Cost gofal plant yn y gwyliau'n uwch nag erioed
- Cyhoeddwyd
Cymru ydy’r wlad ddrutaf o ran costau gofal plant yn ystod y gwyliau ysgol.
Yn ôl data newydd gan elusen Coram, mae’r gost wedi cynyddu 9% yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf.
Mae’r ffigyrau yn dangos bod rhieni, ar gyfartaledd, yn talu £168 yr wythnos ar gyfer gofal plant unwaith fod drysau’r ystafell ddosbarth yn cau.
Dywedodd un fam yng Nghaerdydd fod rhieni yn osgoi cael ail fabi tra bod costau byw yn uchel.
Fe ddywedodd Llywodraeth Cymru fod 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim ar gael i blant tair a phedair oed, a bod hynny ar gael am hyd at 48 wythnos y flwyddyn.
Ychwanegon nhw fod hynny'n fwy hael na'r cynnig dros y ffin yn Lloegr, a bod mwy o rieni yn gymwys yng Nghymru hefyd.
‘Mae’r gost yn echrydus’
Ar ôl blwyddyn o gyfnod mamolaeth, roedd Alice Evans yng Nghaerdydd wedi troi at ofal plant preifat ar gyfer ei mab.
“Dwi’n gorfod gweithio yn ystod gwyliau’r ysgol,” meddai.
Mae mab Alice yn derbyn 30 awr o ofal am ddim - polisi sy’n “wych” i’r teulu, ond mae’r gost yn gyffredinol yn “echrydus”, meddai.
"Pob chwe mis mae’r gost yn cynyddu.
“Mae gen i nifer o ffrindiau - sy’n rhieni ac yn gweithio - sy’n ei chael hi’n anodd iawn gyda chostau gofal plant ar hyn o bryd.”
Dywedodd Alice fod ffrindiau eraill yn penderfynu peidio cael plant oherwydd bod y gost mor uchel.
“Mae rhieni yn gorfod gwneud penderfyniadau ddylai nhw ddim gorfod gwneud.”
‘Rhieni yn torri nôl ar gostau’
Mae Justine Vedmore yn rhedeg canolfan gofal plant Blue Door Out of School yng Nghaerdydd.
Mae ei thîm yn darparu gofal yn ystod y gwyliau i blant rhwng tair ac 11 oed.
“Mae ein costau ni wedi codi,” meddai. “Ein trydan, ein nwy, ein biliau bwyd.”
Yn ôl Justine, mae’r argyfwng costau byw yn golygu bod teuluoedd yn cyfri' pob ceiniog.
“Mae rhieni yn trio ffeindio ffyrdd newydd i dorri costau gan ddefnyddio mam-gu a thad-cu neu weithio o adre tra’n edrych ar ôl eu plant," meddai.
I blentyn dan bump oed, mae diwrnod o ofal a bwyd, rhwng 07:30 a 18:00, yn costio £50, tra bod hynny'n £45 i blentyn dan bump oed.
Yn ôl Justine, mae'r rhan fwyaf o’r rhieni yn deall bod y gost yn golygu gwasanaeth sy'n eu galluogi i weithio diwrnod llawn.
- Cyhoeddwyd5 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd16 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd30 Ebrill 2023
Yn siarad ar Dros Frecwast dywedodd Judith Owen, perchennog meithrinfa Pitian Patian yng Nghaernarfon, ei bod wedi gweld costau'r busnes yn cynyddu.
"Allai ddim dychmygu bod 'na unrhyw berson ar wyneb y ddaear ar hyn o bryd lle mae costau nhw ddim wedi cynyddu mewn un ffordd neu'r llall," dywedodd.
"Pan da chi'n rhedeg busnes ma' hyn yn gorfod cael effaith negyddol ar y cwsmer.
"Mae codi prisiau ddim yn rhywbeth da ni'n neud yn ysgafn, da ni wirioneddol yn trio'n gorau glas i gadw y prisiau mor rhesymol â phosib."
Ac mae Judith wedi gweld effeithiau prisiau cynyddol ar ei chwsmeriaid.
"Dros y blynyddoedd ma' 'na bobl wedi dewis nain a thaid yn gwarchod un diwrnod ychwanegol fel bod nhw'n lleihau ar y gost ond dwi yn teimlo'n gry' dros y ffaith bod rhaid i rieni sylweddoli mai ddim ni sydd yn dewis cynyddu'r gost yma.
"Dwi'n gwybod am rieni sy'n mynd allan i weithio ac er mwyn cadw'r swyddi yna 'ma nhw'n gwario tu 70% o'u cyflog ar ofal plant.
Ychwanegodd y byddai rhagor o gymorth gan y llywodraeth i'w groesawu.
"Mae gynno ni wrth gwrs costau cyflogi staff. Dwi'n cefnogi 100% ein llywodraeth yn annog ni i dalu cyflog gwell i'n gweithwyr ond wrth gwrs dydy'r llywodraeth ddim yn rhoi dim arian i ni tuag at y gost ychwanegol yna."
Ychwanegodd ei bod yn falch bod rhieni yng Nghymru yn gallu cael hyd at 30 awr o ofal plant am ddim bob wythnos ond teimla bod angen ehangu'r cynllun yma i gynnwys rhagor o deuluoedd.
Mae data newydd ynglŷn â chostau gofal plant yn ystod gwyliau ysgol ar draws Prydain yn awgrymu bod Cymru ar frig y rhestr ar hyn o bryd.
Mae teuluoedd yng Nghymru yn gwario £168 yr wythnos ar gyfartaledd, tra bod y gost yn £156 yn Lloegr a £157 yn Yr Alban.
Mae’r data ar sail gofal sy’n cael ei gynnig yn breifat neu gan awdurdodau lleol, ac yn cael ei reoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru.
Dyw’r data ddim yn cynnwys y gost ar gyfer gweithgareddau achlysurol fel chwaraeon neu ddrama.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydnabod pwysigrwydd gofal plant a darpariaeth chwarae, gan gynnwys cynlluniau chwarae gwyliau’r haf.
"Mae ein Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 awr o ofal plant wedi'i ariannu yr wythnos, am hyd at 48 wythnos y flwyddyn ar gyfer plant tair a phedair oed i rieni cymwys, sy'n cynnwys rhieni mewn addysg neu hyfforddiant – o’i gymharu â 38 wythnos y flwyddyn yn Lloegr, i rieni sy'n gweithio yn unig," meddai llefarydd.
"Mae hyn yn cynnwys rhywfaint o ddarpariaeth gwyliau.
"Dros wyliau'r haf rydyn ni hefyd yn ariannu ein cynllun Gwaith Chwarae, gan ddarparu cyfleoedd chwarae o ansawdd uchel.
"Ar ben hynny, mae ein cynllun Bwyd a Hwyl ar gael ym mhob un o ardaloedd yr awdurdodau lleol, ac mae’r cynllun hwnnw’n mynd i’r afael ag atal plant rhag colli prydau bwyd yn ystod y gwyliau.
"Mae awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol hefyd yn gweithio i gefnogi plant a theuluoedd dros yr haf, a dylai rhieni gysylltu â'u Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd am fwy o wybodaeth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2023
- Cyhoeddwyd8 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd15 Awst 2022