Marwolaeth bachgen 9 oed ar fferm yn 'ddamwain'

Tomos Rhys BunfordFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Tomos Rhys Bunford ar ôl cael ei daro gan y cerbyd roedd yn teithio ynddo gyda’i deulu

  • Cyhoeddwyd

Mae crwner wedi cofnodi mai damwain oedd achos marwolaeth bachgen 9 oed ar dir fferm yn y Rhondda.

Bu farw Tomos Rhys Bunford ym mis Medi 2021 ar ôl cael ei daro gan y cerbyd roedd yn teithio ynddo gyda’i deulu.

Roedd wedi mynd gyda’i dad a’i fam, ei frawd hŷn a’i chwaer - oedd yn fabi ar y pryd - o’i fferm yn ardal Ynysybwl ger Pontypridd ychydig filltiroedd i ffwrdd i gae ym Mlaenllechau yng Nghwm Rhondda, lle roedden nhw’n cadw lloi.

Roedd y teulu yn teithio mewn cerbyd Mitsubishi oedd yn tynnu tanc dŵr ar drelar lawr y cae serth pan gollodd ei dad, Rhys Bunford, reolaeth ar y cerbyd.

Fe waeddodd ar ei deulu i neidio allan oherwydd ei fod yn poeni y gallai’r cerbyd lithro lawr y cae a mynd dros glogwyn serth islaw.

Clywodd y gwrandawiad yn llys y crwner ym Mhontypridd bod Tomos wedi neidio allan ond y cafodd ei ddal o dan y cerbyd wrth iddo newid cyfeiriad.

Er gwaetha' ymdrechion parafeddygon a thimau meddygol i’w adfer, bu farw yn y fan a’r lle.

Dywedodd ei fam, Louise Bunford, ei bod hithau wedi cael ei dal o dan y cerbyd gyda'r babi ar ei brest.

Llwyddodd i daflu'r ferch fach at ei mab hynaf, Gethin, cyn iddo ef a'i dad lwyddo i'w rhyddhau hi.

Disgrifiodd wrth y llys sut yr oedden nhw'n credu bod Tomos yn ddiogel, ond ei bod hi wedi sylwi arno yn gorwedd ar y ddaear "fel pêl fach".

Ffynhonnell y llun, Pontypridd RFC
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd munud o dawelwch ei gynnal i Tomos gan dîm ieuenctid Pontypridd RFC yn dilyn ei farwolaeth yn 2021

Roedd Rhys Bunford yn emosiynol wrth iddo roi tystiolaeth i'r llys.

Dywedodd bod Tomos wrth ei fodd gyda ffermio, a bod ei rieni wedi prynu llo iddo.

"Roedd yn mynd a'r llo am dro ar dennyn ar hyd clos y fferm," meddai.

Bu'n sôn bod ei fab wedi eillio gwallt y llo.

"Roedd yn fachgen doniol, fel 'na," meddai.

"Os oedd e'n dawel, roedden ni'n gwybod ei fod yn gwneud rhyw ddrygioni."

Dangosodd tystiolaeth feddygol bod Tomos wedi marw o anafiadau i’w frest a’i abdomen, ac fe gofnododd crwner cynorthwyol de Cymru, Gavin Knox, ei fod wedi marw’n ddamweiniol.

Pynciau cysylltiedig