion," meddai Ms Rutter wrtho, "a dyna'n union oedd y cyfan, sibrydion maleisus."
Pan esboniodd ei fod yn teimlo embaras, dywedodd Ms Rutter wrtho ei fod wedi dweud celwydd.
"Roedd gen i ofn dweud y gwir," meddai'r dioddefwr honedig.
Fe ymatebodd Ms Rutter gan ddweud "doedd dim byd wedi digwydd, ac mae'r honiad dy fod wedi cael perthynas rywiol yn gelwydd".
- Cyhoeddwyd29 Ebrill
Clywodd y rheithgor fod gan Mr Coombs farc amlwg yn ardal ei forddwyd (groin), a byddai'r marc wedi bod yn amlwg pe baen nhw wedi cael gweithred rhyw, ond doedd yr unigolyn yn ei arddegau, meddai Ms Rutter, heb sôn am hynny.
"Dwyt ti heb sôn am hyn o gwbl... am fod dim wedi digwydd," meddai.
"Nid oeddet wedi cael unrhyw gyfathrach gyda Mr Coombs."
"Do fe wnes i," atebodd.
Fe wnaeth Ms Rutter gwestiynu a oedd gan Mr Coombs yr amser i gymryd rhan mewn gweithgarwch rhyw - fel gwnaeth yr unigolyn ddisgrifio - o gofio ei ymrwymiadau fel athro a'i amserlen brysur gyda grwpiau theatr lleol.
'Doedd e ddim yn normal'
Pan ofynnwyd i'r achwynydd pam nad oedd wedi dweud unrhyw beth wrth yr heddlu ynghynt, dywedodd ei fod yn "poeni beth fyddai fy ffrindiau'n meddwl".
Dywedodd ei fod wedi gwneud ffrindiau newydd yn y coleg, a'i fod wedi sylweddoli bod angen iddo adrodd yr hyn ddigwyddodd i'r heddlu.
"Nes i sylwi, beth es i drwy, doedd e ddim yn normal," meddai.
"Ro'n i eisiau atal e rhag digwydd i unrhyw un arall."
Mae'r achos yn parhau.