Dydd Mawrth: Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd
- Cyhoeddwyd
Dyma rai lluniau o’r Maes ar ddydd Mawrth Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd.

Roedd yna ddrygioni ar y maes heddiw... diolch i Kiri Pritchard-McLean a Maggi Noggi

Llew, Cat, Beti a Nel o Ben Llŷn ar fad achub yr RNLI

Pwy sydd â dant melys? Criw Becws Islwyn ar y Maes

Dwy yn crwydro'r Maes

Gwenllian Ellis oedd yn barod i gynnig cyngor ffasiwn ar stondin ddillad Amdanat

Yr arweinydd Mari Pritchard a'i chôr, Encore, yn paratoi yn y Neuadd Ymgynnull. Roeddent ar fin cystadlu yn y côr i rai 60 a throsodd

Yn ôl pob sôn mae Tomos, Moi a Iago o Ddyffryn Conwy wedi casglu dros fil o bethau am ddim

Y Meuryn a'r Islwyn newydd wrth eu gwaith. Ymryson Barddas yn y Babell Lên gyda Twm Morys (Y Meuryn), Gruffudd Antur (Yr Islwyn newydd), Emyr Lewis a Bethan Gwanas

Iwan Huws o Cowbois Rhos Botwnnog yn canu ar stondin Golwg

Un arall oedd yn crwydro'r maes heddiw oedd pyped o'r enw Broc, sydd wedi ei greu o froc môr. Theatr Genedlaethol Cymru fu'n ei dywys

Bwrdd du yr Ecoamgueddfa. Tybed beth yw Llŷn i chi?

Aeth ambell i Eisteddfodwr ar fordaith o Bwllheli i'r Barri heddiw gyda chriw Kitch n Sync fel rhan o arlwy'r Theatr Stryd a Dawns

Y canwr Gwilym Bowen Rhys ar y ffordd i feirniadu Brwydr y Bandiau Gwerin yn y Tŷ Gwerin gyda Lleuwen Steffan. Mae hi'n wythnos brysur i Gwilym gyda chyfanswm o 19 gig

Dwy gyfneither, Eira o Drawsfynydd ac Isla o Woverhampton yn mwynhau reid gyda 'Chartŵn Byw' Gary a Pel

Syched ddiwedd dydd... i bobl ac un ci bach
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Awst 2023