'Cost £1m' i'r Sioe Fawr o gwtogi gwyliau haf ysgolion

prif gylch Sioe fawr
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Sioe Fawr yn denu 250,000 o ymwelwyr bob blwyddyn, y mwyafrif yn deuluoedd

  • Cyhoeddwyd

Byddai newid dyddiadau tymhorau ysgol Cymru yn arwain at golli incwm o fwy na £1m i'r Sioe Frenhinol, meddai'r trefnwyr.

Mae Llywodraeth Cymru'n ystyried cwtogi gwyliau haf ysgolion i bum wythnos, gan ddechrau wythnos yn hwyrach.

Byddai hynny'n golygu y byddai ysgolion ar agor yn ystod wythnos draddodiadol y Sioe Frenhinol.

Mae Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru (CAFC) wedi ymateb yn chwyrn i’r cynigion ac yn gwrthwynebu’r newid yn gryf gan ddweud y byddai’n creu niwed ariannol difrifol.

Dywedodd y llywodraeth bod yr ymgynghoriad yn gyfle i greu tymhorau "sy'n gweithio'n well i ddysgwyr, athrawon a staff, ac sy'n rhoi'r cyfle gorau i bawb ffynnu yn yr ysgol".

Mae bron 250,000 o bobl yn ymweld â Sioe Frenhinol Cymru bob blwyddyn, meddai'r trefnwyr.

Yn ôl y gymdeithas, mae effaith economaidd y Sioe yn fwy na £40m ac mae tua £10m o wariant gan ymwelwyr yn ystod y digwyddiad.

Er nad yw CAFC yn erbyn yr egwyddor o addasu’r flwyddyn ysgol, mae nhw’n gofyn am ailystyried y dyddiadau fel bod y sioe yn disgyn o fewn y cyfnod.

Maen nhw’n dweud bod nifer o oblygiadau o newid y tymhorau.

Disgrifiad o’r llun,

Emyr o Lithfaen ym Mhen Llŷn yn cystadlu gyda'i fochyn yn Sioe 2023

Mae'r gymdeithas yn awgrymu y byddai’r newidiadau’n arwain at golli £1m mewn gwerthiannau is wrth y gât, aelodaeth, a refeniw gwersylla.

Maent hefyd yn dweud y byddai llai yn mynychu'r sioe, gan effeithio ar fasnach arddangoswyr a busnesau allanol sy'n elwa o'r digwyddiad.

Mae’r gymdeithas hefyd am dynnu sylw at oblygiadau ymarferol pwysig, megis eu gwasanaeth bysiau.

Mae'r trefnwyr yn hurio dros 50 o fysiau ysgol ar gyfer y cyfleuster parcio a theithio bob blwyddyn, ond petai ysgolion yn dal ar agor yn ystod wythnos y sioe, ni fyddai'r bysiau ar gael.

Dywedodd y gymdeithas hefyd y byddai'n effeithio ar rhai o'r 1,000 o wirfoddolwyr sy'n cyfrannu bob blwyddyn.

Effaith ar ddiwylliant a’r iaith Gymraeg

Yn ôl y trefnwyr, mae cyfran fawr o ymwelwyr y sioe yn bobl ifanc, teuluoedd, athrawon a staff ysgolion.

Byddai newid y tymhorau yn golygu bod miloedd o blant a phobl ifanc yn colli’r cyfle i gystadlu yn y sioe, mewn cystadlaethau ffermwyr ifanc a dosbarthiadau tywysydd ifanc a dosbarthiadau iau, meddai'r trefnwyr.

Yn ôl eu harolygon ymwelwyr, mae’r Gymdeithas yn dweud bod 68% o’u hymwelwyr yn mynychu’r sioe gyda’u teulu.

Disgrifiad o’r llun,

Cyflwynwyr Cyw yn perfformio'n fyw yn y Sioe Fawr y llynedd

Dywed y gymdeithas bod y sioe yn uchafbwynt y flwyddyn i lawer, ac fel un o brif ddigwyddiadau cenedlaethol Cymru, yn chwarae rhan wrth hybu diwylliant a'r iaith Gymraeg.

Yn ôl data’r cyfrifiad, mae 43% o weithwyr yn y diwydiant amaethyddol yn siarad Cymraeg, canran sydd gryn dipyn yn uwch na’r cyfartaledd o 19% o fewn y boblogaeth gyffredinol.

Mae’r gymdeithas hefyd yn credu bod y dioe yn sylfaenol bwysig i hyrwyddo’r diwydiant ac i bontio’r rhaniad rhwng cymunedau trefol a gwledig.

Maen nhw’n dweud eu bod yn bryderus y gallai’r newidiadau gael effaith hirdymor ar ddiwylliant a ffyniant yr iaith.

Ymateb y llywodraeth

Os yw'r cynlluniau'n cael eu cymeradwyo, byddai'n dod i rym yn 2025-26, gyda gwyliau hanner tymor mis Hydref yn ymestyn i bythefnos.

Daw'r cynlluniau wedi gwaith ymchwil ar strwythur y flwyddyn ysgol yng Nghymru.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, byddai'r newidiadau'n cefnogi plant mwy difreintiedig ac yn hybu lles disgyblion ac athrawon.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dyma gyfle i ddylunio calendr ysgol sy'n gweithio'n well i ddysgwyr, athrawon a staff, ac sy'n rhoi'r cyfle gorau i bawb ffynnu yn yr ysgol.

"Rydym yn parhau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys Sioe Frenhinol Cymru, ac mae'r ymgynghoriad cyhoeddus yn cynnig cyfle i bawb leisio eu barn ar y cynigion."

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynlluniau yn dod i ben ar 12 Chwefror.