Galw am wella cyfleoedd i bobl ifanc â nam golwg

Gareth
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth yn teimlo fod darganfod Pêl-Gôl wedi achub ei fywyd

  • Cyhoeddwyd

Mae angen cynnig mwy o gyfleoedd i bobl ifanc â nam golwg i gymryd rhan mewn chwaraeon, yn ôl un teulu o Sir Gâr.

Mae Gareth o Drefach yn Llanelli yn byw â chyflwr Bardet-Biedl - cyflwr genetig prin sy’n effeithio ar un ymhob 100,000 o bobl.

Mae’n gallu effeithio ar y golwg, ar yr arennau, ac yn gallu golygu nad yw’r corff bob amser yn gwybod pryd i stopio bwyta.

Roedd ceisio cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol yn heriol i Gareth, a chymdeithasu hefyd yn broblem.

Ond yr hyn sydd wedi newid popeth iddo yw darganfod Pêl-Gôl.

'Wedi achub fy mywyd i'

"Dwi’n meddwl bod Goalball wedi achub fy mywyd i," esboniodd Gareth.

"Mae e really wedi newid popeth, achos o’r blaen o'n i ddim yn 'neud llawer o chwaraeon, o'n i ddim isie neud e, o'n i ddim yn gallu 'neud e achos y golwg.

"Ond ‘dwi wedi dechre 'neud y chwaraeon hyn, sy’n gadael i fi fod yn fi fy hunan rownd pobl, a gadael fi wthio fy hunan fel dwi isie. Mae e wedi newid popeth.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gwennan Young yn ymwybodol o effaith bositif camp Pêl-Gôl ar yr unigolion sy'n cymryd rhan

Mae’r gamp wedi cael effaith bositif ar bawb sy’n rhan o dîm Pêl-Gôl De Cymru, yn ôl Gwennan Young, sy’n chwarae ac yn gwirfoddoli gyda’r grŵp.

“Mae profiadau pobl â nam ar eu golwg o chwaraeon yn gallu bod mor negyddol," meddai.

"Mae ysgolion yn trio’u gorau i gynnwys pawb ond mae mor anodd.

"Mae cymaint o gampau sy' jyst yn amhosib i bobl â nam ar eu golwg i fod yn rhan ohonyn nhw, a mae e wir yn rhoi pobl off am oes.

"Pryd maen nhw’n fach fach, maen nhw’n meddwl ‘o, 'na ni te, fi ddim yn berson sy’n 'neud chwaraeon… fi ddim yn rhywun sy’n mynd i fod yn ffit a pethe'.

"Felly mae dod i rywbeth fel Pêl-Gôl, mae’n newid bywydau pobl, a fi 'di gweld e’n hunan.”

Beth yw Pêl-Gôl?

Mae e’n gamp ar gyfer pobl sydd â nam golwg yn benodol.

“Mae gyda ni mwgwd - eyeshades, ma' nhw'n galw nhw - a mae gyda chi gôl naw medr o hyd a ma' tri person ar y cwrt," eglura Gareth.

"Mae un ar yr ochr chwith, un yn y canol, ac un ar y dde, a ma' nhw i gyd yn trio amddiffyn y gôl, a wedyn yn trio cael y bêl mewn i gôl y bobl ar yr ochr arall.

"Mae’r bêl yn pwyso 1.25kg, a mae dwy gloch tu fewn iddo fe fel bod y chwaraewyr yn gallu clywed ble mae’r bêl ar y cwrt.”

Ffynhonnell y llun, Pêl-Gôl De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r gamp wedi cael effaith bositif ar y rhai sy'n cymryd rhan

Mae darganfod Pêl-Gôl a dechrau rhedeg wedi gwneud gwahaniaeth mawr i fywyd Gareth, ac wedi ei helpu i golli dwy stôn o bwysau.

“Ma fe jyst wedi newid e’n llwyr yn gorfforol” yn ôl ei fam, Helen.

“Bob tro ni’n mynd nôl i’r apwyntiadau mae pawb yn gweud pa mor dda ma’ fe’n gwneud – synnu shwt mae e’n gallu 'neud cystal gyda’r cyflwr sydd arno fe – a’r ymarfer corff sydd wedi neud ‘na – cyfuniad o ddeiet ac ymarfer corff."

'Newid ei fywyd yn llwyr'

I Gareth, mae mynd i’r ysgol yn cynnig sawl her ychwanegol, ond mae ei fam yn teimlo fod Pêl-Gôl wedi cynnig rhyw fath o achubiaeth.

“Mae Pêl-Gôl wedi achub ei fywyd e achos cyn hyn doedd dim ffocws gyda fe," meddai Helen.

"Oedd e’n mynd i’r ysgol, ond doedd e ddim really yn gallu cymdeithasu yn yr ysgol.

"Mae problem synhwyredd gyda fe a mae gormod o sŵn.

"Mae’n isel ofnadw ambell i wythnos a’r unig beth sy’n cadw iddo fe fynd yw bod ymarfer Pêl-Gôl ar y dydd Sadwrn neu bod twrnament yn dod.

"Mae e wedi newid ei fywyd e’n llwyr.”

Disgrifiad o’r llun,

Mae Helen yn teimlo fod Pêl-Gôl wedi achub bywyd ei mab

Mae’r teulu’n teithio i Gaerdydd er mwyn chwarae gyda thîm Pêl-Gôl De Cymru, ac yn rhwystredig nad oes mwy o gyfleoedd yn agosach at adref.

“Y pella' i’r gorllewin ni’n mynd, does ‘na ddim cyfleoedd mewn gwirionedd," meddai Helen.

"Does dim byd really i oedran Gareth. Mae pethau i blant ac mae pethe i’r genhedlaeth hŷn ond o ran pobl yn eu harddegau ac 20iau a 30au falle, does ‘na ddim cyfleoedd yn y gorllewin.

"Fi’n gallu gweld cymaint o fwlch sydd ‘na a fi’n meddwl, faint o bobl eraill fel Gareth sydd yn y gorllewin sy’n delio ag iselder a sy’n colli golwg a sydd â dim darpariaeth ar eu cyfer nhw?”

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin eu bod nhw’n “gweithio’n agos gyda Chwaraeon Anabledd Cymru er mwyn bod yn gynhwysol, a chynnig cyfleoedd penodol ar gyfer pobl ag anableddau".

Fe ychwanegon nhw y byddai modd cynnig cyngor penodol i Gareth petai’n cysylltu â’r cyngor.

Ffynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Gareth yn paratoi ar gyfer hanner marathon y London Landmarks yn Llundain

Mae Goalball UK wedi cadarnhau bod cynlluniau i ddechrau tîm Pêl-Gôl yn Wrecsam cyn hir.

Petai'r peilot yn llwyddiannus, fe allai tîm gael ei sefydlu yn y gogledd-orllewin hefyd.

Mae Gareth yn dal i wynebu sawl her o ddydd i ddydd, ond yr heriau ym myd y campau sy’n cael ei sylw mwyaf erbyn hyn.

Fe fydd e’n cael treialon cyn hir i fod yn rhan o dîm Pêl-Gôl Prydain, ond cyn hynny, mae’n brysur yn paratoi ar gyfer hanner marathon y London Landmarks yn Llundain.

“Dwi’n eitha' cyffrous, ond yn eitha' nerfus,” meddai

Mae darganfod chwaraeon wedi trawsnewid ei fywyd, a thrwy rannu ei stori, mae’n gobeithio y bydd e hefyd yn ysbrydoli eraill.

Pynciau cysylltiedig